Cyhoeddi Adroddiad Statws Partneriaethau Bwyd Lleol 2026
Wrth i Synnwyr Bwyd Cymru gyhoeddi Adroddiad Statws Partneriaethau Bwyd Lleol 2026, dyma argraffiadau Pearl Costello, ein Rheolwr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ar ddatblygiadau’r flwynyddyn ddiwethaf.
Mae wedi bod yn 12 mis arwyddocaol i bolisi bwyd yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Synnwyr Bwyd Cymru yr adroddiad Statws Partneriaethau Bwyd Lleol cyntaf, yr un adeg ag Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru. Cyflwynodd y dogfennau hyn y gwaith paratoadol er mwyn ysgogi a galluogi tyfu’r mudiad bwyd da yng Nghymru gan ddatblygu llesiant cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol Cymru drwy fwyd. Ar y 1af o Ionawr 2026 dechreuodd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i gynorthwyo ffermwyr i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ac o safon fyd-eang wrth ofalu am yr amgylchedd, mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo a meithrin gwydnwch yr un pryd.
Ochr yn ochr â datblygiadau polisi, mae’r mudiad llawr gwlad ar gyfer systemau bwyd iach a chynaliadwy, sydd wedi bod yn datblygu dros ddegawd, yn aeddfedu i fod yn seilwaith cenedlaethol angenrheidiol. Mae Partneriaethau Bwyd Lleol wedi cael eu hariannu gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ers 2022, gan gydnabod bod partneriaethau bwyd traws-sector yn gallu helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau, yn lliniaru achosion sylfaenol tlodi ac yn helpu i feithrin gwydnwch bwyd cymunedol. Bellach, mae gennym 22 Partneriaeth Bwyd Lleol, un ym mhob ardal awdurdod lleol, a phob un â chydlynydd penodedig yn arddangos arweinyddiaeth strategol. Gyda’r sylfeini hyn yn eu lle, mae camau gweithredu cydlynol ar fwyd yn digwydd ar gyflymder.
Roedd adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn eirioli dros gyfres o gamau gweithredu yn gysylltiedig â bwyd, gan gynnwys datblygu Cynllun Gwydnwch Bwyd Cenedlaethol; parhau i gefnogi Partneriaethau Bwyd yn ogystal â darparu cymorth pellach i arddwriaeth, cynlluniau talebau ffrwythau a llysiau a Llythrennedd Bwyd. Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad hwn, aeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Synnwyr Bwyd Cymru ati i gyd-gynhyrchu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ar sut y gallant weithio gyda Phartneriaethau Bwyd Lleol i wella systemau bwyd lleol. Ers cyhoeddi’r ddogfen hon, mae 15 o blith y 22 o gynghorau yng Nghymru wedi ymateb i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol gan ddweud eu bod yn derbyn y dylent lunio cynllun gwydnwch bwyd. O blith y rhain, mae pedwar wedi gwneud cais am gymorth gan Swyddfa’r Comisiynydd a Synnwyr Bwyd Cymru i ddechrau eu cynlluniau.
Ymrwymodd Strategaeth Tlodi Plant Cymru a’r Strategaeth Bwyd Cymunedol £2 filiwn o gyllid ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol yn 2025-26, gan gynnwys ymrwymiad aml-flwyddyn i ariannu cydlynwyr ledled Cymru o’r portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol. Mae’r gefnogaeth yma’n galluogi Partneriaethau Bwyd Lleol i ehangu eu capasiti a darparu ystod o brosiectau bwyd wedi’u teilwra sy’n ymateb yn uniongyrchol i anghenion eu cymunedau. Fel rhan o hyn, mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi cydweithio i ddatblygu cyfres ar y cyd o amcanion a dangosyddion sy’n uno dyheadau’r ddau bortffolio, gan gynnwys creu gwydnwch bwyd cymunedol a mynd i’r afael â thlodi bwyd, a chynyddu’r cyflenwad o fwyd lleol ac amrywiaeth y bwyd hwnnw.
Rhoddwyd sylw i gydweithio yng Nghynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru yn 2025. Mewn cydweithrediad â Synnwyr Bwyd Cymru, fe wnaeth y digwyddiad gyfuno dau gynulliad blynyddol allweddol; Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru a’r digwyddiad Bwyd mewn Cymunedau. Cafodd y bartneriaeth hon ei hadlewyrchu yn thema 2025: Cymunedau, Bwyd a Ffermio yn Cydweithio. Gyda bron i 400 o fynychwyr, 30 o sesiynau a 100 o siaradwyr dros ddau ddiwrnod, bu’r Gynhadledd yn trafod bwyd a ffermio cynaliadwy, gan ddod â ffermwyr a busnesau bwyd eraill, amgylcheddwyr yn ogystal â phobl sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, addysg bwyd, sofraniaeth bwyd a chyfiawnder cymdeithasol ynghyd. Hefyd, cynhaliwyd Gwobrau Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Cymru i gydnabod y saith lle a oedd wedi ennill Gwobrau Efydd ac Arian yn ogystal â dau aelod newydd.
Yn ystod 2025-26, mae’r Partneriaethau Bwyd Lleol wedi bod yn gweithio’n galed ar lawr gwlad, yn eu cymunedau, i geisio sicrhau bod bwyd da ar gael i bawb, am byth. Cyfeiriwyd yn gyson at y weledigaeth hon i sicrhau ‘bwyd da i bawb, am byth’ yn ystod y gweithdy deuddydd dwys ar arweinyddiaeth i gydlynwyr Partneriaethau Bwyd Lleol a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2026, ochr yn ochr â’r cysyniad o ‘wydnwch blasus’. Dangosodd y gweithdy hwn y mudiad unigryw sy’n bodoli yng Nghymru a phwysigrwydd adeiladu ar y momentwm hwn yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn gyffrous i weld beth ddaw yn 2026 – 2027.
Mae wedi bod yn 12 mis arwyddocaol i bolisi bwyd yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Synnwyr Bwyd Cymru yr adroddiad