Mynd i'r cynnwys

Llysiau o Gymru ar gyfer ysgolion Cymru

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn brosiect peilot a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.

Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Castell Howell, adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd, mae’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol mewn cinio ysgol.

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn ceisio ailgynllunio cadwyni cyflenwi i’w gwneud yn fwy teg ac yn fwy cadarn. Mae’n ychwanegu hefyd at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i goginio’r pryd hwnnw yn dod gan gyflenwyr lleol, pan fo hynny’n bosibl.   Gan mai dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o’r boblogaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru y gallu i ddatblygu’r farchnad er mwyn helpu i wireddu’r ymrwymiad hwn.

Dechreuodd Synnwyr Bwyd Cymru ymchwilio i’r broses o brynu llysiau wedi’u tyfu’n lleol drwy’r ‘Cynllun Peilot Courgettes’ – sef cynllun peilot a oedd yn cynnwys un tyfwr bwyd ac un cyfanwerthwr a lwyddodd i ddosbarthu bron i 1 tunnell o courgettes i ysgolion cynradd Caerdydd yn ystod rhaglen Bwyd a Hwyl haf 2022.  Bwyd Caerdydd, sef partneriaeth bwyd lleol y brifddinas, oedd yn hyrwyddo’r cynllun peilot, gan gynorthwyo i ddod â’r holl bartneriaid ynghyd, gan gynnwys Blas Gwent, Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd ac adran deieteg iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Castell Howell.

Bocs Llysiau

Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, datblygodd y prosiect caffael hwn i fod yn gam cyntaf Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru gan weithio gyda thri thyfwr bwyd mewn tair ardal awdurdod lleol a gyda chefnogaeth cydlynwyr y partneriaethau bwyd lleol yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy.  Mae’r prosiect hefyd wedi cael cymorth gan Gyngor Sir Fynwy drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Yn ystod Gwanwyn 2024, cafodd Synnwyr Bwyd Cymru arian ychwanegol gan Pontio’r Bwlch – rhaglen a arweinir gan SustainGrowing Communities ac Elusen Alexandra Rose – i ehangu’r gwaith ymhellach ac i greu rhwydwaith ehangach byth o arbenigedd a chymorth. Bydd y cam hwn o ymchwil gweithredol yn gweithio gyda mwy o dyfwyr bwyd ac awdurdodau lleol; yn ymchwilio sut i bontio’r bwlch rhwng costau cynnyrch confensiynol a llysiau wedi’u tyfu’n gynaliadwy yng Nghymru; a phrofi sawl dull i ganfod sut beth yw ‘cynllun buddsoddi cynaliadwy’.  Y nod yw datblygu model y gellir ei ymestyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Drwy gefnogi ffermio organig amaeth-ecolegol, mae’r prosiect hwn yn creu ffrwd incwm newydd neu allweddol amgen i dyfwyr bwyd ac i ffermwyr, yn ogystal â chreu cyfleoedd i blant gysylltu â natur a ffermio drwy ymweld â thyfwyr bwyd lleol.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru eisoes yn chwilio am ffrydiau cyllido ar gyfer y dyfodol i allu datblygu’r gwaith hwn ar ôl mis Mawrth 2025 ac i gynnwys mwy o dyfwyr bwyd, awdurdodau lleol a chyfanwerthwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, gallwch gysylltu â Synnwyr Bwyd Cymru drwy e-bostio foodsensewales@wales.nhs.uk 

Gallwch ddarllen mwy am y prosect yma a gallwch hefyd gwylio fideo sy’n esbonio mwy isod:

 

Y Buddion

Ry’n ni wedi cyhoeddi taflen sy’n amlinellu’r buddion Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion a sut gall bobl fod yn rhan ohono.

Darllenwch y daflen Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yma.

Gwybodaeth am y Tyfywyr

Ry’n ni’n ffodus iawn i fod yn gweithio gyda thyfwyr gwych ar ein prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Dyma ragor o wybodaeth am rai o’r cynhyrchwyr sy’n cymryd rhan.

Fferm Langtons:

Mae Fferm Langtons yn cael ei rhedeg gan Katherine a David Langton sy’n cyflenwi bocsys llysiau organig lleol i ochr ddwyreiniol Bannau Brycheiniog o’u gardd farchnad yng Nghrucywel. Yn ddiweddar, maent wedi ehangu eu cynhyrchiad llysiau organig i gynnwys eu fferm ger Aberteifi a fydd yn tyfu llawer o ffrwythau a llysiau ar gyfer eu bocsys llysiau, ar gyfer cyfanwerthu, ac i’w cyflenwi i ysgolion Cymru.

“Rwy’n gyffrous iawn i fod yn rhan o brosiect llysiau i ysgolion Cymru, mae’n golygu bod bwyd gwych yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf, sef cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n gobeithio y gallwn eu hysbrydoli nid yn unig i fod yn angerddol am fwyta bwyd iach, sy’n ystyrlon o’r amgylchedd, ond hefyd i fod yn ffermwyr a thyfwyr y dyfodol a fydd yn bwydo pob un ohonom yn eu tro.” Katherine

Am ragor o wybodaeth gallwch ymweld â gwefan Fferm Langtons neu ddod o hyd iddynt ar Facebook ac Instagram.

