Bwyd Caerdydd

Aelod o Leoedd Bwyd Cynaliadwy: y siwrne tuag at statws aur!

Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd yr ydym yn ei fwyta yn cael effaith enfawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a thyfwyr bwyd unigol a’r amgylchedd hefyd.

Mae bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a chadarn.  Mae’n gweithredu fel hyb ar gyfer cysylltu pobl a phrosiectau sy’n gweithio tuag at hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy a moesegol; yn gweithredu fel llais ar gyfer newid ehangach, yn ogystal â bod yn gatalydd ar gyfer newid y system fwyd yng Nghaerdydd.

Erbyn hyn mae Bwyd Caerdydd yn cynnwys 127 o unigolion mewn 74 o sefydliadau ac mae ganddo fwrdd strategaeth sy’n cynnwys ystod o aelodau, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Riverside Real Food, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gweithredu  Caerau a Threlai (ACE) yn ogystal â llawer o rai eraill. Drwy’r rhwydwaith hwn o bartneriaid ymroddedig, mae Caerdydd yn sbarduno newid ar lefel y ddinas gan weithio i fynd i’r afael â rhai o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf y dydd.

Ym mis Mehefin, dyfarnwyd Statws Arian Sustainable Food Places i Bwyd Caerdydd, y lle cyntaf yng Nghymru ac un o’r chwe lle yn y DU sydd wedi derbyn y wobr hon, gan gydnabod gwaith arloesol y ddinas wrth hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.  Ym mis Gorffennaf 2021, cafodd llwyddiannau Bwyd Caerdydd eu cydnabod yn Seremoni Gwobrau Pys Plîs, gyda Chaerdydd yn ennill Gwobr Dinas Llysiau. Roedd y wobr hon yn cydnabod dull effeithiol ac integredig y ddinas o gynyddu’r nifer sy’n gwneud defnydd o lysiau lleol ar sail lleoliad.

Pearl Costello yw cydlynydd Bwyd Caerdydd ac mae’n ddiolchgar i bobl Caerdydd am gymryd rhan mor weithredol yn llwyddiant y bartneriaeth fwyd.

“Mae’r wobr Arian a gawsom yn ddiweddar yn dyst i’r symudiad enfawr yr ydym wedi’i weld gan ddinasyddion, grwpiau, busnesau a sefydliadau i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn rhywbeth arferol i bawb yng Nghaerdydd” meddai Pearl.

“Ledled y ddinas, rydym wedi gweld llu o weithgareddau amrywiol….teuluoedd yn tyfu berwr ar silff ffenestr am y tro cyntaf; cymdogaethau’n sefydlu cydweithfeydd neu bantri bwyd; y busnesau bwyd yn cyflenwi bwyd rhagorol i’n dinas yn ogystal â sefydliadau’n gwneud addunedau Dinas Llysiau a dylunio bwydlenni cynaliadwy.”

“Rydym wedi gwirioni bod y cam nesaf ar daith Bwyd Caerdydd – Strategaeth Bwyd Da 2021-24 – wedi’i ddylunio ar y cyd â miloedd o bobl yng Nghaerdydd.  Mae’r cynllun hwn, sydd ar draws y ddinas, eisoes wedi’i gydnabod fel y strategaeth fwyaf eang a chynhwysol yn nhermau ei hymgysylltiad a hynny ar draws y DU – ac rydym yn bwriadu mynd ymhellach wrth i ni anelu at Statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, gan wybod bod creu dinas bwyd da yn rhywbeth y gallwn i gyd fod yn rhan ohono.”

Cyswllt
Ewch i’r wefan