Lucinda Sehic

Ymunodd Lucinda â Synnwyr Bwyd Cymru ym mis Medi 2025 fel Cydlynydd Bwyd Caerdydd.

Daw â dros wyth mlynedd o brofiad proffesiynol mewn cynaliadwyedd a chadwyni cyflenwi bwyd gyda hi, wedi treulio’i hamser yn gweithio ar draws cyd-destunau rhyngwladol a chymunedol i gefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi mwy moesegol, cynaliadwy yn amgylcheddol, a gwydn. Yn ystod ei gyrfa, mae Lucinda hefyd wedi treulio amser yn Indonesia yn gweithio ar nwyddau amaethyddol fel te a chnau coco, gan gydweithio’n agos â chymunedau ffermio bach.

Y tu hwnt i hyn, mae gan Lucinda gysylltiad personol hirhoedlog â ffermio wedi tyfu lan ar fferm fach ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae hyn yn parhau i lunio ei diddordeb yn y ffordd y mae bwyd yn cael ei dyfu, ei rannu a’i werthfawrogi.