Sir Gaerfyrddin yn dathlu blas ar lwyddiant

Mae Sir Gaerfyrddin wedi ennill dyfarniad mawreddog, sef statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i gydnabod ei hymrwymiad i ddatblygu system fwyd lewyrchus, gynaliadwy, gynhwysol a chydnerth ledled y sir.

Mae Dyfarniad Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddyfarniadau cenedlaethol, seiliedig ar dystiolaeth, sy’n dathlu siroedd, trefi neu ddinasoedd yn defnyddio dull cydgysylltiedig a chyfannol o ymdrin â bwyd cynaliadwy ac iach. Mae yna dair lefel o ddyfarniad – Efydd, Arian ac Aur – ac mae pob un yn gwobrwyo ymdrechion rhagorol partneriaethau bwyd a rhanddeiliaid lleol.

Cydlynir y gwaith yn Sir Gaerfyrddin gan Bwyd Sir Gâr Food – partneriaeth fwyd leol sy’n cynnwys sefydliadau, busnesau, unigolion a grwpiau cymunedol ymroddedig, sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu system fwyd ffyniannus, iach a chynaliadwy yn y sir.

Dywedodd Leon Ballin, Rheolwr Rhaglenni Lleoedd Bwyd Cynaliadwy: “Mae Sir Gaerfyrddin wedi dangos beth yn union y gellir ei gyflawni pan fydd pobl greadigol ac ymroddedig yn cydweithio i sicrhau bod bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd ddiffiniol o le y maent yn byw. Er bod yna lawer i’w wneud o hyd a llawer o heriau i’w goresgyn, mae Bwyd Sir Gâr Food wedi helpu i osod meincnod i aelodau eraill o Rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU ei ddilyn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod i barhau i drawsnewid diwylliant bwyd a system fwyd Sir Gaerfyrddin er gwell.”

Mae partneriaeth Bwyd Sir Gâr Food yn aelod o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy oddi ar 2021, ac mae’n cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Synnwyr Bwyd Cymru, a Castell Howell.

Mae effaith Bwyd Sir Gâr Food yn ymestyn ar draws y sir, ac mae prosiectau a mentrau diweddar wedi cynnwys:

  • Rhaglen beilot, a ariennir gan y Rhaglen Datblygu Gwledig yn rhan o’r prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn, sy’n archwilio trefniadau caffael cyhoeddus lleol a chynaliadwy, ac yn datblygu sector garddwriaeth gwydn a chynaliadwy trwy fodel canolfan fwyd dan arweiniad Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
  • Datblygu prosiect cymunedol trwy Rwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin i feithrin mynediad teg at fwyd maethlon, da trwy fodel tyfu, coginio, rhannu prydau bwyd cymunedol, gan weithio trwy Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin a chyda Tîm Gwella Iechyd Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, datblygu prosiect i archwilio Prydau Ysgol i Sbarduno Newid Cymdeithasol, Economaidd ac Amgylcheddol dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol trwy’r rhaglen Bwyd a Hwyl yn Sir Gaerfyrddin
  • Gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol i helpu i lunio dull strategol o ymdrin â bwyd ar lefel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC)
  • Sicrhau Cyllid Ffyniant Cyffredin y DU ar gyfer Prosiect Datblygu Systemau Bwyd i adeiladu ar waith presennol sy’n cynnwys tri llinyn:
    • Rheoli Tir mewn modd Strategol ar gyfer Nwyddau Cyhoeddus
    • Cysylltiadau Cymunedol a Gwella Mynediad at Fwyd Iach
    • Cyfathrebu
  • Bod yn rhan o Gylch Peiriannau a ariennir gan Cyllid Ffyniant Cyffredin y DU, sy’n cael ei ddatblygu a’i ddarparu gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ac a fydd yn galluogi tyfwyr ar raddfa fach i fenthyg peiriannau i’w defnyddio ar eu tir yn Sir Gaerfyrddin
Aelodau grŵp llywio Bwyd Sir Gâr Food

“Mae wedi bod yn bleser cydlynu grŵp mor frwdfrydig ac uchelgeisiol yn ystod y 18 mis diwethaf,” meddai Augusta Lewis, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Sir Gaerfyrddin.

