Mynd i'r cynnwys

Cynghrair Polisi Bwyd Cymru

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn un o aelodau sefydlu Cynghrair Polisi Bwyd Cymru, cynghrair o sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n adeiladu ac yn hyrwyddo gweledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd Cymru.

Trwy gydweithredu, ymgysylltu ac ymchwil nod y Gynghrair yw:

  • Cyd-gynhyrchu gweledigaeth ar gyfer system fwyd yng Nghymru sy’n cysylltu cynhyrchu, cyflenwi a defnyddio ac yn rhoi ystyriaeth gyfartal i iechyd a lles pobl a natur.
  • Eirioli dros newid polisi i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, argyfwng iechyd y cyhoedd a’r cynnydd mewn ansicrwydd bwyd.
  • Sicrhau bod Cymru wedi’i chysylltu â pholisi’r DU, cyfleoedd ymchwil a’r system fyd-eang ehangach.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Cynghrair Polisi Bwyd Cymru ei gweledigaeth ar y cyd ar gyfer datblygu system fwyd sy’n unigryw i Gymru ac sy’n addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

Synnwyr Bwyd Cymru sy’n darparu’r Ysgrifenyddiaeth ar gyfer Cynghrair Polisi Bwyd Cymru ac mae hefyd yn rhoi cefnogaeth Cyfathrebu i’r grŵp.

Cyswllt

Gallwch hefyd lawrlwytho dogfennau ac ymatebion wedi’u paratoi gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru isod:

Lawrlwythwch y ddogfen – System Fwyd sy’n addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol Cyflwyniad gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru: Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Cyflwyniad gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru: Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Cyflwyniad gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru: Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cydgysylltu’r System Fwyd

Ymateb i Ymgynghoriad Amgylchedd Bwyd Llywodraeth Cymru

Ymateb i Ymgynghoriad ar y Bil Drafft Bwyd (Cymru) – Medi 2022

Ymateb i Ymgynghoriad ar y Bil Drafft Bwyd (Cymru) – Ionawr 2023

Bill Bwyd (Cymru): Papur Briffio

Datganiad ar wrthod Bil Bwyd (Cymru)

Yn ystod Tachwedd 2021, fe wnaeth Synnwyr Bwyd Cymru, ar ran Cynghrair Polisi Bwyd Cymru ddod â nifer o unigolion o ystod o sefydliadau ynghyd i gymryd rhan mewn cyfres newydd o bodlediadau o’r enw Bwyd. Hinsawdd. Newid?

Wedi’i chyflwyno gan Aled Rhys Jones, bydd y gyfres hon yn cynnwys cyfraniadau gan bobl sy’n gweithio ar draws system fwyd Cymru, gan roi’r cyfle iddynt drafod ac archwilio ystod o feysydd sy’n gysylltiedig â bwyd a newid hinsawdd.

Mae’r bennod gyntaf (cyfrwng Saesneg) yn canolbwyntio ar y gadwyn gyflenwi ac arferion caffael yng Nghymru.  Mae’n edrych ar y sefyllfa bresennol ac yn gofyn a all newid ein ffyrdd o weithio cael effaith gadarnhaol ar iechyd, ffyniant economaidd ac ar ein hinsawdd hefyd.

Mae’r ail bennod yn bodlediad cyfrwng Cymraeg sy’n trafod ein defnydd o dir yng Nghymru – o ffermio sy’n gyfeillgar i natur i’r iaith Gymraeg; ac o gymunedau gwledig, i dyfu ein bwyd ein hunain. Yn cymryd rhan yn y bennod hon mae Rhys Evans, Arweinydd Ffermio Cynaliadwy Cymru, Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur a Caryl Haf, Cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Mae’r trydydd podlediad yn cynnwys Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru a’i ferch Beca. Ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar heriau a chyfleoedd targedau Net Sero ac yn archwilio gobeithion Glyn a Beca ar gyfer eu fferm hwythau ac ar gyfer y diwydiant yn gyffredinol.

Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru hefyd wedi cynhyrchu fideo sy’n esbonio mwy am systemau bwyd.  Gwyliwch y fideo yma: