Mynd i'r cynnwys

Bwyd Caerdydd

Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn cael effaith aruthrol ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr unigol, a’r amgylchedd hefyd.

Mae bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a chydnerth. Mae’n gweithredu fel canolbwynt ar gyfer cysylltu pobl a phrosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy a moesegol; yn gweithredu fel llais dros newid ehangach yn ogystal â bod yn gatalydd ar gyfer newid y system fwyd leol yng Nghaerdydd.

Bellach, mae Bwyd Caerdydd yn cynnwys 203 o unigolion ar draws 95 o sefydliadau ac mae ganddo fwrdd strategaeth sy’n cynnwys ystod o aelodau, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Riverside Real Food, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a llu o sefydliadau eraill. Drwy’r rhwydwaith hwn o bartneriaid ymroddedig, mae Caerdydd yn ysgogi newid ar lefel y ddinas ac yn gweithio i fynd i’r afael â rhai o broblemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf y dydd.

Ym mis Mehefin 2021, enillodd Bwyd Caerdydd statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Sustainable Food Places).  Dyma’r lle cyntaf yng Nghymru ac un o ddim ond chwe lle yn y DU i gyflawni’r gamp hon, sy’n cydnabod gwaith arloesol y ddinas wrth hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.

Ym mis Gorffennaf 2021, cafodd gyflawniadau Bwyd Caerdydd eu cydnabod unwaith eto pan enillodd y wobr Dinas Llysiau yn seremoni wobrwyo blynyddol Pys Plîs.  Fe ddyfarnwyd y wobr hon i Fwyd Caerdydd am y dulliau effeithiol ac integredig yn seiliedig ar le a ddefnyddir gan y ddinas er mwyn cynyddu nifer y llysiau sy’n cael eu bwyta ar lefel leol.

Ewch i’r wefan
Cyswllt