“Mae bwyd yn thema drawsbynciol sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant cymunedol, yr economi leol, a’r amgylchedd. Mae defnyddio dull ‘system gyfan’ aml-sector wedi ein galluogi i ddod yn fwy na’n cydrannau unigol, ac i weithio ar y cyd ar gyfer y nod cyffredin o sicrhau system fwyd leol gynaliadwy, gynhwysol, wydn ac amrywiol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym wedi datblygu prosiectau yn seiliedig ar yr hyn y mae cymunedau Sir Gaerfyrddin wedi dweud wrthym y mae ei eisiau a’i angen, ac rydym wrth ein bodd bod ein hymdrechion wedi cael eu cydnabod trwy i ni ennill ein dyfarniad efydd. Rydym ‘nawr yn awyddus i adeiladu ar y gwaith sylfaenol hwn, gan ymgysylltu ymhellach â chymunedau, busnesau, y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus, i greu system fwyd ffyniannus, amrywiol, iach a gwydn ar gyfer y sir.”

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio, Cyngor Sir Caerfyrddin, ac aelod o grŵp llywio’r bartneriaeth: “Rwyf wrth fy modd bod Bwyd Sir Gâr Food wedi ennill statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a bod y corff dyfarnu wedi cydnabod ei gyflawniadau. Trwy ddod â rhanddeiliaid ynghyd trwy Bartneriaeth Bwyd Sir Gâr Food, rydym yn mabwysiadu dull system gyfan o fynd i’r afael â rhai o’r heriau y mae trigolion a chymunedau Sir Gaerfyrddin yn eu hwynebu. Yn yr hinsawdd economaidd ac amgylcheddol sydd ohoni, mae Bwyd Sir Gâr Food yn gweithio i nodi cyfleoedd allweddol a all helpu i oresgyn y gwendidau yn ein system fwyd leol mewn sir sydd at ei gilydd yn wledig ac sy’n cynhyrchu bwyd.”

Mae Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn un o’r mudiadau cymdeithasol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae ei rwydwaith yn dod â phartneriaethau bwyd arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, rhanbarthau a siroedd ledled y DU at ei gilydd, partneriaethau sy’n sbarduno arloesedd ac arfer gorau mewn perthynas â phob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy.

“Rwyf mor falch bod Sir Gaerfyrddin wedi ennill Statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy,” meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglenni ar gyfer Synnwyr Bwyd Cymru, sef partner cenedlaethol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru.

“Mae’r dyfarniad hwn yn dangos effaith gadarnhaol pobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau yn cydweithio i ysgogi newid, a bydd hynny o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau ar hyd a lled Cymru,” ychwanegodd Katie.

“Mae Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni cymaint ers dod yn aelod o’r rhwydwaith yn 2021, gan gefnogi arferion cynhyrchu bwyd cynaliadwy, yn ogystal â datblygu cadwyni cyflenwi amaethecolegol; cynyddu cyfanswm y bwyd lleol sy’n cael ei weini ar y plât cyhoeddus, ac annog dinasyddiaeth fwyd a chyfranogiad mewn cymunedau ledled y sir. Mae’r gwaith a wnaed yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei ddefnyddio hefyd i ddatblygu’r achos dros feithrin partneriaethau bwyd ledled Cymru – model y mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi tynnu sylw ato yn y strategaeth #CymruCan newydd fel cyfle i helpu Cymru i gyflawni ei nodau llesiant. Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn ‘nawr ynghylch gweld y modd y mae prosiectau’n datblygu a’r modd y mae’r bartneriaeth yn effeithio ar ddyfodol bwyd Sir Gaerfyrddin.”

DIWEDD

Llun (Chwith – Dde): Sara Rees, Tim Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Cara Wilson, Cyfoeth Naturiol Cymru; Alex Cook, Cyngor Sir Gâr; Augusta Lewis, Cydlynydd Bwyd Sir Gâr Food; Carwyn Graves, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant; Cyngh. Ann Davies, Cyngor Sir Gâr; Alex Nicholas, Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr a Laura Thomas, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.