Synnwyr Bwyd Cymru yn cyhoeddi ei Adroddiad Cynnydd diweddaraf
Wrth i ni gyhoeddi ein Hadroddiad Cynnydd diweddaraf – ac wrth i’n Sylfaenydd a’n Pennaeth, Katie Palmer, baratoi i gamu lawr o’i rôl – dyma hi’n myfyrio ar uchafbwyntiau’r 12 mis diwethaf.
Y llynedd (2025) fe wnaethom gyhoeddi dau adroddiad arwyddocaol: Tunelli o Newid, sy’n disgrifio ein taith wrth ddatblygu’r cynllun peilot Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, ac Adroddiad Statws Partneriaethau Bwyd Lleol 2025, sy’n dogfennu’r cynnydd a wnaed i ddatblygu rhwydwaith o Bartneriaethau Bwyd Lleol ledled Cymru. Eleni, wrth i un cylch gwleidyddol ddod i ben a’r un nesaf ddechrau, rydym yn myfyrio ar y cynnydd a wnaed i adeiladu’r seiliau hyn – y seiliau sy’n ffurfio’r seilwaith hollbwysig i greu cadwyni cyflenwi gwydn yn wyneb ansicrwydd cynyddol.
Ein dull ni fu cydblethu polisi bwyd da gydag adeiladu’r mudiad ar lawr gwlad ac eirioli ar lefel genedlaethol a lleol er mwyn sicrhau’r asedau sydd eu hangen i adeiladu system fwyd sy’n cefnogi pobl a’r blaned. Mae cynnydd ac effaith ein dwy raglen waith flaenllaw, Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion a Phartneriaethau Bwyd Lleol (wedi’u cefnogi gan Lleoedd Bwyd Cynaliadwy), yn tynnu sylw at y ffordd rydym wedi plethu ein heiriolaeth a’n gweithredu ynghyd, gan ein galluogi i rannu straeon llwyddiant ac amlygu’r heriau y mae cymunedau ledled Cymru yn eu hwynebu.
Mae’r Adroddiad Cynnydd hwn yn eich tywys drwy uchafbwyntiau ein gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae’n disgrifio sut y mae gweithio mewn partneriaeth gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol (gweler Bwyd Ein Dyfodol ac Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025), a gweithio ar draws adrannau Llywodraeth Cymru (gweler y Strategaeth Bwyd Cymunedol) wedi creu dwy ar hugain o Bartneriaethau Bwyd Lleol sy’n cydweithio â Chyrff Cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ysgogi newid mewn systemau bwyd lleol, ac ymateb i heriau mynediad cyfartal a bygythiadau i wydnwch.
Mae’r Adroddiad hefyd yn pwysleisio sut y mae Synnwyr Bwyd Cymru yn dod â chymunedau o arbenigwyr ynghyd. Er enghraifft, yn ein hadroddiad a ysgrifennwyd ar y cyd gyda Phrifysgol Caerdydd, Y cysylltiadau rhwng Bwyd a Thai, daethpwyd ag ymarferwyr o faes tai cymdeithasol, Partneriaethau Bwyd Lleol ac ymchwilwyr sy’n arbenigo mewn trawsnewid systemau bwyd ynghyd i gyfnewid syniadau gan weithio tuag at uchelgais gyffredin o roi bwyd wrth wraidd tai cymdeithasol iach. Un enghraifft hyfryd o’r gwaith partneriaeth hwn ar waith yw ein cyfres o fideos Partneriaethau Bwyd Lleol sy’n dangos y prosiect Down to Zero, sydd wedi’i gefnogi gan Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf a Phartneriaeth Bwyd RhCT.
Mae ein hadroddiad Cynnydd yn disgrifio sut y mae Bwyd Caerdydd, Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy gyntaf Cymru, wedi gweithio ar lefel dinas gyfan fel rhan o raglen Pontio’r Bwlch
y DU, i dreialu dull gweithredu gyda Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd i sicrhau bod bwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur ar gael i bawb. Mae Adroddiad Cerdyn y Blaned Caerdydd yn cyflwyno her feiddgar ynglŷn â dyrannu arian cyhoeddus ac yn nodi y dylai adnoddau sy’n cael eu hanelu at les a chymorth bwyd mewn argyfwng gael ei sianelu drwy systemau bwyd lleol – y rhai sy’n cefnogi economïau lleol ac sy’n cynhyrchu bwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur – er mwyn creu’r elw cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd mwyaf ar fuddsoddiad. Gallwch ddarllen mwy hefyd am gyflawniadau Bwyd Caerdydd yn Adroddiad Cynnydd Bwyd Caerdydd.Ond mae mwy i’n gwaith ar fynediad at fwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur na hyn. Yn Adroddiad Cynnydd Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion 2026, rydym yn disgrifio cynnydd ein gwaith gyda Lantra a phartneriaid ehangach yng Nghymru a’r DU (gyda Sustain drwy’r Rhaglen Pontio’r Bwlch a’r Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru) i ddatblygu cadwyni cyflenwi garddwriaeth organig lleol drwy’r cynllun Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Mae gan y mudiad Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion uchelgais fawr, mae ganddo amrywiaeth eang o randdeiliaid ac mae’n benderfynol o weithio tuag at ein targed ar y cyd o sicrhau bod 25% o’r llysiau sy’n cael eu gweini mewn ysgolion cynradd yng Nghymru yn cael eu cynhyrchu’n organig. Mae bwyd organig, lleol yn bwysig ar gyfer gwydnwch bwyd yng Nghymru. Mae cynhyrchu bwyd organig yn golygu bod angen llai o fewnbynnau arnom a’n bod felly’n llai dibynnol ar danwydd ffosil o bob cwr o’r byd. Mae hefyd yn lleihau ein dibyniaeth ar gynnyrch wedi’i fewnforio o wledydd sy’n agored i effeithiau newid hinsawdd. Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion hefyd yn cefnogi ein plant i greu cysylltiad gyda bwyd a chanfod mwynhad ohono sy’n hollbwysig i’n hiechyd a’r amgylchedd. Mae’r daith yn un hirfaith ond drwy barhau i fuddsoddi mewn perthnasoedd o fewn cadwyni cyflenwi, a’r seilwaith angenrheidiol hollbwysig, gallwn lwyddo.
