Mynd i'r cynnwys

Bwyd Abertawe

Wedi’i sefydlu fel mudiad ar lawr gwlad, mae Bwyd Abertawe bellach wedi tyfu i fod yn rhwydwaith o randdeiliaid systemau bwyd yn ardal Dinas a Sir Abertawe, gan gynnwys pawb sydd â diddordeb mewn bwyd cynaliadwy ar gyfer Abertawe.

Wedi’i lywodraethu gan Gylch Gorchwyl, mae’r strwythur eang yn cynnwys Grŵp Llywio, a rhwydwaith ehangach yn ogystal ag is-grwpiau a ffurfiwyd gan y Grŵp Llywio i gyflawni tasgau a phrosiectau penodol o dan gynllun gweithredu Bwyd Abertawe. Mae’r bartneriaeth yn gweithio er budd y cyhoedd trwy fod yn gynwysedig; annibynnol; atebol; tryloyw; moesegol; trwy ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghenion blaenoriaeth ac anelu at effaith fuddiol barhaol.

Pwrpas Grŵp Llywio Bwyd Abertawe yw:

  • darparu cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth i Bwyd Abertawe
  • sicrhau bod gweledigaeth ac amcanion Bwyd Abertawe yn cael eu datblygu a’u cyflawni
  • galluogi Bwyd Abertawe i weithredu fel rhwydwaith cyfranogol, a dylanwadu ar newid ar draws system fwyd Abertawe

I gael rhagor o wybodaeth am Bwyd Abertawe, ewch i’r wefan neu gysylltwch â bwydabertawe@gmail.com