Lansio Pecyn Gwybodaeth am fudd-daliadau’n ymwneud â bwyd yng Nghaerdydd a’r Fro

Mae adnodd digidol wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar ar wefan Symud Mwy, Bwyta’n Iach mewn ymgais i gynyddu ymwybyddiaeth ynghyd â chynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar fuddion sy’n ymwneud â bwyd.

Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro a Thîm Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i dynnu sylw at y gwahanol gynlluniau buddion sy’n ymwneud â bwyd sydd ar gael ledled Cymru, gan ddod â nhw ynghyd yn y pecyn digidol newydd hwn.

Gyda chefnogaeth Bwyd Caerdydd – partneriaeth fwyd leol y ddinas – cydweithiodd y timau i greu’r adnodd pwysig hwn fel ffordd o rannu gwybodaeth gyda staff rheng flaen ac i roi’r hyder iddynt i annog teuluoedd i gael mynediad at yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

“Er bod nifer o gynlluniau a phecynnau ar gael i gefnogi teuluoedd ar incwm isel ledled Cymru i gael mynediad at fwyd iach – gan gynnwys Prydau Ysgol am Ddim a Bwyd a Hwyl – dangosodd adolygiad o’r nifer sy’n manteisio ar Dalebau Cychwyn Iach yn lleol yng Nghaerdydd ddiffyg ymwybyddiaeth o’r cynllun ymhlith teuluoedd cymwys yn ogystal ag ymhlith llawer o’r staff rheng flaen sy’n eu cefnogi,” meddai Helen Griffith, Uwch Arbenigwr Hybu Iechyd, Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol BIP Caerdydd a’r Fro.

“Mae’r adnodd newydd hwn yn amlinellu’r gwahanol gynlluniau sydd ar gael yng Nghymru ac yn egluro’n glir beth yw’r cynllun, pwy sy’n gymwys, sut y gall teuluoedd gael mynediad at y cynllun, a pham ei fod yn bwysig,” ychwanega Helen, sydd wedi bod yn arwain ar ddatblygu’r adnodd hwn. “Gall defnyddwyr hefyd ddod o hyd i wybodaeth am rai o’r prosiectau bwyd lleol gwych sy’n cynnig cymorth sydd mawr ei angen ar deuluoedd.”

Yn ogystal â bod yn arf gwerthfawr i’r rhai sy’n gweithio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, ynghyd â’r rhai sydd â diddordeb mewn gwaith cymunedol, mae’r pecyn digidol hwn hefyd yn berthnasol i bobl sy’n gweithio ledled Cymru.

“Hoffem ddiolch i Gangen Iach ac Egnïol Llywodraeth Cymru, Synnwyr Bwyd Cymru, Bwyd Caerdydd, Bwyd y Fro a Gwasanaeth Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd am eu rhan yn y broses o roi’r pecyn digidol hwn am fudd-daliadau’n ymwneud â bwyd at ei gilydd,” meddai Helen. “Dyma adnodd pwysig iawn ac rwy’n gobeithio y bydd yn helpu i hysbysu staff rheng flaen yng Nghaerdydd a’r Fro, yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio ledled Cymru, am y budd-daliadau’n ymwneud â bwyd sydd ar gael i deuluoedd cymwys.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Griffith, Uwch Arbenigwr Hybu Iechyd, Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol BIP Caerdydd a’r Fro.