Mis Plannu a Rhannu 2023

Mae Mis Plannu a Rhannu yn cael ei gynnal rhwng Ebrill 22ain a Mai 20fed 2023 ac yn ymgyrch i gael y genedl i dyfu a rhannu cynnyrch gyda’u cymuned, ysgol, teulu neu ffrindiau.  Mae’n cael ei redeg gan Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes (Food for Life Get Togethers), rhaglen Cymdeithas y Pridd sy’n anelu at adeiladu cysylltiad trwy dyfu.

Plannu a RhannuMae pedair thema allweddol i’r Mis Plannu a Rhannu, gydag adnoddau ac awgrymiadau defnyddiol bob wythnos i gefnogi eich gweithgareddau tyfu:

Wythnos Un: 22 — 28 Ebrill — Tyfu i Bawb

Mae Plannu a Rhannu yn ymwneud â thyfu eich bwyd eich hun yn hawdd ac yn hygyrch i bawb, o dyfwyr tro cyntaf i drefnwyr cymunedol.

Wythnos Dau: 30 — Ebrill – 5 Mai — Tyfu i Fwyta

Gyda chostau bwyd yn cynyddu, gall tyfu bwyd fod yn ffordd syml a hwyliog o fwynhau bwyd da. P’un a ydych chi’n tyfu tomatos ar eich silff ffenestr, neu fefus mewn hen gynhwysydd, mae llu o adnoddau gwych i helpu.

Wythnos Tri: 6 Mai — 12 Mai – Tyfu ar gyfer Llawenydd

Gall mynd allan yn yr ardd wneud rhyfeddodau i’ch lles. Mae’r wythnos hon yn ymwneud â thyfu planhigion hardd i ddod â lliw a bywyd gwyllt i’ch iard gefn neu wely llysiau. Beth am dyfu blodau hardd neu roi help llaw yn eich cymdogaeth?

Wythnos Pedwar: 13 — 20 Mai — Tyfu dros Natur

Mae gwenyn, chwilod a bywyd gwyllt arall yn arwyr byd natur, gan helpu i gynhyrchu’r bwyd rydym yn ei fwyta. Mae tyfu rhai planhigion sy’n gyfeillgar i natur yn ffordd wych o wneud eich rhan dros y blaned.

Pecyn Cymorth!

Mae gan dîm Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes 15 o adnoddau ac awgrymiadau newydd sy’n rhad ac am ddim i’w lawrlwytho, i’ch helpu chi wrth i chi gychwyn ar eich gweithgareddau Plannu a Rhannu.

Lawrlwythwch eich pecyn cymorth yma!

Am wybodaeth bellach, ewch i www.fflgettogethers.org