Dr Amber Wheeler

Mae Amber yn byw mewn tyddyn yn Sir Benfro ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y maes newid systemau bwyd, ar lawr gwlad ac fel ymchwilydd. Ei phrif faes arbenigedd a’i diddordeb pennaf yw sut i alluogi Cymru a’r DU i gynhyrchu a bwyta mwy o ffrwythau a llysiau a’r rôl sydd gan gadwyni cyflenwi bach a byr i’w chwarae yn hynny o beth. Helpodd i sefydlu Pys Plis ac ar hyn o bryd, mae’n gweithio’n llawrydd gyda Synnwyr Bwyd Cymru, yn cydlynu ac yn cyflawni’r Ymchwil Gweithredu, ar y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion.