Bwyd RCT

Aelod Newydd o Leoedd Bwyd Cynaliadwy

Mae Bwyd RCT yn bartneriaeth fwyd newydd sy’n cael ei chydlynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Ei gweledigaeth yw sicrhau bod gan bawb sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â Rhondda Cynon Taf fynediad at fwyd iach, blasus a fforddiadwy sy’n dda i’r amgylchedd ac i’r economi leol.

Ar ôl dod yn aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar, sefydlwyd Bwyd RCT yn dilyn digwyddiad Rhwydwaith Datrysiadau Tyfu Cymunedol a gynhaliwyd gan Interlink ym mis Gorffennaf 2020. Mynychwyd y digwyddiad gan nifer o randdeiliaid, gan gynnwys grwpiau cymunedol lleol, sefydliadau trydydd sector, gweithwyr iechyd proffesiynol, cynrychiolwyr o’r Awdurdod Lleol ynghyd â busnesau lleol. Ar ôl trafod opsiynau o ran y ffyrdd ymlaen, fe benderfynwyd y dylai’r bartneriaeth wneud cais am gymorth Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i ddechrau dull cydweithredol o ddatblygu Mudiad Bwyd Da yn Rhondda Cynon Taf.

Yn dilyn Grant Datblygu llwyddiannus, mae Bwyd RCT bellach wedi dod yn Aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac yn ddiweddar, fe benodwyd Sam Evans yn Gydlynydd Bwyd Cynaliadwy.

“Mae’n wych bod yn aelod o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac edrychwn ymlaen at ddatblygu a gweithredu ein cynllun gwaith – sy’n cynnwys cryfhau ein Grŵp Llywio a thyfu ein Rhwydwaith Bwyd Cynaliadwy ymhellach,” meddai Sam.

“Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol yn Rhondda Cynon Taf ac yn y pen draw rydym yn gobeithio gweithio tuag at wobr Aur,” atega Sam. “Rydyn ni, ynghyd â’n partneriaid, eisiau cael effaith ar newid hinsawdd trwy’r bwyd rydyn ni’n ei dyfu, ei werthu a’i fwyta. Rydym yn anelu at feithrin a datblygu Mudiad Bwyd Da yn Rhondda Cynon Taf a fydd yn darparu bwyd iach i bawb; helpu i wella iechyd pobl; creu economi bwyd cynaliadwy lleol ac yn y pen draw, sicrhau bod y bwyd rydyn ni’n ei fwyta a’i fwyta yn dda i’r blaned.

“Mae gan Bwyd RCT botensial enfawr i ddatblygu buddion i bobl Rhondda Cynon Taf trwy ddarparu mwy o gyfleoedd i dyfu, prynu a bwyta mwy o fwyd cynaliadwy a gynhyrchir yn lleol. Mae’r bartneriaeth hefyd yn cynnig y potensial i gyflawni a chefnogi datblygiad economi bwyd cynaliadwy lleol ynghyd â thynnu sylw at y buddion amgylcheddol y gall arferion bwyd cynaliadwy eu cael ar yr amgylchedd lleol, megis lleihau allyriadau CO2 a gwella iechyd y pridd.”

Os hoffech wybod mwy am bartneriaeth Bwyd RCT, neu os hoffech chi fod yn rhan o Fudiad Bwyd Da yn Rhondda Cynon Taf, cysylltwch â Sam Evans, Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy Bwyd RCT trwy e-bostio Sam.Evans@rctcbc.gov.uk neu ffonio 07385 401 835.