Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Sir Fynwy

Aelod Newydd o Leoedd Bwyd Cynaliadwy

Mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Sir Fynwy yn un o aelodau mwyaf newydd rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.

Ar ôl tyfu a datblygu o weithredu cymunedol lleol, mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Sir Fynwy yn barhad o’r mudiad bwyd da a feithrinwyd eisoes gan bartneriaethau a gweithgareddau bwyd blaenorol ledled y sir.

Mae’r bartneriaeth yn darparu llwyfan ffurfiol ar gyfer sefydliadau, busnesau, cynhyrchwyr ac unigolion sydd â diddordeb yn yr agenda bwyd cynaliadwy ar draws Sir Fynwy. Ymhlith yr aelodau presennol mae Coleg Gwent; Cyngor Sir Fynwy; Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; Ein Bwyd (sefydliad dielw); Adnoddau Naturiol Cymru; NFU Cymru; Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ogystal ag unigolion eraill sydd â diddordeb yn y maes bwyd.

Mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Sir Fynwy yn bwriadu meithrin a datblygu gweithgaredd a fydd yn hwyluso gweledigaeth strategol glir, yn gosod blaenoriaethau, ac yn cynllunio prosiectau, er mwyn sicrhau newid o fewn y sector bwyd. Mae’n gobeithio cynyddu cefnogaeth ar gyfer addysg, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu yn ogystal â chynnig cefnogaeth uniongyrchol i gynhyrchwyr lleol gan hefyd ddylanwadu ar gaffael er mwyn helpu i gynyddu mynediad at fwyd iach a maethlon.

Bydd y bartneriaeth yn adeiladu ar y cyfle i ymgysylltu’n agos â sefydliadau eraill, unigolion, rhwydweithiau neu bartneriaethau sy’n hyrwyddo symudiad uniongyrchol tuag at system fwyd iach a chynaliadwy.

“Rydym yn adeiladu ar y gweithgaredd helaeth sy’n bodoli eisoes yn y gymuned sy’n mynd i’r afael â thlodi bwyd, ac yn hynu mynediad at fwyd maethlon a rheoli tir cynaliadwy ac addysg a hyfforddiant,” meddai Deserie Mansfield, Swyddog Datblygu Bwyd y Rhaglen Wledig yng Nghyngor Sir Fynwy.

“Credwn, trwy feithrin gweithredoedd a fydd yn siapio datblygiad mudiad bwyd da ledled y Sir, y gallwn fod yn gatalydd ar gyfer newid. Rydym yn gweithio tuag at weithgaredd cyd-gysylltiedig, gan gynnig fforwm ar gyfer trafodaeth, rhannu gwybodaeth a gweithredu a fydd o fudd i bob agwedd ar yr agenda fwyd yn Sir Fynwy a’i chyffiniau. Gall hyn gynnwys, ymysg eraill, tlodi bwyd, cynhyrchu bwyd, ffermio / rheoli tir a mynediad, gwastraff bwyd, maeth ac iechyd a lles,” ychwanega Deserie.

Trwy ymgysylltu â chynhyrchwyr, y byd academaidd, cynhyrchwyr bwyd domestig, rhanddeiliaid, asiantaethau swyddogol ac eraill, nod Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Sir Fynwy yw datblygu strategaeth a chynllun gweithredu cysylltiedig sy’n manylu ar nifer o brosiectau allweddol sy’n cysylltu’n uniongyrchol â blaenoriaethau sefydliadau – yn ymwneud â datblygu gweithgaredd sy’n gysylltiedig â bwyd – a fydd o fudd i’r sir a’r holl gyfleoedd datblygu cynaliadwy a fydd ar gael yn y dyfodol.

“Credwn y gallwn, trwy ddatblygu’r bartneriaeth hon, ddylanwadu a sbarduno newid, yn wleidyddol ac yn ymarferol, ledled y Sir,” meddai Deserie. “Credwn, trwy adeiladu ar y gwaith gwych yn ein cymunedau a gwaith sefydliadau allweddol ar draws yr ardal, y byddwn yn gallu cefnogi ein preswylwyr trwy gynyddu argaeledd cynnyrch ffres, lleol, fforddiadwy.

“Rwy’n credu nad oes gan fwyd unrhyw ffiniau ac mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd maethlon,” meddai Deserie. “Fe ddylen ni bob amser fod yn ystyried cyfleoedd ar gyfer effaith gadarnhaol a newidiadau adeiladol ledled y sir, ar draws Cymru ac draws y Byd. Rhaid i’r ystyriaethau hyn effeithio ar newid yn y ffordd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ei becynnu, ei ddosbarthu a’i waredu er mwyn lleihau gwastraff a’n defnydd o ynni. ”

Mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Sir Fynwy yn falch iawn o fod yn rhan o’r Rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac mae’n credu bod cael bod yn rhan o’r grŵp hwn yn cynnig llawer o fuddion a chyfleoedd.

“Mae’r Rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn cynnig cyfle i rannu sgiliau a gwybodaeth ac adeiladu ar yr awydd cynyddol hynny am newid ar y cyd,” ychwanega Deserie. “Bydd bod yn rhan o’r mudiad hwn yn ein galluogi i gefnogi, gwella a lobïo dros ddatblygu twf economaidd cynaliadwy sy’n cynnig amrywiaeth a gwell reolaeth ar dir ar gyfer cynhyrchu bwyd ynghyd â mynediad at gynnyrch a dyfir yn lleol – gan wella hunangynhaliaeth a chadw a gwella ein hadnoddau naturiol. ”

Ar hyn o bryd mae Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Sir Fynwy yn ehangu ei haelodaeth ac yn annog y rhai sydd â diddordeb mewn datblygu gweithredoedd ar gyfer mudiad bwyd da i gysylltu â’r cydlynydd, Deserie Mansfield

deseriemansfield@monmoutshire.gov.uk