Llysiau o Gymru i Ysgolion Cynradd Cymru – sut gallai cynllun buddsoddi newydd mewn cadwyni cyflenwi cynaliadwy arwain at gynhyrchu mwy o lysiau drwy ddulliau agroecolegol

Mae prydau bwyd mewn ysgolion yn gyfle i roi marchnad sicr i gynhyrchwyr llysiau agroecolegol[1], a byddai modd defnyddio’r prydau hyn hefyd fel ffordd bwysig o fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi llysiau yng Nghymru. Dyna ganfyddiadau adroddiad gwerthuso sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, a hwnnw’n edrych ar brosiect peilot a gomisiynwyd gan Synnwyr Bwyd Cymru.

Mae’r adroddiad yn dweud y byddai parhau i fuddsoddi yn cael effaith ddilynol ar ddatblygu rhwydwaith rhanbarthol a chryf o gynhyrchwyr bwyd, a fyddai’n gallu cyflenwi llysiau i ganol eu cymunedau.  Er mwyn cyflawni hyn, mae’r adroddiad yn argymell bod angen cynllun buddsoddi mewn cadwyni cyflenwi cynaliadwy, a’r cynllun hwnnw’n targedu’n benodol y bwlch rhwng y llysiau rhataf sydd ar gael a llysiau sy’n cael eu cynhyrchu’n gynaliadwy yng Nghymru.

Gweledigaeth y peilotMae’r adroddiad hefyd yn casglu, pe bai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynnwys 2 ddogn o lysiau ym mhob pryd mewn ysgolion cynradd y flwyddyn nesaf, byddai’n rhaid cyflenwi 5331 tunnell o lysiau i ysgolion. Pe bai’r rhain i gyd yn llysiau sy’n cael eu cynhyrchu drwy ddulliau agroecolegol yng Nghymru, byddai’n rhoi marchnad sicr gwerth tua £15m i gynhyrchwyr agroecolegol Cymru. Byddai hyn yn golygu dyblu maint yr ardal sy’n cael ei defnyddio i dyfu llysiau mewn caeau yng Nghymru, gan gefnogi bron i 100 o fusnesau sy’n cyflogi bron i 1000 o bobl. Byddai hyn hefyd yn cael effaith ddilynol ar ddatblygu rhwydwaith rhanbarthol a chryf o gynhyrchwyr bwyd, a fyddai’n gallu cyflenwi llysiau i ganol eu cymunedau.

Dyma rai o brif ganfyddiadau’r adroddiad gwerthuso ynghylch Llysiau Agroecolegol o Gymru i Ysgolion Cynradd Cymru, sydd wedi’i lunio gan Dr Amber Wheeler a’i gomisiynu gan Synnwyr Bwyd Cymru.  Mae’n gwerthuso prosiect peilot diweddar lle cafodd courgettes o Blas Gwent, tyfwr agroecolegol o Gymru, eu cyflenwi i ysgolion yng Nghaerdydd drwy Castell Howell, y cyfanwerthwr Cymreig, a hynny gyda chymorth y Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy, Bwyd Caerdydd.

Am y 40 mlynedd ddiwethaf, mae garddwriaeth ar raddfa fechan wedi bod yn brin o adnoddau, gan nad yw ffermydd sy’n llai na 5 hectar yn gymwys i gael llawer o arian.  Mae Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru yn cynnwys cymorth penodol i arddwriaeth, ac mae’r trothwy’n is, sef 3 hectar. Ond ni fydd nifer o ffermydd bach sy’n tyfu llysiau yn gymwys o hyd.  Ar yr un pryd, mae angen i blant ysgolion cynradd Cymru fwyta o mwy o lysiau.  Y ddau ffactor yma oedd y prif gymhellion dros gynnal yr ymchwil weithredu hon.

O dan ymbarél Bwyd Caerdydd, Castell Howell a Blas Gwent, ac â chymorth partneriaid pwysig, sef Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Tyfu Cymru, penderfynodd y grŵp edrych ar beth fyddai angen ei wneud yn ymarferol er mwyn rhoi llysiau gan gynhyrchwyr agroecolegol o Gymru ar blatiau plant ysgol Cymru. Penderfynodd y grŵp ganolbwyntio ar courgettes, ac ymrwymodd i gynnal cynllun peilot yn edrych ar heriau symud llysiau drwy’r system fwyd er mwyn iddyn nhw gael eu bwyta mewn ysgolion.

Crynodeb o'r ffeithiauCynhaliwyd y prosiect peilot dros gyfnod o dair wythnos yn ystod rhaglen Bwyd a Hwyl yr haf, a hynny mewn 29 o ysgolion cynradd Caerdydd, gan ymwneud â thua 1500 o blant.  Aeth bron i 1 tunnell o courgettes drwy’r gadwyn gyflenwi, a chafodd y rhain eu defnyddio gan dimau arlwyo’r ysgolion i greu cinio yn ogystal â chan y Cydlynwyr Bwyd a Hwyl i ennyn diddordeb y plant mewn coginio a gweithgareddau perthnasol eraill, fel defnyddio courgettes i wneud celf.

Dangosodd y peilot ymchwil weithredu hwn ei bod hi’n bosibl cyflenwi llysiau agroecolegol o Gymru i ysgolion. Serch hynny, mae llysiau agroecolegol yn costio mwy na llysiau eraill a llysiau sydd wedi’u mewnforio, ac os ydyn ni am fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi cynaliadwy, mae cost ynghlwm wrth hynny. Yn yr achos hwn, talwyd y gost yn hael gan Castell Howell, sef 90c am bob kg, neu £900 y dunnell.  Dyma oedd cost buddsoddi mewn cadwyn gyflenwi agroecolegol (sef y gwahaniaeth rhwng pris cyfanwerthu cyfartalog courgettes organig yn y Deyrnas Unedig, sef £2.50, a’r pris cyfanwerthu rhataf sydd ar gael, sef £1.60 = 56% yn fwy).  Y cynnydd hwn o 56% ym mhris y cynnyrch oedd pris buddsoddi yn y gadwyn gyflenwi agroecolegol leol, ac mae angen ei dalu os ydyn ni am ddefnyddio prosesau caffael cyhoeddus i gefnogi cynhyrchwyr Cymru.

I bob pwrpas, fe wnaeth y cynllun peilot greu cynllun buddsoddi mewn cadwyni cyflenwi cynaliadwy, gan dalu’r gwahaniaeth yn y gost rhwng y cynnyrch rhataf a chynnyrch a oedd wedi’i gynhyrchu’n gynaliadwy yng Nghymru. Wrth wneud hynny, roedd hi’n bosibl i gynhyrchwyr bach sy’n tyfu llysiau gyflenwi ysgolion cynradd drwy gyfanwerthwr.

“Mae prydau ysgol yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr llysiau agroecolegol, a gallai hynny ysgogi buddsoddiad mewn cadwyni cyflenwi llysiau yng Nghymru,” meddai Dr Amber Wheeler.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd y genedl, ac fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru, bydd yn cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru erbyn 2024. Dyma gyfle gwych i roi prydau maethlon i holl blant ysgolion cynradd y wlad, ac ar yr un pryd mae’n gyfle posibl i fuddsoddi mewn cynhyrchu a chadwyni cyflenwi cynaliadwy yng Nghymru.

“Byddai sefydlu cynllun buddsoddi mewn cadwyni cyflenwi cynaliadwy yn arwain at ddatblygu rhwydwaith o gynhyrchwyr bwyd a fyddai’n gallu cyflenwi llysiau i ganol eu cymunedau, gan gyflawni ymrwymiadau caffael lleol ac ymrwymiadau sero net y Llywodraeth ar yr un pryd.

“Ond byddai gwneud hyn yn galw am gynllun buddsoddi mewn cadwyni cyflenwi cynaliadwy, a’r cynllun hwnnw’n targedu’n benodol y bwlch rhwng y llysiau rhataf sydd ar gael a llysiau sy’n cael eu cynhyrchu’n gynaliadwy yng Nghymru,” atega Dr Wheeler.  “Byddai modd cyflwyno cynlluniau buddsoddi mewn cadwyni cyflenwi cynaliadwy mewn sectorau eraill hefyd, fel y sector cig eidion a chig oen. Dyma sectorau a allai elwa mwy o’r marchnadoedd caffael cyhoeddus pe bai modd pontio’r gwahaniaethau mewn cost.”

Katie Palmer, Rheolwr Rhaglenni yn Synnwyr Bwyd Cymru, a gomisiynodd y cynllun peilot hwn fel rhan o waith y sefydliad o dan y rhaglen  Pys Plîs. Mae hi bellach yn teimlo’n gyffrous wrth aros i weld sut gellid cynyddu maint y peilot gwreiddiol.

“Mae cyfle i ddatblygu ar y peilot hwn, i weld sut gallai buddsoddiad mwy a gwell mewn cynllun i fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi cynaliadwy weithio. Dyna rywbeth y mae ei angen ar Lywodraeth Cymru os yw hi am gyflawni ei hymrwymiad i gynyddu faint o fwyd sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol sy’n mynd i ysgolion, a hynny fel rhan o’i hymrwymiad i gynnig pryd ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn diwedd 2024,” meddai Katie.

“Ar ôl gweld effaith uniongyrchol y prosiect hwn, rydyn ni nawr yn gobeithio cynnal ail gam y peilot, gan weithio gyda rhagor o Bartneriaethau Bwyd mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru; mwy o gynhyrchwyr; mwy o gynnyrch amrywiol; a mwy o ysgolion a phlant, gan ymwneud â mwy o bobl.  Yr un fyddai’r ymrwymiad i roi llysiau Cymru ar blatiau plant, ond gallen ni weithio gyda mwy o gynhyrchwyr – gan edrych ar wahanol fathau o lysiau; trefnu ymweliadau â ffermydd; creu astudiaeth beilot hwy drwy weithio gyda mwy o ysgolion; cydweithio â staff arlwyo; a chynnwys plant yn y broses o greu ryseitiau.   Roedd hi’n hynod o galonogol gweld y plant yn ymwneud â’u bwyd; yn deall tarddiad eu bwyd; ac yn mwynhau ac yn darganfod llysiau sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol.  Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen yn arw at wneud cynnydd gyda’r astudiaeth hon ac at gynyddu maint y gwaith pwysig hwn.”

DIWEDD

[1] Ystyr agroecoleg yw defnyddio egwyddorion wrth ffermio sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng planhigion, anifeiliaid, pobl a’u hamgylchedd. Mae arferion ffermio agroecolegol yn ceisio gweithio gyda bywyd gwyllt, lliniaru’r newid yn yr hinsawdd, a galluogi tyfwyr a chymunedau lleol i greu systemau sy’n cyd-fynd orau â’u hanghenion.