Bil Bwyd (Cymru) – Dadl yn y Senedd

Ddydd Mercher, Mai 24ain, bydd Bil Bwyd (Cymru) yn cael ei drafod yn y Senedd. Os oes gennych ddiddordeb dysgu  mwy am y Bil, rydym wedi dod â rhai dogfennau a chynnwys allweddol at ei gilydd a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad terfynol cyn y ddadl yn Senedd a’r bleidlais Cam 1 ddydd Mercher. Gallwch ddarllen yr adroddiad yma: Bil Bwyd (Cymru) Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (senedd.cymru)

Os ydych chi eisiau manylion pellach, efallai y byddwch chi hefyd eisiau bwrw golwg dros y canlynol:

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad: Adroddiad ar y Bil Bwyd (Cymru) (senedd.cymru) 

Adroddiad y Pwllgor Cyllid: cr-ld15833-w.pdf (senedd.cymru) 

Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru hefyd wedi ysgrifennu papur briffio sydd wedi’i ddosbarthu i Aelodau’r Senedd yn tynnu sylw at rai o’r pwyntiau a godwyd yn ystod y broses graffu. Os hoffech ddarllen mwy, gallwch ddod o hyd iddo yma: Cynghrair Polisi Bwyd Cymru: Papur Briffio (foodsensewales.org.uk) 

Mae’r Papur yn cynnwys cyfres o ffeithluniau sy’n dangos rhai o’r prif negeseuon allweddol, gan gynnwys y canlynol:

Ffigur 1 – Cyfrifoldeb Trawslywodraethol dros Fwyd (prif feysydd wedi’u hamlygu)

 

Ffigur 2 – Costau buddsoddi mewn Bil Bwyd

 

Ffigur 3 – Integreiddio Polisi Bwyd Seiliedig ar Le

 

Ffigur 4 -Pŵer ac Annhegwch yn ein System Fwyd

 

Ysgrifennodd Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen yn Synnwyr Bwyd Cymru flog yr wythnos hon yn ystyried yr angen am fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ein system fwyd yng Nghymru. Gallwch ddarllen hynny yma: Ydyn ni eisiau polisi drws agored ynteu bolisi drws caeedig ar gyfer bwyd? – Synnwyr Bwyd Cymraeg (synnwyrbwydcymru.org.uk) 

Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru hefyd wedi cynhyrchu fideo yn esbonio mwy am systemau bwyd. Gwyliwch y fideo yma: