Arweinwyr Bwyd Da yn ymgynnull yn Wrecsam

Yn ddiweddar trefnodd Synnwyr Bwyd Cymru ddigwyddiad hyfforddi, rhwydweithio a rhannu gwybodaeth dros ddau ddiwrnod yn Wrecsam a hynny ar gyfer unigolion a sefydliadau sy’n ymwneud â gwahanol agweddau ar arwain a rheoli bwyd yng Nghymru.

Llwyddodd y ‘Cynulliad Bwyd Da’ a gynhaliwyd am yr eildro yng Nghymru i ddod â chydlynwyr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, arweinwyr y Bartneriaeth Fwyd a charfan Fy Nghymuned Fwyd, ynghyd i gyfnewid syniadau a phrofiadau ac i ddysgu mwy am bolisïau bwyd yng Nghymru.

Canolbwyntiodd y diwrnod cyntaf ar y cyd-destun gwleidyddol yng Nghymru a chyflwynodd Katie Palmer o Synnwyr Bwyd Cymru ac Andrew Tuddenham o Gymdeithas y Pridd sesiwn ar strwythurau gwleidyddol, y cyd-destun polisi bwyd ac eiriolaeth yng Nghymru.

Cafwyd cyflwyniad hefyd i waith Synnwyr Bwyd Cymru, gwybodaeth am y Rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a chyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n gweithio ar ddatblygu’r partneriaethau bwyd a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y digwyddiad wedi’i anelu at arweinwyr bwyd profiadol yn ogystal â’r rhai sy’n newydd i waith y bartneriaeth fwyd yng Nghymru, gan roi trosolwg o waith y gymuned fwyd bresennol.

“Fel rhywun sydd ar fin dechrau ar y gwaith o greu partneriaeth fwyd leol traws-sector, er bod y gwaith sydd o fy mlaen yn gyffrous, mae’n frawychus hefyd,” meddai Gary Thomas, Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy Casnewydd, GAVO, Casnewydd.

“Roedd y digwyddiad rhwydweithio yn Wrecsam, wedi’i drefnu gan dîm anhygoel Synnwyr Bwyd Cymru, yn gyfle i mi gyfarfod a rhyngweithio â chymheiriaid o bob cwr o’r wlad sydd eisoes wedi cymryd y camau cychwynnol hynny. Roeddent yn barod iawn i rannu gwybodaeth am yr anawsterau a brofwyd ganddynt hyd yma, ynghyd â straeon am eu llwyddiannau a chymorth o ran y ffordd ymlaen. Roedd yn gyfle i greu cysylltiadau agosach â sefydliadau cyfagos, a gallaf ragweld y byddwn yn gweithio’n llawer agosach â nhw wrth ddatblygu’r gwaith. Dyma brofiad gwerthfawr a oedd yn rhoi gwell dealltwriaeth, gwybodaeth a doethineb a fydd yn ein helpu i gynllunio tuag at y nod a gwneud popeth yn fwy esmwyth ar hyd y daith. Gadewais y digwyddiad gan deimlo’n rhan o rywbeth croesawgar ac ysgogol. Roeddwn yn llawn brwdfrydedd ac yn teimlo’n fwy hyderus i allu mynd i’r afael â’r tasgau rwy’n eu hwynebu. Diolch o galon i’r trefnwyr ac i’r cyfranogwyr am greu profiad gwerth chweil.”

Yn ystod y ddau ddiwrnod, roedd cyfle i gydlynwyr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a’r rhai sy’n arwain y gwaith o sefydlu partneriaeth fwyd newydd yng Nghymru rwydweithio, rhannu heriau unigol a chael cyfle i drafod sut y caiff partneriaethau eu cyflwyno yn eu hardaloedd.

“Roedd cael clywed am waith y partneriaethau bwyd sy’n bodoli ledled Cymru yn galonogol ac yn rhoi egni ac ysbrydoliaeth i rywun,” meddai Augusta Lewis, cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin.  “Roedd yn bleser pur hefyd cael cyfarfod â chynrychiolwyr partneriaethau bwyd newydd ac i wireddu potensial ein gwaith ar hyd a lled Cymru i greu system fwyd iach, teg a chynaliadwy sy’n cyd-fynd â heriau’r 21ain ganrif.”

Arweinyddiaeth bwyd oedd ffocws yr ail ddiwrnod a hynny o dan arweiniad tîm Fy Nghymuned Fwyd – rhwydwaith ledled y DU sy’n galluogi hyrwyddwyr bwyd da i ddysgu, i gysylltu ac i weithredu. Mae Fy Nghymuned Fwyd, sy’n cael ei redeg gan Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes, yn cynnig rhaglen weithgareddau i ddod â phobl at ei gilydd i hyrwyddo bwyd sy’n dda i’r hinsawdd, i natur ac i iechyd.

Cynlluniwyd Fy Nghymuned Fwyd i ysbrydoli, i hwyluso ac i gefnogi cyfranogwyr i feithrin gwybodaeth; cael mynediad at rwydweithiau a chael adnoddau i drefnu gweithgareddau bwyd da sy’n cael llawer o effaith.  Mae’n caniatáu i’r rhai sy’n cymryd rhan i gysylltu ag eraill sy’n hyrwyddo bwyd da a’u hannog i gymryd camau i greu newid positif ynghylch bwyd da yn y gymuned.

Cafodd y digwyddiad deuddydd ei drefnu a’i hyrwyddo gan Hannah Norman, Rheolwr Bwyd Cymunedol Cymru, Synnwyr Bwyd Cymru ac roedd yn ffordd o ddod â’r rhai sy’n gweithio ar bob math o raglenni sy’n gysylltiedig â bwyd yng Nghymru at ei gilydd.

“Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddod â phartneriaethau bwyd cynaliadwy newydd a sefydledig at ei gilydd, yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliaid y rhaglen sy’n gweithio yn y sector,” meddai Hannah.  “Datblygu partneriaethau bwyd cynaliadwy yw un o brif flaenoriaethau Synnwyr Bwyd Cymru, ac mae’r cymorth a’r cyllid a gawsom gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi ein galluogi i ymestyn y model hwn o weithio ar draws y sector i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Er ein bod yn cynnal cyfarfodydd ar-lein yn rheolaidd, bu’r digwyddiad rhwydweithio â chymheiriaid hwn wyneb-yn-wyneb yn amhrisiadwy, gan greu lle i rannu gwybodaeth, arferion gorau, ac i greu cysylltiadau cadarn ar draws y sector a ledled Cymru hefyd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth fwyd, Lleoedd Bwyd Cynaliadwy neu Fy Nghymuned Fwyd yng Nghymru, cysylltwch â Synnwyr Bwyd Cymru yn uniongyrchol drwy e-bostio foodsensewales@wales.nhs.uk