Mynd i'r cynnwys

Dewch at Eich Gilydd Bwyd Am Oes

Rhaglen o weithgareddau cymunedol rheolaidd sy’n cysylltu pobl o bob oed a chefndir trwy dyfu, coginio a rhannu bwyd da yw Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes. Mae’n rhaglen 4 blynedd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a ddechreuodd ym mis Mehefin 2019.  Mae’n cael ei harwain gan elusen Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd a’i darparu yng Nghymru trwy Synnwyr Bwyd Cymru.

Mae Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn cefnogi lleoliadau trwy eu hysbrydoli i gymryd rhan a thrwy gynnig ystod o adnoddau, ryseitiau, hyfforddiant, awgrymiadau cynllunio digwyddiadau, grantiau bach a chyfleoedd cyllido.

Ers ei sefydlu, mae Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yng Nghymru wedi mynd ati i ymgysylltu â chymunedau amrywiol a difreintiedig, gyda 54% o weithgaredd y rhaglen yng Nghymru yn cael ei ddarparu yn y 30% uchaf o ardaloedd difreintiedig y wlad.

Er gwaethaf heriau a chyfyngiadau pellach, mae pob un o bartneriaid lleol Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn parhau i ddarparu gweithgareddau ac rydym wedi gweld gwaith ysbrydoledig o leoliadau ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys bagiau ryseitiau, digwyddiadau tyfu a rhannu bwyd a sesiynau cyd-goginio rhithiol.

Mae Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes hefyd yn arwain ar waith Fy Nghymuned Fwyd –  rhwydwaith ar gyfer hyrwyddwyr bwyd da i ddysgu, cysylltu a gweithredu. Mae’n rhaglen o weithgareddau i ddod â phobl sy’n hyrwyddo bwyd da ynghyd – bwyd sy’n dda i’r hinsawdd, natur ac iechyd. Bydd y rhaglen gyntaf yn rhedeg o Fedi 2021 i Haf 2022.

Ewch i’r wefan
Cyswllt