Swydd wag: Rheolwr Rhaglen, Synnwyr Bwyd Cymru
Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru
Y dyddiad cau yw 25 Mehefin 2026
Crynodeb o’r swydd
Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro yn chwilio am unigolyn deinamig i ymgymryd â swydd gyffrous Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru.
Dyma rôl strategol uwch sy’n arwain ar waith Synnwyr Bwyd Cymru o ddylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru. Mae gwybodaeth a phrofiad manwl o systemau bwyd yn hanfodol.
Byddwch yn frwdfrydig ac yn ddylanwadol iawn, a bydd angen i chi fedru adeiladu ar berthnasoedd rhagorol presennol gyda phartneriaid strategol allweddol ar lefel genedlaethol a lleol. Bydd gofyn i chi hefyd sefydlu cysylltiadau newydd yn ôl yr angen yn ystod yr amser hollbwysig hwn.