Mynd i'r cynnwys

Lleoedd Bwyd Cynaliadwy

Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy gynt) yw un o’r mudiadau cymdeithasol sy’n tyfu gyflymaf heddiw ac rydym yn falch iawn bod Bwyd Caerdydd yn un o’i aelodau sefydlu. Mae ei rwydwaith yn dwyn ynghyd bartneriaethau bwyd arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, rhanbarthau a siroedd ar hyd a lled y DU sy’n symbylu arloesedd ac arfer gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy.

Synnwyr Bwyd Cymru yw partner cenedlaethol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru ac ry’n ni’n cefnogi’r naw aelod cyfredol yng Nghymru, sef Bwyd CaerdyddBwyd y Fro, Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy, Bwyd RCT, Phartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, Partneriaeth Bwyd Powys, Bwyd Sir Gâr Fwyd yn Sir Gaerfyrddin, Bwyd Abertawe a Phartneriaeth Bwyd Torfaen.

Wedi bod yn allweddol o ran sefydlu a meithrin partneriaethau bwyd fel rhan o’i waith yn arwain y rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru, mae’n bleser gan Synnwyr Bwyd Cymru gefnogi Llywodraeth Cymru a’r holl bartneriaid sy’n gysylltiedig â’r rhaglen (Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol yn ogystal â rhanddeiliaid ymroddedig eraill megis sefydliadau gwirfoddol, elusennau, busnesau bwyd, manwerthwyr, cyfanwerthwyr, tyfwyr a ffermwyr) i weithredu ariannu’r patrneriaethau bwyd traws-sector yng Nghymru.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod yn annog ardaloedd a chymunedau ar draws Cymru i ymuno gan helpu i arwain y ffordd o ran sefydlu a thyfu seilwaith sy’n seiliedig ar le, gan gyfrannu at ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ a fydd o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau ledled Cymru.

Cydnabu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd Llywodraeth Cymru bwysigrwydd sefydlu Partneriaethau Bwyd Cynaliadwy newydd yng Nghymru yn 2020, a rhoddwyd statws blaenoriaeth un i Synnwyr Bwyd Cymru a Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i ddatblygu partneriaethau bwyd lleol ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru.

Gwyliwch fideo sy’n rhoi blas i chi o Leoedd Bwyd Cynaliadwy:

Ewch i’r wefan
Cyswllt

Gwybodaeth bellach ynglyn ag aelodau cyfredol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru: