Arweinwyr bwyd ar draws y DU yn annog y Llywodraeth i fuddsoddi mewn bwyd lleol

Ymunodd gynrychiolwyr o nifer o Leoedd Bwyd Cynaliadwy Cymru â 90+ o arweinwyr bwyd lleol ac ASau yn San Steffan i alw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mwy mewn bwyd iach a chynaliadwy.

Fe wnaeth digwyddiad ‘Buddsoddi mewn dyfodol bwyd gwell’ ar 14 Mehefin arddangos y rôl arloesol y mae partneriaethau bwyd yn ei chwarae i wella’r economi leol ac iechyd y gymuned.

Cyfarfu cynrychiolwyr o Leoedd Bwyd Cynaliadwy Cymru ag Aelodau Seneddol a 90+ o arweinwyr bwyd lleol eraill yn San Steffan i alw am fwy o fuddsoddi mewn economïau bwyd lleol, ffermio sy’n gyfeillgar i natur a mynediad i fwyd iach fel rhan o’r ymdrech i fynd i’r afael â’r heriau economaidd, cymdeithasol ac iechyd mwyaf brys sy’n wynebu’r DU.

Ddydd Mercher 14 Mehefin, daeth arweinwyr y rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (SFP) ynghyd gydag ASau yn Portcullis House, San Steffan i gydnabod y grym sydd gan fwyd iach a chynaliadwy i weddnewid cymunedau ac economïau lleol, gan gofnodi’r gweithredu lleol a chenedlaethol i sicrhau dyfodol bwyd gwell. Tynnodd y digwyddiad sylw at y rôl y mae partneriaethau bwyd yn eu chwarae i ddenu cyllid a buddsoddiadau ac i gynnig atebion hirdymor i rai o’r problemau mwyaf brys yn ein system fwyd, gan gynnwys perygl i’r cyflenwad bwyd, annhegwch ac amhariadau ar y gadwyn gyflenwi, a’r argyfwng hinsawdd a natur.

Cydlynwyr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn cwrdd yn San SteffanCyfarfu cydlynwyr rhai o Leoedd Bwyd Cynaliadwy Cymru gydag Aelodau Seneddol i drafod sut gall gwell buddsoddiad mewn cadwyni cyflenwi lleol, mentrau bwyd da a mynediad y gymuned i fwyd iachus a chynaliadwy dyfu’r economi leol a gwella iechyd y cyhoedd. Fe wnaethant dynnu sylw at waith ardderchog mentrau lleol a’r angen i fuddsoddi rhagor er mwyn cynyddu effaith gweithgaredd bwyd da.

Meddai Pearl Costello, Cydlynydd Bwyd Caerdydd: “Mae’n gyfnod cyffrous i bartneriaeth bwyd yng Nghymru. Mae Bwyd Caerdydd yn un o naw Lle Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru, sy’n golygu bod 50% o boblogaeth Cymru bellach yn byw o fewn ardal a wasanaethir gan Le Bwyd Cynaliadwy – ac mae’r mudiad yn dal i dyfu. Y llynedd, ymrwymodd Llywodraeth Cymru hefyd gyllid gwerth £2.5 miliwn i ddatblygu a chryfhau partneriaethau bwyd traws-sector yng Nghymru fel rhan o gyfres o becynnau ymyrraeth i helpu i liniaru tlodi. Ers hynny mae’r cyllid hwn wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol ledled Cymru, gan helpu i feithrin gwytnwch mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gydgysylltu gweithgarwch sy’n ymwneud â bwyd ar lawr gwlad.

“Mae’r math hwn o ymyrraeth ac ymrwymiad ariannol yn allweddol os ydym am greu system fwyd sydd o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau lleol. Yng Nghaerdydd, mae ein partneriaeth fwyd, Bwyd Caerdydd, bellach yn cynnwys 245 o unigolion ar draws 115 o sefydliadau ac mae ganddo fwrdd strategaeth sy’n cynnwys amrywiaeth o aelodau, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd, Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) yn ogystal â llawer o rai eraill. Drwy’r rhwydwaith hwn o bartneriaid ymroddedig, rydym yn ysgogi newid ar lefel dinas, gan fynd i’r afael â rhai o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf Caerdydd, tra hefyd yn gweithio ar y cyd â’r 8 Lle Bwyd Cynaliadwy arall yng Nghymru fel rhan o rwydwaith llewyrchus ac effeithiol.”

Meddai Vera Zakharov, Cydlynydd Gweithredu Lleol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Vera Zakharov: “Mae Partneriaethau Bwyd yn arloeswyr lleol go iawn, maent yn gweithredu mewn ffyrdd arloesol i greu cadwyni cyflenwi gwell a mwy cadarn, i greu swyddi bwyd da ac i ddwyn cymunedau ynghyd o safbwynt bwyd iachus, cynaliadwy. Yn absenoldeb Strategaeth Fwyd gydgysylltiedig gan y Llywodraeth, mae partneriaethau bwyd yn gosod esiampl yn lleol ac yn rhanbarthol ac fe ddylid eu hehangu yn genedlaethol. A yw’n bryd i Lywodraeth y DU gydnabod ei chyfraniad drwy ymrwymo i Fil Bwyd ym mhob gwlad a phartneriaeth fwyd ym mhob ardal o’r Deyrnas Unedig.”

Dywedodd Leon Ballin, Arweinydd Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymdeithas y Pridd: “Dyma’r criw mwyaf i droi allan hyd yma ar gyfer arweinyddion y partneriaethau, ac maent eisiau anfon neges glir i’r llywodraeth fod ganddynt ran holl bwysig i’w chwarae i lywio dull gweithredu cadarn o safbwynt polisi bwyd, diogelwch cyflenwadau bwyd a chymunedau iach. Mae pob un ohonynt wedi cael llwyddiant cyson yn cyflwyno strategaethau cadarn sy’n ennyn diddordeb llywodraeth leol, cymunedau a busnesau i greu partneriaethau cynaliadwy a llwyddiannus.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r ASau sydd wedi cefnogi’r rhwydwaith SFP cyn belled, ond mae’n awr yn amser i’r llywodraeth weithredu drwy fuddsoddi yn y model hwn, y profwyd ei fod yn diogelu cyflenwadau bwyd y Deyrnas Unedig yn yr hirdymor, a rhannu’r arferion gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy i bawb.”

Mae Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn dwyn ynghyd bartneriaethau bwyd arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, dosbarthau a siroedd ar draws y Deyrnas Unedig sy’n ysgogi datblygiadau arloesol a’r arferion gorau ar bob agwedd ar fwyd iachus a chynaliadwy. Rhaglen bartneriaeth dan arweiniad Cymdeithas y Pridd, Food Matters a Sustain ydyw, fe’i hariannir gan yr Esmée Fairbairn Foundation a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.  Synnwyr Bwyd Cymru yw partner cenedlaethol Llefydd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru ac mae gennym uchelgais i weld partneriaeth fwyd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, gan greu rhwydwaith a fyddai’n sylfaen ar gyfer datblygu’r weledigaeth, yr isadeiledd a’r gweithredu sydd eu hangen i wneud system fwyd Cymru yn addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.  Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cefnogi’r naw aelod cyfredol yng Nghymru, sef Bwyd Caerdydd,  Bwyd y Fro, Partneriaeth Bwyd Sir FynwyBwyd RCT, Phartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, Partneriaeth Bwyd Gogledd PowysBwyd Sir Gâr Fwyd yn Sir Gaerfyrddin, Bwyd Abertawe a Phartneriaeth Bwyd Torfaen.

Wedi bod yn allweddol wrth sefydlu a meithrin partneriaethau bwyd fel rhan o’i waith yn arwain ar y rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru, mae Synnwyr Bwyd Cymru bellach yn cefnogi Llywodraeth Cymru a’r holl bartneriaid cysylltiedig (Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol yn ogystal â rhanddeiliaid ymroddedig eraill megis sefydliadau gwirfoddol, elusennau, busnesau bwyd, manwerthwyr, cyfanwerthwyr, tyfwyr a ffermwyr) wrth iddynt ddarparu’r partneriaethau bwyd traws-sector a gyhoeddwyd y llynedd fel rhan o gyfres o becynnau ymyrraeth i helpu i liniaru tlodi.

Diwedd