Yr Awr Fwyd – dysgu am fwyd, dysgu trwy fwyd a rhannu bwyd maethlon

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn falch o gael bod yn rhan o brosiect cynllun peilot Yr Awr Fwyd o dan arweiniad Cyngor Caerdydd mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Ariennir y prosiect gan Gronfa Arloesi Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, a’i nod yw creu cenedl o ddinasyddion bwyd da drwy neilltuo un Awr Fwyd y dydd ym mhob ysgol i bob blentyn.

Bydd cynllun peilot Yr Awr Fwyd yn rhoi cyfle i blant ysgolion cynradd Caerdydd i dreulio o leiaf awr bob diwrnod ysgol yn dysgu am fwyd, dysgu trwy fwyd a rhannu bwyd maethlon.

Cynlluniwyd Yr Awr Fwyd i wneud y gorau o’r sgiliau, y cysylltiadau a’r buddsoddiadau o fewn ecosystem fwyd bresennol yr ysgol a’r ecosystemau sy’n esblygu, a hynny o’r fferm i’r fforc, ac o’r ysgol i’r cartref.

Rhan o’r prosiect fydd sefydlu gweithgor; creu model cost-effeithiol ar gyfer y ddarpariaeth; profi’r ddarpariaeth mewn chwe ysgol gynradd; llunio achos dros y dull hwn ac ystyried ei effaith ar gymdeithas hefyd.

Mae dull Yr Awr Fwyd yn syml ac yn ychwanegu at yr adnoddau, y rhaglenni a’r cyfalaf dynol sy’n bodoli eisoes yng Nghymru. Yn ystod y cynllun peilot, bydd partneriaid y prosiect yn:

  1. Cyd-ddylunio ac yn cyflwyno rhaglen hyfforddi’r Awr Fwyd i staff yr ysgol a’r staff arlwyo (hyd at 50 aelod o staff yng Nghaerdydd) gan ychwanegu at adnoddau a rhaglenni presennol ac mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflenwyr bwyd ysgol, er enghraifft.
  2. Cyd-ddylunio pecyn addysg Yr Awr Fwyd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen (hyd at 1000 o blant) i’w gyflwyno gan staff hyfforddedig mewn ysgolion ac ychwanegu ato drwy ddefnyddio adnoddau a gweithgareddau allanol megis Sgiliau Maeth am OesVeg Power,  Maint Cymru etc.
  3. Ymchwilio i’r potensial  i rymuso disgyblion blwyddyn 6 i gyflwyno negeseuon allweddol i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen, gan adeiladu ar egwyddorion addysg cymheiriaid.
  4. Adeiladu ar waith ymgysylltu rhwng yr ysgol a’r cartref drwy weithgareddau megis bagiau rysáit i’w defnyddio gartref (a dreialwyd yn llwyddiannus yn y cynllun Bwyd a Hwyl), cyfleoedd hyfforddi i rieni a rhaglen Veg Power “Eat the Rainbow” mewn cydweithrediad â chwmni animeiddio Aardman.

Mae gan Gymru y capasiti i greu cenedl o ddinasyddion bwyd da a gall pob un ohonynt chwarae rhan hanfodol yn y broses o roi sylw i iechyd y cyhoedd, yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd. Gall prosiect Yr Awr Fwyd helpu i wireddu hyn drwy helpu i feithrin cenedlaethau gwybodus, grymus ac ysbrydoledig sy’n llawn cymhelliant i wneud dewisiadau sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd, yr amgylchedd a’u cymunedau lleol.

Caiff Yr Awr Fwyd ei datblygu gan y tîm a gychwynnodd y rhaglen Bwyd a Hwyl, a enillodd sawl gwobr ac a ddaeth yn Rhaglen Lywodraethu ar ôl hynny ac sy’n cael ei chyflwyno ledled Cymru. Llwyddodd Bwyd a Hwyl i ddangos amryw o fuddion iechyd a chymdeithasol i filoedd o blant, rhieni, gofalwyr a staff ysgol, a rhagwelir y bydd y cynllun peilot hwn yn cael yr un effaith.

Os hoffech wybod mwy am Yr Awr Fwyd, byddwn yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghaerdydd ddydd Iau, Mawrth 14eg 2024. Gallwch nodi’ch diddordeb drwy e-bostio foodsensewales@wales.nhs.uk