Partneriaeth Bwyd Rhondda Cynon Taf yn ennill Gwobr Efydd Genedlaethol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy

Mae’n bleser gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gyhoeddi bod Partneriaeth Bwyd RhCT wedi ennill Gwobr Efydd genedlaethol fawreddog Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Mae’r wobr yn cydnabod y gwaith partneriaeth cymunedol rhagorol sy’n cael ei wneud ledled y Fwrdeistref Sirol i hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy a lleol. Yn ogystal â hyn, mae’r wobr yn tynnu sylw at ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol sylweddol megis tlodi bwyd, salwch sy’n gysylltiedig â deiet, dirywiad ffermydd teuluol, a cholli manwerthwyr bwyd annibynnol.

Meddai’r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o dderbyn Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ar ran Partneriaeth Bwyd RhCT am ei gwaith rhagorol yn hyrwyddo arferion bwyd cynaliadwy yn ein cymuned.

“Mae ymrwymiad Carfan Datblygu’r Gymuned i hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy wedi cyfrannu at newid cymdeithasol cadarnhaol ledled y Fwrdeistref Sirol tuag at ddyfodol iachach.

“Rydw i’n llongyfarch y garfan, a’r bartneriaeth, am gael eu cydnabod gyda’r wobr haeddiannol yma.”

Mae’r Wobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yma’n wobr genedlaethol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddathliad o sefydliadau sy’n mabwysiadu ymagwedd integredig ar y cyd at fwyd cynaliadwy ac iach. Mae enillwyr y wobr wedi dangos gweithgarwch ac effaith ar draws eu system fwyd i greu ‘Mudiad Bwyd Da’ lleol. Mae’r Wobr Efydd yn gydnabyddiaeth o waith rhagorol y bartneriaeth bwyd a rhanddeiliaid ledled Rhondda Cynon Taf.

Bu trawsnewid rhyfeddol o ganlyniad i ymdrechion Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy’r Cyngor, Carfan Datblygu’r Gymuned, a’r ystod eang o bartneriaid cymunedol. Mae pob un ohonyn nhw wedi chwarae rhan allweddol wrth gysylltu rhanddeiliaid yn llwyddiannus, gan gychwyn prosiectau bwyd cymunedol, ac maen nhw wedi parhau i ddatblygu partneriaeth bwyd strategol a gweithredol ar gyfer RhCT.

Mae Grantiau Cymunedol sy’n cael eu rheoli gan garfan Datblygu’r Gymuned, megis y Gronfa Cymorth Bwyd, a gefnogir gan fudiad Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a Trivallis, ynghyd â Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Grant Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf, wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi sefydliadau cymunedol i gyflawni prosiectau sy’n ymwneud â bwyd yn lleol.

Roedd adborth asesiad Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn cynnwys meysydd o arfer rhagorol o ran sefydlu mudiad bwyd da, gan gynnwys cysylltu â’r gymuned a mynediad i asedau, yn ogystal â gwaith gyda thyfwyr, tir, a phrynu ar y cyd. Canmolwyd y cais hefyd am ei allu i bwysleisio taith gadarnhaol tuag at integreiddio systemau bwyd mewn ardal y mae tlodi ac anghydraddoldebau iechyd yn effeithio’n fawr arni.

Mae’r Cyngor yn bwriadu parhau â’r gwaith hanfodol yma gyda’r uchelgais o gyflawni’r Wobr Arian cyn mis Mawrth 2025, a’r Wobr Aur ymhen amser. Bydd y ddwy ohonyn nhw’n parhau i wneud cyfraniadau sylweddol i ymrwymiadau o ran y Newid yn yr Hinsawdd a Chynllun Corfforaethol y Cyngor.

Ar hyn o bryd dim ond tri awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi derbyn y Wobr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ers ei sefydlu yn 2015 ac mae Rhondda Cynon Taf yn un ohonyn nhw.

Dywedodd Leon Ballin, Rheolwr Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy: “Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Phartneriaeth Bwyd RhCT wedi dangos yr hyn y mae modd ei gyflawni pan fydd pobl greadigol ac ymroddedig yn cydweithio i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd ddiffiniol o ble maen nhw’n byw.

“Er bod llawer i’w wneud o hyd a llawer o heriau i’w goresgyn, mae RhCT wedi helpu i osod meincnod i aelodau eraill o Rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU ei ddilyn.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i barhau i drawsnewid diwylliant bwyd a system fwyd RhCT er gwell.”

Mae rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn bartneriaeth rhwng y Soil Association, Food Matters a Sustain. Fe’i hariennir gan Sefydliad Esmée Fairbairn a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n cefnogi lleoedd i drawsnewid diwylliant bwyd.  Synnwyr Bwyd Cymru yw partner cenedlaethol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru ac ry’n ni’n cefnogi’r naw aelod cyfredol yng Nghymru, sef Bwyd Caerdydd,  Bwyd y Fro, Partneriaeth Bwyd Sir FynwyBwyd RCT, Phartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, Partneriaeth Bwyd Powys, Bwyd Sir Gâr Fwyd yn Sir Gaerfyrddin, Bwyd Abertawe a Phartneriaeth Bwyd Torfaen.

Mae’r rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn gweithio ar draws chwe maes allweddol:

  1. Mabwysiadu ymagwedd strategol a chydweithredol at lywodraethu a gweithredu mewn perthynas â bwyd da
  2. Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, dinasyddiaeth fwyd weithredol a mudiad bwyd da lleol
  3. Mynd i’r afael â thlodi bwyd, afiechyd sy’n gysylltiedig â deiet a mynediad at fwyd iach fforddiadwy
  4. Creu economi bwyd cynaliadwy bywiog, ffyniannus ac amrywiol
  5. Trawsnewid arlwyo a chaffael ac adfywio cadwyni cyflenwi lleol
  1. Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur drwy fwyd a ffermio cynaliadwy a rhoi diwedd ar wastraff bwyd.

Am ragor o wybodaeth am ‘Lleoedd Bwyd Cynaliadwy’, ewch i https://www.sustainablefoodplaces.org