Mynd i'r cynnwys

Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent

Sefydlwyd Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent ym mis Mai 2021 gyda’r nod o roi strategaeth uchelgeisiol ar waith sy’n mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd o fewn system fwyd Blaenau Gwent.  Mae’r Bartneriaeth yn chwarae rhan ganolog wrth gydlynu camau gweithredu lleol ar faterion megis mynediad at fwyd, yr amgylchedd a datblygu ‘Mudiad Bwyd Da’.

Yn aelodau o’r Bwrdd Partneriaeth mae Cymdeithas Tai Calon, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin. Rydym yn bartneriaeth sy’n gweithio gyda’n gilydd i greu system fwyd leol sy’n iach, yn fforddiadwy, yn wydn ac yn deg.

Mae’r Bartneriaeth yn cydnabod gwerth aruthrol ymgysylltu a gweithredu cymunedol. Mae pobl o bob oed o bob rhan o’r fwrdeistref yn cael eu cefnogi i ddod yn ddinasyddion bwyd a datblygu gweithgareddau bwyd cadarnhaol yn eu cymuned.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Chris Nottingham, Cydlynydd Partneriaeth Fwyd Blaenau Gwent neu ewch i’r wefan  www.bgfoodpartnership.co.uk