Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gydag arweinwyr systemau bwyd ym Mrasil i ddatblygu a gweithredu’r prosiect ‘Caru Cennin’ yng Nghaerdydd

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod yn cyflwyno menter fwyd newydd ac ysbrydoledig o’r enw ‘Caru Cennin’ yn Ysgol Gynradd Pentre-baen fel rhan o brosiect peilot a gyd-gynhyrchwyd gyda Sefydliad Maniva ym Mrasil.

Ysbrydolwyd Caru Cennin gan Tapiokit, sef gweithdy addysg a ddatblygwyd gan Sefydliad Maniva sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant bwyd cassava. Mae’r cogydd, ymgyrchydd bwyd ac academydd Teresa Corção o’r Sefydliad wedi bod yng Nghymru drwy’r wythnos yn helpu i gynnal gweithdai i athrawon a disgyblion i weld sut y mae eu dull o ennyn diddordeb plant mewn cynnyrch lleol yn gallu gweithio gyda gwahanol fathau o lysiau mewn gwlad wahanol sydd â diwylliant a threftadaeth bwyd unigryw.

Ar ôl ei ailddatblygu a’i deilwra’n benodol ar gyfer athrawon a disgyblion yng Nghymru, mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi gweithio gyda Teresa Corção ynghyd â thîm o arweinwyr bwyd Cymreig amlwg i roi naws Cymreig unigryw i Caru Cennin, gan gynnwys yr hanesydd bwyd Carwyn Graves a’r Tîm Deietegol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Bu Teresa a’r tîm o awduron o Gymru yn cwrdd ag athrawon o Ysgol Gynradd Pentre-baen yng Nghaerdydd er mwyn cynnal gweithdy hyfforddi ar Caru Cennin cyn helpu’r staff addysgu i gynnal sesiynau i blant ym mlynyddoedd 2 a 4.

Beth yw Caru Cennin?

Gan ganolbwyntio ar gennin, bu’r plant yn dysgu sut i goginio gyda’r llysieuyn ac yn dysgu mwy am ei werth maethol a’i fanteision i iechyd, gan archwilio hefyd ei hanes cyfoethog a’i gysylltiadau Cymreig dwf. Bwriad y prosiect yw i gyflwyno plant i’w diwylliant bwyd, gan eu trochi yn eu storïau bwyd eu hunain a’u cysylltu ag o ble y daw eu bwyd.

Mae’r prosiect trawsgyfandirol hwn wedi’i ariannu gan y Gynghrair Systemau Bwyd Ymwybodol  (Conscious Food Systems Alliance neu CoFSA) drwy Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig – mudiad ar gyfer ymarferwyr bwyd, amaeth ac ymwybyddiaeth, a drefnir gan Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig ac sydd wedi’i uno gan amcan cyffredin: cefnogi pobl o bob rhan o’r systemau bwyd ac amaeth i feithrin y capasiti mewnol sy’n ysgogi newid systemig ac adfywio. Mae Caru Cennin yn cynnig cyfle i ddysgu o rai o’r enghreifftiau o waith arloesol sy’n cael ei wneud ym Mrasil ac archwilio a allai Cymru edrych ar fwyd mewn ffordd debyg, yn benodol drwy ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Rydym yn hynod falch o weithio mewn partneriaeth â Teresa a’i chydweithwyr o Sefydliad Maniva,” meddai Katie Palmer, sy’n Rheolwr Rhaglenni yn Synnwyr Bwyd Cymru ac yn aelod o Gyngor Mewnol CoFSA.

“Gall Cymru ddysgu llawer gan Frasil a’r gwaith sy’n cael ei wneud gydag ysgolion ledled y wlad. Mae Llywodraeth Brasil wedi cydnabod pwysigrwydd bwyd i iechyd ac economïau lleol ac mae wedi buddsoddi’n sylweddol yn y seilwaith bwyd yno. Mae cael cyfle i weithio gyda phobl broffesiynol sy’n rhan o systemau bwyd fel Teresa yn werthfawr iawn. Mae Caru Cennin yn cynnig y cyfle i blant ddeall diwylliant bwyd Cymru yn well a dechrau meddwl am y bwyd y maent yn ei fwyta, sut mae’n cael ei dyfu a sut mae’n rhoi maeth iddynt.”

Dywedodd Andrew Bovarnick, Pennaeth Byd-eang Systemau Bwyd a Nwyddau Amaethyddol, Rhaglen Ddatblygu Cenhedloedd Unedig: “Mae’r cydweithrediad hwn rhwng dau aelod o’r Gynghrair Systemau Bwyd Ymwybodol yn enghraifft wych o’r creadigrwydd a’r ysbrydoliaeth sy’n dod i’r amlwg pan fydd timau o wahanol ddiwylliannau ac amgylcheddau naturiol yn rhannu gwerthoedd a dibenion tebyg. Bydd yr hyfforddiant hwn yn offeryn defnyddiol ar gyfer defnyddio dulliau ymwybyddiaeth i gefnogi deiet iach gyda’r bobl ifanc.”

Rhaglen Bwydo Ysgolion Brasil

Ym Mrasil, mae’r Rhaglen Bwydo Ysgolion Genedlaethol (Programa Nacional de Alimentação Escolar neu PNAE) yn darparu bwyd maethlon, iach o ffynonellau lleol i filiynau o fyfyrwyr ledled y wlad. Gweithredir y rhaglen gan y Gronfa Genedlaethol ar gyfer Datblygu Addysg, corff annibynnol o fewn Gweinyddiaeth Addysg Brasil.

Yn ôl adroddiad Rhaglen Bwyd y Byd y Cenhedloedd Unedig a gyhoeddwyd yn 2020, mae’r Rhaglen Bwydo Ysgolion Genedlaethol ym Mrasil yn darparu bwyd i fwy na 40 miliwn o blant, mewn mwy na 160,000 o ysgolion, ar draws 5,570 o fwrdeistrefi ym Mrasil.

Gyda chyllideb flynyddol o fwy na R$ 4 biliwn (US$764 miliwn), mae’r rhaglen yn gyfrifol am y cynnig dyddiol o 50 miliwn o brydau, sy’n cael ei gynllunio gan fwy na 8,000 o faethegwyr a’i fonitro gan 80,000 o aelodau’r Bwrdd Bwydo Ysgolion. Mae’r rhaglen yn sicrhau bod deiet iach ac amrywiol yn cael ei ddarparu i’r holl fyfyrwyr mewn addysg gyhoeddus gan hyrwyddo arferion bwyta iach ar yr un pryd – sy’n effeithio ar fyfyrwyr yn ogystal â’u teuluoedd. Mae hefyd yn annog y defnydd o gynnyrch a dyfir yn lleol ac, ers 2019, mae o leiaf 30% o’r bwyd a brynir ar gyfer prydau ysgol yn cael eu darparu gan ffermwyr teuluol sy’n helpu i sicrhau gwytnwch yn y gadwyn gyflenwi leol.

“Mae’r ffordd y mae Llywodraeth Brasil wedi buddsoddi yn y system bwyd ysgolion nid yn unig wedi galluogi plant i gael mynediad at brydau maethlon yn yr ysgol, ond mae hefyd wedi llwyddo i leihau’r cyfraddau gordewdra gan hyrwyddo arferion bwyta iach a sicrhau bod plant yn bwyta cynnyrch a dyfir yn lleol ar yr un pryd. Mae’n ddiddorol iawn archwilio beth sydd wedi digwydd ym Mrasil a’i gymharu â’r datblygiadau yng Nghymru, yn enwedig dosbarthiad y Prydau Ysgol am Ddim i Bawb a’r ymrwymiad i gynyddu faint o fwyd a gynhyrchir yn lleol sy’n mynd i ysgolion. Mae cynnal cynllun peilot o Caru Cennin yng Nghymru, gyda chefnogaeth Ysgol Gynradd Pentre-baen yng Nghaerdydd, yn ein galluogi i weld sut y gallwn ddefnyddio ychydig o’r hyn a ddysgwyd ym Mrasil i helpu plant i gysylltu â’u bwyd.”

Partneriaethau

Meddai Emma Holmes, Arweinydd Strategol ar gyfer Deieteg Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae gwasanaeth Deieteg Caerdydd a’r Fro yn falch o gael y cyfle i weithio gyda’n partneriaid newydd o’r Instituto Maniva ym Mrasil yn ogystal â pharhau gyda’n partneriaid o fewn y system addysg leol ac yn Synnwyr Bwyd Cymru. Mae wedi’n galluogi i adeiladu ar ein gwaith da presennol mewn ysgolion ledled Caerdydd a’r Fro, ac wedi gwella’r ffocws ar ddiwylliant bwyd, cynnyrch lleol a chynaliadwyedd, sy’n cefnogi elfennau newydd y Cwricwlwm i Gymru, tra’n annog deiet cytbwys ac iach ar gyfer plant a’u teuluoedd.”

