Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyhoeddi cefnogaeth ar gyfer partneriaethau bwyd ar draws Cymru

Ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 11eg), bu Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cadeirio Uchwgynhadledd Costau Byw lle cyhoeddodd cyfres o ymyriadau, gan gynnwys cefnogaeth ariannol ar gyfer partneriaethau bwyd traws-sector yng Nghymru.

Bydd y gefnogaeth ariannol hon gwerth £2.5 miliwn yn cefnogi datblygiad partneriaethau bwyd traws-sector.  Bydd y cyllid hwn hefyd yn cryfhau partneriaethau bwyd sy’n bodoli eisoes gan helpu i feithrin cydnerthedd mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gydlynu gweithgarwch ar lawr gwlad sy’n gysylltiedig â bwyd i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.  Bydd y rhwydweithiau hyn yn hybu gweithredu gan ddinasyddion, yn gwneud y mwyaf o effeithiolrwydd prosiectau ac yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu targedu i’r mannau lle mae’r angen mwyaf.

Mae’r gefnogaeth ariannol hon yn dilyn cyfarfod Bord Gron ar dlodi bwyd a gynhaliwyd ym mis Mai a  wnaeth ddwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid i drafod effaith prisiau bwyd cynyddol a chostau ynni cynyddol ar lefelau tlodi bwyd.  Fe wnaeth yr adborth hwn helpu’r Gweinidog i benderfynu sut y dylid cyfeirio’r cyllid yn fwy effeithiol i gefnogi pobl sy’n profi tlodi bwyd nawr a sut y gallwn leihau ac atal yr angen am ddarpariaeth bwyd brys yn y tymor hwy.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru – sefydliad sydd am ddylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru – wedi bod yn allweddol wrth helpu i feithrin a datblygu partneriaethau bwyd fel rhan o’i waith yn arwain ar raglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru.  Roedd Synnwyr Bwyd Cymru’n un o’r rhanddeiliaid hynny oedd yn rhan o’r digwyddiad Bwrdd Gron ac mae’r tîm yn croesawu’n fawr y cymorth ariannol a gyhoeddwyd ddoe.

“Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar le a’r ffordd y gall partneriaethau bwyd traws-sector lleol gefnogi cymunedau i ymateb i’r argyfwng costau byw tra hefyd yn gweithio i ddatblygu economi bwyd lleol gwydn,” meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru.

“Credwn fod buddsoddi mewn systemau bwyd lleol gwydn a chysylltiedig yn adeiladu ac yn cadw cyfoeth yng Nghymru – yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol – ac yn helpu i hybu cydweithio a chynhwysiant,” atega Katie. “Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod yn annog ardaloedd a chymunedau ledled Cymru i sefydlu a thyfu seilwaith yn seiliedig ar le, gan helpu i gyfrannu at ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ yn ogystal â strategaethau bwyd cymunedol ehangach sydd o fudd i’n hiechyd a’n heconomi yn ogystal â chynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau lleol ledled Cymru.”

Ychwanegodd Eryl Powell o dîm Iechyd Cyhoeddus Aneurin Bevan Gwent, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rwyf wedi ymwneud â Phartneriaethau Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru ers 2012, i ddechrau, fel un o bartneriaid sefydlu Bwyd Caerdydd – y Lle Bwyd Cynaliadwy gyntaf yng Nghymru ac yn fwy diweddar fel partner ym Mhartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, ac rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun yr effaith y mae dulliau gweithredu seiliedig ar le a phartneriaethau bwyd traws-sector lleol wedi’u cael. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cymunedau i ymateb i’r argyfwng tlodi bwyd a galluogi mynediad at fwyd iachus fforddiadwy yn ogystal â datblygu economïau bwyd lleol gwydn. Rwy’n falch iawn o weld y dull Partneriaeth Bwyd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru a bydd y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau na fydd unrhyw ran o Gymru yn cael ei gadael ar ôl.”

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cefnogi saith aelod cyfredol rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru, sef Bwyd Caerdydd,  Bwyd y FroPartneriaeth Bwyd Sir FynwyBwyd RCTPartneriaeth Bwyd Blaenau GwentPartneriaeth Bwyd Gogledd PowysBwyd Sir Gâr yn Sir Gaerfyrddin.  Mae hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu mwy o Leoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru, gan gynnwys gweithio gyda Thorfaen ac Abertawe wrth i’r siroedd hynny barhau i ddatblygu’u partneraiethau gan weithio tuag at ddod yn aelodau llawn o’r rhwydwaith.

Mae gwaith rhai o bartneriaethau bwyd Cymru, er enghraifft, prosiectau a gynhaliwyd gan Bartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent a Bwyd RCT, eisoes wedi’i gataleiddio diolch i gyllid blaenorol gan Lywodraeth Cymru. Mae gweithio ar y cyd, ar draws sectorau wedi bod yn allweddol i’w llwyddiant gyda chyllid yn cael ei ddefnyddio’n strategol ar draws y rhanbarthau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae dau o aelodau mwyaf newydd rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru – Bwyd Sir Gâr yn Sir Gaerfyrddin a Phartneriaeth Bwyd Gogledd Powys – eisoes yn treialu dwy ganolfan caffael bwyd newydd yn eu rhanbarthau dan ofal Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, gyda’r nod o ddangos y gall y sector cyhoeddus gaffael yn effeithlon o gynhyrchwyr lleol gan ddefnyddio dulliau sydd o fudd i’r amgylchedd naturiol a ffyniant lleol. Ar draws rhanbarth Gwent, rydym hefyd wedi gweld partneriaethau bwyd lleol sefydledig a datblygol yn Sir Fynwy, Torfaen a Chaerffili yn gweithio ar y cyd ar Food4Growth – prosiect sydd â’r nod o gynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol, sy’n creu rhwydweithiau bwyd newydd ac yn helpu cynnig ateb cynaliadwy i dlodi bwyd. Ac mae dwy o bartneriaethau bwyd mwyaf sefydledig Cymru – Bwyd Caerdydd a Bwyd y Fro – hefyd yn brysur yn helpu i feithrin gallu prosiectau sy’n ymwneud â bwyd drwy amrywiaeth o fentrau megis y Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol yng Nghaerdydd a’r prosiect Mynediad at Fwyd ym Mro Morgannwg.

Yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddoe, ychwanegodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod yr argyfwng costau byw wedi tynnu sylw at bwysigrwydd atebion cynaliadwy ar gyfer mynd i’r afael â thlodi bwyd a phwysigrwydd galluogi rhwydweithiau lleol i ymateb i anghenion lleol. Aeth Jane Hutt AS ymlaen i ddweud y byddai’r rhwydweithiau hyn yn sicrhau bod anghenion uniongyrchol a chynyddol aelwydydd sy’n profi tlodi bwyd yn cael eu diwallu tra hefyd yn canolbwyntio adnoddau ar atal a chynaliadwyedd i gefnogi gwydnwch yn y tymor hwy.

Aeth ymlaen i nodi y bydd y dull hwn hefyd yn cefnogi cronfa uniongyrchol ar gyfer cymorth brys i helpu i ateb y galw cynyddol am ddarpariaeth bwyd brys o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

I ddarllen y datganiad ysgrifenig llawn ac i glywed am yr ymyriadau eraill a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddoe, cliciwch yma.

Am wybodaeth bellach ynglyn â gwaith Synnwyr Bwyd Cymru neu i ddarllen mwy am Leoedd Bwyd Cynaliadwy, cliciwch yma

Gallwch hefyd wylio fideo sy’n esbonio mwy am rwydwaith Lleoedd Bwyd Cymdeithasol yng Nghymru isod: