Tyfu cysylltiadau: arweinyddiaeth bwyd yng Nghymru

Yn gynharach yn y Gwanwyn, fe wnaeth Synnwyr Bwyd Cymru ddod ag amrywiaeth o unigolion ynghyd – pob un ohonynt yn gysylltiedig â gwahanol agweddau ar ddinasyddiaeth ac arweinyddiaeth bwyd yng Nghymru – ar gyfer dau ddiwrnod o hyfforddiant, rhwydweithio a rhannu gwybodaeth.

Roedd y ‘Cyfarfod Bwyd Da’ yn dod â charfan Fy Nghymuned Fwyd Cymru; cydlynwyr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a Hyrwyddwyr Llysiau at ei gilydd, sy’n golygu bod llawer o arweinwyr bwyd cymunedol gweithredol Cymru wedi gallu cwrdd wyneb-yn-wyneb a chyfnewid syniadau a phrofiadau yn ogystal â dysgu mwy am dirwedd polisi bwyd Cymru.  Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am Amaethu – sefydliad yn y Drenewydd sy’n gysylltiedig â phob un o’r tair rhaglen fwyd – ac ymweld â’r ardd gymunedol yn y dref.

Rhwydwaith ledled y DU yw Fy Nghymuned Fwyd sy’n galluogi hyrwyddwyr bwyd da i ddysgu, cysylltu a gweithredu.  Caiff ei redeg gan Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes ac mae’n cynnig rhaglen o weithgareddau i ddod â phobl sy’n hyrwyddo bwyd sy’n dda i’r hinsawdd, i natur ac i iechyd at ei gilydd.

Nod y rhaglen Fy Nghymuned Fwyd yw ysbrydoli, galluogi a chefnogi cyfranogwyr i feithrin gwybodaeth; cael mynediad at rwydweithiau a sicrhau adnoddau i drefnu gweithgareddau bwyd da effeithiol.  Mae’n galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i gysylltu ag eraill sy’n hyrwyddo bwyd da ac yn eu hannog i gymryd camau i wneud newidiadau cadarnhaol ynghylch bwyd da yn eu cymuned.

Mae’r rhaglen, sy’n agosáu at ddiwedd ei blwyddyn gyntaf, wedi’i chynnal yn rhithwir yn bennaf, ond roedd y digwyddiad ‘Dewch at Eich Gilydd’ a gynhaliwyd yn y Drenewydd yn gyfle i gohort Cymru ddod at ei gilydd a’u cyflwyno i ‘Hyrwyddwyr Bwyd Da’ eraill sy’n gweithio ar hyd a lled y wlad.

“Roedd cwrdd â charfan Fy Nghymuned Fwyd wyneb-yn-wyneb ar ôl misoedd o sesiynau Zoom yn brofiad braf ac yn ysbrydoledig,” meddai Chris Nottingham, cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ym Mlaenau Gwent ac sy’n aelod o garfan Fy Nghymuned Fwyd Cymru.  “Mae clywed am ddatblygiad Prosiectau Gweithredu Cymunedol pawb wedi fy ysgogi i fod yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy hyderus yn fy mhrosiect fy hun.  Rydym yn gallu rhannu ein profiadau fel cydlynwyr ac mae hynny wedi arwain at rannu syniadau sydd wedi bod yn fuddiol i’m gwaith a’m lle bwyd cynaliadwy.”

Yn ogystal â dysgu am brosiectau bwyd ei gilydd, fe wnaeth y mynychwyr ddysgu mwy hefyd am y cyd-destun gwleidyddol yng Nghymru gyda Synnwyr Bwyd Cymru yn cynnal sesiwn ar strwythurau gwleidyddol, cyd-destun polisi bwyd ac eiriolaeth yng Nghymru

Dilynwyd hyn gyda sesiwn datblygu syniadau a oedd yn galluogi cyfranogwyr Fy Nghymunedau Bwyd, cydlynwyr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a Hyrwyddwyr Llysiau i fyfyrio ar y gwaith yr oeddent eisoes yn ei wneud a sut y gallai eu prosiectau gyd-fynd â gwaith arall sy’n cael ei wneud ledled Cymru.

Mae cydlynwyr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn arwain gwaith partneriaethau bwyd lleol ac mae Hyrwyddwyr Llysiau yn wirfoddolwyr sy’n helpu i gyflawni cenhadaeth Pys Plîs yn eu cymunedau, gan annog mwy o bobl i fwyta mwy o lysiau – y mae pob un ohonynt yn cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau bwyd ar lefel gymunedol.