Alfie Dan:

Dechreuodd Alfie Dan’s yn 2021 ar 1 erw o dir ac erbyn hyn, mae ganddo 3 erw lle maent yn tyfu llysiau a ffrwythau ac yn gwerthu i’r gymuned leol mewn blychau llysiau a thrwy stondin gonestrwydd. Maent hefyd yn ymweld â marchnadoedd ffermwyr lleol i hyrwyddo cynnyrch ffres a lleol, organig.

“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn ymwneud â llysiau Cymreig mewn ysgolion, oherwydd rydym yn teimlo ei bod yn bwysig iawn bod plant yn cael llysiau ffres, lleol a thymhorol pryd bynnag y gallant, a hefyd tyfwyr bach lleol yn cydweithio i greu rhwydwaith i ddarparu llysiau ffres anhygoel. ar lefel wahanol.” Marie Pope

Am ragor o wybodaeth gallwch ymweld â gwefan Alfie Dan neu ddod o hyd iddynt ar Facebook.

Blas Gwent:

Mae Blas Gwent yn fusnes newydd naw erw sydd wedi’i leoli rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Nod Blas Gwent yw bod yn fenter gydweithredol i weithwyr sy’n eiddo i’r gymuned sy’n canolbwyntio ar addysgu a hyfforddi ffermio llysiau ecolegol, tra hefyd yn cefnogi datblygiad garddio marchnad peri-drefol yn ne Cymru.

“Teimlwn fod gan gaffael ysgolion y potensial i roi hwb i adfywiad ffermio cymysg traddodiadol yng Nghymru, ac i ddatblygu perthynas iach â bwyd ar gyfer y genhedlaeth ieuengaf. Mae gan brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion botensial aruthrol i gefnogi adferiad ecolegol, iechyd y cyhoedd a chyfleoedd cyflogaeth iach. Rydym yn ddiolchgar i fod yn rhan o’r cydweithrediad hwn.” Jono Hughes

Am ragor o wybodaeth gallwch e-bostio Blas Gwent neu ddod o hyd iddynt ar Facebook.

BonvilstonEdge:

Roedd Emma a Geraint yn arfer gweithio ym myd busnes a thechnoleg a dechreuon nhw dyfu llysiau yn ystod y pandemig Covid. Dechreuodd fel hobi ond wrth iddyn nhw ddechrau cymryd mwy o sylw o ble daw eu bwyd – afalau o Ffrainc, tomatos o Sbaen, courgettes o Chile ac ati – fe ddechreuon nhw hefyd feddwl am ôl troed carbon ac ansawdd y cynnyrch. Penderfynon nhw ddechrau rhandir ond ni allent ddod o hyd i un gerllaw. Wedi trafod gyda thirfeddiannwr lleol oedd â naw erw, ac na allai wahanu’r cae, fe gymeron nhw gymryd y cam; prynu’r cae a gadael eu swyddi er mwyn dechrau tyfu ffrwythau a llysiau. Penderfynodd y ddau alw’r busnes yn Bonvilston Edge oherwydd yn ogystal â bod ar gyrion Tresimwn, roeddent hefyd yn teimlo eu bod yn ymylu ar y dibyn gan nad oeddent yn gwybod rhyw lawer am dyfu cynnyrch yn fasnachol. Ers hynny mae’r busnes wedi esblygu gyda 70 o goed afalau a gellyg, 80 o goed ceirios a 4 cwch gwenyn. Maent hefyd yn tyfu ystod eang o lysiau ac yn dechrau arbenigo mewn winwns, corbwmpenni, pwmpennu cnau menyn a blodfresych.

Maent yn cyflenwi’n lleol, ac yn tyfu’n gynaliadwy ac yn organig, ac mae ganddynt gynllun i gael eu hardystio’n organig ymhen dwy flynedd.

“Rydym yn gyffrous ein bod yn tyfu llysiau ar gyfer ysgolion oherwydd mae’n bwysig bod plant yn cael bwyd maethlon ac yn gwybod o ble mae’n dod. Bwyd iach, plant iach, Cymru iach.” Geraint Evans

Am ragor o wybodaeth gallwch ymweld â gwefan Bonvilston Edge neu ddod o hyd iddynt ar Facebook ac Instagram.

Fferm Underwood

Kate & Calum sy’n rhedeg Underwood Farm ac maent yn cyflogi dau aelod ychwanegol o staff. Wedi’i lleoli ym mharc cenedlaethol Sir Benfro, mae’r fferm yn tyfu amrywiaeth eang o lysiau cymysg ac yn gwerthu i fwytai, caffis a siopau lleol, gan arbenigo mewn dail cymysg. Mae’r fferm hefyd yn cynnal cynllun bocsys i gartrefi yn yr ardal.

“Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o’r prosiect hwn i ddod â llysiau Cymreig ar blatiau yn ysgolion Cymru. Mae’n rhoi gwir werth ac ystyr i’r ymdrechion a wneir i ffermio’r cnydau hyn i wybod y byddant yn bwydo pryd iachus maethlon i blant. Mae’n arbennig o werth chweil – gweithio ochr yn ochr â ffermydd eraill Cymru i gynhyrchu a chyflenwi cymysgedd o wahanol lysiau y gellir eu tyfu yng Nghymru.”

I gael rhagor o wybodaeth gallwch ymweld â gwefan Fferm Underwood neu ddod o hyd iddynt ar Facebook ac Instagram.