Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn fudiad o randdeiliaid sy’n cael ei arwain gan Synnwyr Bwyd Cymru a Lantra, ac sy’n ymdrechu i ddefnyddio mwy o lysiau a ffrwythau organig o Gymru mewn prydau ysgolion cynradd ledled Cymru, yn ogystal â thyfu’r sector garddwriaeth yng Nghymru ar yr un pryd. Fe’i sefydlwyd yn 2022 gan Synnwyr Bwyd Cymru, Lantra a Castell Howell Foods, gan weithio gydag un tyfwr, yn cyflenwi courgettes i lond llaw o ysgolion yng Nghaerdydd.
Eleni, mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn gweithio gyda thros 20 o dyfwyr; 5 cyfanwerthwr ac 16 Awdurdod Lleol, sydd hefyd yn cael eu cefnogi gan eu Partneriaethau Bwyd Lleol. Rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2026, mae’n anelu at gyflenwi tua 100 tunnell o lysiau lleol, organig i ysgolion ledled Cymru.
Gan gydnabod bod llysiau organig o Gymru yn ddrutach yn gyffredinol, ond nid bob tro, na llysiau sy’n cael eu tyfu mewn modd confensiynol, mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn talu’r gwahaniaeth mewn pris rhwng cynnyrch lleol, organig a phrisiau arferol drwy daliad ychwanegol sy’n gyfeillgar i natur. Mae’r incwm gwarantedig a’r cymorth a gynigir gan y fenter wedi galluogi tyfwyr i ehangu, amrywio eu cnydau a meithrin gwydnwch.
Mae cam nesaf y prosiect yn cael ei gefnogi drwy gronfeydd preifat, elusennol, a chyhoeddus, gan gynnwys Cronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru 2025/27, sy’n cael ei gweinyddu gan CGGC.