Ar yr ail ddiwrnod cafwyd cyfle i gyflenwyr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy gwrdd â’i gilydd, rhannu eu heriau a’u cyfleoedd a thrafod sut mae’r rhaglen yn cael ei chynnal yn eu hardaloedd nhw.

“Roeddwn wir yn gwerthfawrogi cwrdd â rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Cymru wyneb yn wyneb yn y Drenewydd ac erbyn diwedd y digwyddiad roeddwn i’n teimlo nad oeddwn ar fy mhen fy hun,” meddai Sam Evans, cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn Rhondda Cynon Taf.  “Roedd yn braf clywed lle mae’r aelodau eraill arni o ran eu taith a rhannu sut mae partneriaethau hŷn eisoes wedi goresgyn yr heriau y mae partneriaethau newydd yn eu hwynebu nawr.  Mae pwysigrwydd cael sgwrs fach dros baned o goffi neu rhwng sesiwn yn rhywbeth na ellir ei efelychu ar-lein.”

Ychwanegodd Pearl Costello, cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Caerdydd:  “Rwy’n falch iawn bod yna garfan gref o Leoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru erbyn hyn.  Roedd cwrdd â chydlynwyr eraill Cymru yn amhrisiadwy er mwyn cael ysbrydoliaeth a rhannu ein profiadau.  Mae hefyd wedi fy helpu i gadarnhau nifer o syniadau a phrosiectau yr wyf yn gweithio arnynt.  Rwy’n gobeithio y gallwn gael mwy o gyfleoedd i gwrdd yn rheolaidd.”

Y cyfle i gysylltu ag eraill sy’n rhan o’r rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a Fy Nghymuned Fwyd oedd yr agwedd fwyaf buddiol i Lousie Denham, cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ym Mro Morgannwg.  “Yn ddiweddar, mae llawer o’m gwaith wedi cynnwys treulio oriau dwys wrth y ddesg, felly roedd gallu cwrdd wyneb-yn-wyneb i rannu’r hyn rydym yn ei ddysgu, ein profiadau a syniadau gydag eraill sydd ar daith debyg wedi rhoi brwdfrydedd ac ysbrydoliaeth newydd i mi.  Rwy’n credu bod y mathau hyn o ddigwyddiadau yn amhrisiadwy er mwyn datblygu’r mudiad bwyd da ar hyd a lled Cymru.

Cafodd y digwyddiad deuddydd ei drefnu a’i hwyluso gan Hannah Norman, Rheolwr Bwyd Cymunedol Cymru yn Synnwyr Bwyd Cymru ac roedd yn ffordd o ddod â’r rhai sy’n gweithio ar draws llawer o’r rhaglenni sy’n gysylltiedig â bwyd, sy’n cael eu rheoli gan Synnwyr Bwyd Cymru, at ei gilydd.

“Un o’r heriau y mae’r sector bwyd a ffermio yn ei wynebu yw pobl, prosiectau a rhaglenni yn gweithio mewn seilos yn hytrach na mabwysiadu dull system gyfan,” meddai Hannah.  “Yn aml, rydym mor brysur yn delio â mater y mae angen rhoi sylw iddo ar frys, neu’n canolbwyntio ar brosiect penodol, nid oes amser gennym i gynnwys lleisiau a chyfranogwyr eraill sy’n gweithio yn y system fwyd ehangach.  Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn ceisio datblygu dull traws-sector ar gyfer y system fwyd yng Nghymru, gan weithio gyda chymunedau, sefydliadau, llunwyr polisi a’r Llywodraeth ar draws Cymru i greu system bwyd a ffermio sydd o les i bobl ac o les i’r blaned.”

“Gall cydweithredu ar draws rhaglenni gyflymu camau gweithredu drwy rannu gwybodaeth ac adnoddau yn ogystal ag ysgogi dulliau arloesol o fynd i’r afael â materion hirsefydlog.  Roedd ein digwyddiad yn y Drenewydd yn cadarnhau hyn, gan gyflwyno cyfle i bobl sy’n gysylltiedig â ‘gweithgareddau bwyd da’ i ddysgu oddi wrth ei gilydd, yn ogystal â chyfle i ddathlu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ledled Cymru drwy’r rhaglenni amrywiol hyn,” ychwanegodd.  “Fe wnaeth ein Cydlynwyr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, y cohort Fy Nghymuned Fwyd a Hyrwyddwyr Llysiau adael y digwyddiad yn teimlo wedi’u hysbrydoli a’u cymell, gyda rhwydwaith cymorth newydd i gynorthwyo gyda’u gwaith yn y dyfodol.”

DIWEDD