Mynd i'r cynnwys

Bwyd y Fro

Mae Bwyd y Fro yn bartneriaeth o unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau ymroddedig, sy’n cydweithio i greu system fwyd yn y Fro, sy’n ffynnu, ac yn iach a chynaliadwy.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys ystod o randdeiliaid fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg; Tai Newydd; Fareshare Cymru a Cywain, ac mae Bwyd y Fro yn helpu i gydlynu’r camau gweithredu a hyrwyddo systemau bwyd lleol o fewn y sir.

Fel aelod o Rwydwaith Sustainable Food Places, prif flaenoriaethau Bwyd y Fro, wrth ddatblygu Bwyd Da ym Mro Morgannwg yw:

  1. Sicrhau pryd da o fwyd i bawb,  bob dydd
  2. Sicrhau bod busnesau bwyd lleol sy’n ffynnu, yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi
  3. Ystyried y byd, bwyta’n lleol

Mae’r gwerthoedd hyn wedi’u nodi yn Siarter Bwyd y Fro sy’n rhannu’r weledigaeth ar y cyd ar gyfer dyfodol bwyd yn y Fro.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod Bro Morgannwg wedi ennill statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy’n golygu mai dyma’r ail le yn unig yng Nghymru i gael yr anrhydedd.

Darllenwch fwy am waith Bwyd y Fro yma.