Eglurodd Carwyn Graves; “Er bod gan nifer fawr o ffrwythau a llysiau arwyddocâd diwylliannol cyfoethog i ni yma yng Nghymru – o’r genhinen i fathau gwahanol o afalau a’r daten gyffredin hyd yn oed – mae gormod o blant yn cael eu magu heddiw heb wybod beth y gall y cynnyrch anhygoel hwn ei wneud iddyn nhw. Mae’n fraint o’r mwyaf gweithio gyda’r bartneriaeth hon i roi rhai o’n cynnyrch lleol yn ôl ar y bwrdd i blant, ac i ddangos, gobeithio, sut y gall y genhinen Gymreig agor meddyliau pobl ifanc i fyd o ddiwylliant, gwyddoniaeth, celf – a phrydau blasus.

“Gyda’r prosiect yn cael ei weithredu yn ystod wythnos Dydd Gŵyl Dewi,” meddai, “nid oes amser gwell i groesawu ein cydweithwyr o Frasil a dechrau cysylltu’r hyn yr ydym yn ei fwyta gydag ymwybyddiaeth ehangach, ystyriol o ble y daw.”

Ychwanegodd Teresa Corção o Sefydliad Mainva: “I ni o Frasil, mae’n anrhydedd creu’r bartneriaeth hon gyda Synnwyr Bwyd Cymru, Katie a’r holl dîm yng Nghymru. Rydym wedi dysgu llawer yn barod, drwy gyfnewid gwybodaeth am ein diwylliant bwyd cynhenid, cassava, â’u diwylliant nhw, sef cennin. Rwy’n siŵr y bydd nifer o bethau da yn dod o hyn yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Synnwyr Bwyd Cymru: Synnwyr Bwyd Cymru: Yn cyd-greu system fwyd i Gymru sydd o les i bobl ac i’r blaned – synnwyrbwydcymru.org.uk

DIWEDD

Ynglŷn â Sefydliad Maniva:

Wedi’i sefydlu gan eco-gogydd Teresa Corção yn Rio de Janeiro yn 2007, mae Instituto Maniva yn sefydliad arloesol ym Mrasil wrth weithio gyda gastronomeg fel offeryn ar gyfer cynaliadwyedd a gweithio ym maes ecogastronomeg. Mynegir ymrwymiad y tîm yng nghenhadaeth y Sefydliad: i werthfawrogi bwydydd traddodiadol ac ailadeiladu cysylltiadau coll rhwng ffermwyr bach a chanolig eu maint, eu cynhyrchion a’u defnyddwyr er mwyn caniatáu adeiladu rhwydweithiau o berthnasoedd ymddiriedus ac, yn y modd hwn, hyrwyddo incwm teg a chynyddol, a lles i bawb.

MaeSefydliad Maniva yn aelod o CoFSA ac o fewn bron i 20 mlynedd o weithgarwch, mae wedi datblygu prosiectau ar hyd dwy linnyn: Education of Taste, a grëwyd o ganlyniad i ymwneud Teresa â’r mudiad Bwyd Araf gyda’r nod o greu, ymhlith buddion eraill, bwyd ymwybyddiaeth; a Farmer’s Partner, sy’n mynegi’n glir genhadaeth Maniva o fod yn bont rhwng ffermwyr teuluol, cogyddion a bwytai.

Ynglŷn â CoFSA

Mae’r Gynghrair Systemau Bwyd Ymwybodol (Conscious Food Systems Alliance neu CoFSA) yn cefnogi pobl o bob rhan o’r systemau bwyd ac amaeth i feithrin y capasiti mewnol sy’n ysgogi newid systemig ac adfywiad.

Mae’r Gynghrair Systemau Bwyd Ymwybodol (CoFSA), a drefnwyd gan Raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig, yn fudiad o ymarferwyr bwyd, amaeth ac ymwybyddiaeth sydd ag amcan cyffredin: cefnogi pobl o bob rhan o’r systemau bwyd ac amaethyddiaeth i feithrin eu gallu mewnol i ysgogi newid systemig ac adfywiad. Mae’n anelu at sefydlu a meithrin y capasiti mewnol fel dull allweddol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddarlunio a llunio systemau bwyd adfywiol, gan feithrin dilysrwydd a dealltwriaeth ar gyfer y dull hwn.