Synnwyr Bwyd Cymru yn ymateb i gyoeddiad Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru

Yr wythnos hon, yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau i ddatblygu Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru.  

Mae’r Strategaeth Fwyd Genedlaethol yn bwriadu cwmpasu’r system fwyd gyfan o’r fferm i’r fforc. Bydd yn cael ei lywio gan grŵp arbenigol sy’n cael ei sefydlu i lunio dyfodol bwyd Cymru, dan arweiniad Simon Wright, sydd wedi’i benodi’n gadeirydd ac a fydd yn arwain ar y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid. 

Daeth y cyhoeddiad yn ystod wythnos pan fu Synnwyr Bwyd Cymru – trwy amrywiol ddigwyddiadau ar faes Y Sioe – yn tynnu sylw at sut mae Partneriaethau Bwyd Lleol yn dod â phartneriaid o amrywiaeth o sectorau gwahanol at ei gilydd i fynd i’r afael â materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan gydweithio i sicrhau bwyd da i bawb.  Buom hefyd wrthi’n tynnu sylw at sut mae Synnwyr Bwyd Cymru’n helpu datblygu cadwyni cyflenwi lleol trwy’r fenter Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, yn ogystal ag hyrwyddo galwad Cynghrair Polisi Bwyd Cymru i ‘Roi Bwyd wrth wraidd Llywodraeth Cymru.’ 

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn croesawu cyhoeddiad y Strategaeth Fwyd Genedlaethol yn fawr iawn.  Fel sefydliad sy’n cynnull ac yn dwyn rhanddeiliaid ynghyd ar draws y system fwyd gyfan – o lawr gwlad i lefel strategol – rydym yn mawr obeithio y cawn ni’r cyfle i gymryd rhan weithredol yn natblygiad y strategaeth hon.  

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i hyrwyddo gwaith Partneriaethau Bwyd Lleol; yn amlygu effaith Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion; yn dangos enghreifftiau bywyd go iawn o arfer gorau mewn bwyd cymunedol, a helpu i nodi’r amryw gyfleoedd a fydd yn helpu i wella’r system fwyd yng Nghymru. 

Synnwyr Bwyd Cymru, Gorffennaf 24ain 2026