Mynd i'r cynnwys

Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy

Menter gydweithredol sirol o bobl a sefydliadau o’r sector cymunedol, y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat yw Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy sydd wedi ymrwymo i gymryd camau cadarnhaol tuag at system fwyd gynaliadwy yn y sir a thu hwnt. Nod Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yw:

  • cysylltu pobl, prosiectau a phartneriaid i ddatblygu system fwyd leol a chynaliadwy
  • cymryd camau ar y cyd i lunio’r system fwyd leol
  • bod yn llais cyfunol ar gyfer bwyd sy’n dylanwadu’n gadarnhaol ar bolisïau ac yn rhannu arfer gorau

Mae gan y Bartneriaeth ddiddordeb arbennig mewn addysg a menter, yn eu hystyr ehangaf. Ymysg y gweithgaredd presennol mae:

  • datblygu cyrsiau coginio i’w cyflwyno gan aelodau’r gymuned
  • cysylltu cynhyrchwyr bwyd lleol ac ysgolion drwy alwadau fideo rheolaidd
  • cysylltu busnesau bwyd â phrynwyr ac â’i gilydd
  • cefnogi cymunedau i dyfu eu bwyd eu hunain
  • gwella dealltwriaeth a chanfyddiadau’r cyhoedd o amaethyddiaeth a gyrfaoedd yn y byd amaeth
  • datblygu cadwyni cyflenwi lleol yn y sector cyhoeddus

Ar lefel polisi a strategaeth, mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn cael ei chydnabod gan Fwrdd Rhaglen Sir Fynwy fel partner cyflawni strategol ar gyfer Amcanion Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a chyfeirir at y Bartneriaeth hefyd fel ‘Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol’ Cyngor Sir Fynwy. Gan adlewyrchu lleoliad daearyddol Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy, mae hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaethau bwyd trawsffiniol i ategu gweithgareddau Partneriaeth Strategol y Gororau, sy’n bartneriaeth newydd.

Cliciwch yma i ddarllen Siarter Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â  Marianne Fisher, Cydlynydd Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy neu ebostiwch food@monmouthshire.gov.uk