Y llynedd (2025), fe wnaethom gynhyrchu 40 Tunnell o lysiau organig lleol, gan weithio gyda 13 Awdurdod Lleol. Eleni (2026), rydym yn bwriadu cyflenwi 100 Tunnell ac rydym yn gweithio gydag 16 Awdurdod Lleol. Ochr yn ochr â’n cynnydd hyd yma, rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad ar waith ymchwil a gynhaliwyd gan Dr Verity Jones ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr i edrych ar yr ymateb i lysiau mewn ysgolion. Mae’r canfyddiadau hyn yn bwysig os ydym am gefnogi plant i fwyta mwy o lysiau, sy’n un o ofynion y Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) sy’n dod i rym yn ddiweddarach eleni. Maent hefyd yn helpu i adeiladu ar alwadau Cynghrair Polisi Bwyd Cymru i Roi Bwyd wrth Wraidd Llywodraeth Cymru drwy sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn “Hyddysg am Fwyd”. Mae hyn yn golygu, drwy’r ‘dull ysgol gyfan’, y dylai pob plentyn allu cael mynediad at yr adnoddau, y wybodaeth a’r profiadau i ddysgu am fwyd, i ddysgu drwy fwyd ac i rannu bwyd da.
Yr Adroddiad Cynnydd hwn fydd fy adroddiad olaf wrth y llyw yn Synnwyr Bwyd Cymru, tîm bach o unigolion ymroddedig sydd wedi gweithio’n ddiflino i adeiladu’r sylfeini ar gyfer newid cadarnhaol yn ein system fwyd. Mae’r gwaith hwn wedi bod yn heriol yn aml, mae’r rhan fwyaf ohono wedi rhoi boddhad mawr i mi, ac mae pob elfen ohono wedi cael ei wneud mewn partneriaeth. Cydweithrediad dwfn, sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, gydag unigolion, sefydliadau a’r Llywodraeth sydd wedi datblygu dros flynyddoedd lawer. Perthnasoedd yr wyf i, ar lefel bersonol, yn ddiolchgar iawn amdanynt.
Wrth ffarwelio, rwy’n myfyrio ar y sylfaen gyntaf, Bwyd a Hwyl, sydd, 10 mlynedd ar ôl y cynllun peilot cyntaf yng Nghaerdydd, yn parhau i fod yn gonglfaen ar gyfer lleihau anghydraddoldebau i blant ledled Cymru, ar ôl cael ei gynnwys fel ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu 2021. O dan ofal CLlLC, a chydag arbenigedd ac angerdd llawer o unigolion, erbyn haf 2026 bydd dros 1 filiwn o blant wedi elwa ar y cynllun. Creodd Bwyd a Hwyl sefyllfa ddelfrydol i ddatblygu 22 o Bartneriaethau Bwyd Lleol ledled Cymru yn y blynyddoedd dilynol, o ganlyniad i gyflawniad Bwyd Caerdydd. Yn fy ngeiriau olaf, hoffwn gydnabod cyd-grewyr, cydweithwyr a mentoriaid gwreiddiol y Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf – Bwyd a Hwyl – sydd wedi ysbrydoli gwaith Synnwyr Bwyd Cymru; Emma Holmes, Judith Gregory, Chris Powdril, Gareth Thomas, Lindsay Graham ac Emma Hill. Hoffwn ddiolch hefyd i’r rhai yn Llywodraeth Cymru sydd wedi cefnogi Bwyd a Hwyl dros y 10 mlynedd diwethaf.
Rwy’n gobeithio y bydd Synnwyr Bwyd Cymru, yn ystod ei bennod nesaf, yn parhau i fod yn driw i’w hargyhoeddiadau, gan adeiladu sylfeini cryf ar gyfer newid a pharhau i ennyn parch ac ymddiriedaeth y rhai sy’n gweithio ar draws y mudiad bwyd da yng Nghymru. Heb fwyd da, na all ein planed werthfawr ffynnu, ac ni allwn ninnau ffynnu ychwaith. Gydag ymrwymiad Llywodraeth newydd Cymru i gryfhau ein cymunedau gwledig, cefnogi’n ffermwyr, a gweithio i adeiladu system fwyd gynaliadwy i Gymru, rwy’n obeithiol ac yn gyffrous am ddyfodol bwyd yng Nghymru.
Katie Palmer, Sylfaenydd a Phennaeth Synnwyr Bwyd Cymru
Mai 2026
Darllenwch Adroddiad Cynnydd Synnwyr Bwyd Cymru 2025-2026 yma
A gwrandewch ar yr hyn sydd gan eraill i ddweud am ein gwaith drwy wylio’r ffilm yma
Y llynedd (2025) fe wnaethom gyhoeddi dau adroddiad arwyddocaol: