Cyfle i fod yn rhan o Fy Nghymuned Fwyd – carfan 3!

Mae ceisiadau i ymuno â Charfan 3 o Fy Nghymuned Fwyd – rhwydwaith ar gyfer hyrwyddwyr bwyd da er mwyn dysgu, cysylltu a gweithredu – bellach ar agor.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y mudiad bwyd da, adeiladu eich hyder, gweithredu a dod yn rhan o rwydwaith o gyfoedion ar draws y DU, yna gallai’r rhaglen 12 wythnos hon fod yn addas i chi.

Mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau wythnosol ar fore Mercher a fydd yn cael eu cynnal o fis Medi i fis Rhagfyr 2023 a bydd llawer o gyfleoedd i rwydweithio â charfan ledled y DU ar yplatfform dysgu a thrafod Circle.

Dysgwch fwy am Fy Nghymuned Bwyd yma.

A dyma ddolen gyswllt ar gyfer y ffurflen gais.  Cofiwch fod angen i chi gwblhau’r ffurflen cyn gynted ag y gallwch a chyn 9am ddydd Llun 31 Gorffennaf 2023 os gwelwch yn dda.