Ydyn ni eisiau polisi drws agored ynteu bolisi drws caeedig ar gyfer bwyd?

Tra bod Uwchgynhadledd Fwyd o’r Fferm i’r Fforc Prif Weinidog y DU yn cael ei chynnal y tu ôl i ddrysau caeedig yn Stryd Downing heddiw, yng Nghymru, mae’r Senedd yn paratoi ar gyfer dadl agored ar Fil Bwyd.  Yma, mae Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru yn ystyried a oes angen fframwaith deddfwriaethol arnom ar gyfer ein system fwyd yng Nghymru.

Wrth i mi ddechrau casglu ystadegau allweddol ar gyflwr ein system fwyd cyn y ddadl ar Fil Bwyd (Cymru) yn y Senedd yr wythnos nesaf, cefais fy nharo gan rai datganiadau sy’n peri gofid ar fy ffrwd cyfryngau cymdeithasol y bore yma, gan gynnwys:

 “mae rhai teuluoedd ledled y DU yn cael eu gorfodi i ddwyn llaeth fformiwla i fabanod yn sgil cynnydd yn y gost”

 a

 “Ffermio dwys sy’n bennaf cyfrifol am ddirywiad adar yn Ewrop”

Yn yr amgylchedd hwn, mae’n hawdd digalonni. Weithiau, mae maint a chymhlethdod y problemau’n gorlethu rhywun; ar adegau eraill nid yw’r rhifau mawr rydych chi’n eu clywed yn ddyddiol yn effeithio dim arnoch gan eich bod mor gyfarwydd â nhw. Ond rwyf wedi darganfod fod bod yn rhan o fudiad ar y cyd sy’n rhannu, yn gwrando, yn dadlau ac yn ceisio dod o hyd i atebion ar y cyd yn calonogi rhywun a’i fod yn gynhyrchiol. Ni allaf helpu meddwl felly nad polisi drws caeedig yw’r un iawn ar gyfer ein System Fwyd.

Sbardunodd Strategaeth Fwyd Henry Dimbleby sgwrs genedlaethol am y System Fwyd yn Lloegr. Roedd y strategaeth a ddeilliodd o hyn yn un yr ymchwiliwyd yn fanwl iddi ac yn un a gafodd gefnogaeth eang – fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn ddogfen ar y silff i raddau helaeth. Mae Bil Bwyd (Cymru), a gyflwynwyd i’r Senedd gan Peter Fox AS mewn balot aelod preifat, wedi creu lle i gael dadl debyg am ein cyfrifoldeb ni yng Nghymru fel rhan o System Fwyd fyd-eang. Pa fath o system fwyd ydyn ni ei heisiau ar gyfer Cymru a sut rydym yn mynd i’w chyflawni? Mae hyn wedi cyflwyno dewis i’r Llywodraeth – deddfu neu fentro cael strategaeth fwyd arall sy’n hel llwch?

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd yng Nghymru i feddwl am yr hirdymor ac i gydweithio, diolch i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mewn llawer o feysydd ar draws y System Fwyd yng Nghymru rydym yn gweld bod cydweithio yn dechrau digwydd – boed hynny drwy rwydwaith newydd o bartneriaethau bwyd, clystyrau busnesau bwyd Llywodraeth Cymru neu Cyswllt Ffermio – mae ymdrechion yn cael eu gwneud. Yr hyn sydd ar goll fodd bynnag yw arweiniad clir gan y Llywodraeth ynghylch yr hyn yr ydym am i’n system fwyd ei wneud i ni; sut i’w chysylltu â materion systemig megis anghydraddoldebau iechyd sy’n gysylltiedig â deiet, colli natur, newid yn yr hinsawdd neu economïau gwledig; a sut i rannu atebolrwydd am hynny rhwng y Llywodraeth a chymdeithas.

Mae arnom angen system fwyd wydn sy’n addas ar gyfer yr hirdymor. Efallai y bydd y newidiadau sydd eu hangen yn cymryd amser maith i’w cyflawni, ond mae angen i ni weithredu ar fyrder a chyda thosturi. Dyna pam rwy’n teimlo bod angen sylfaen ddeddfwriaethol ar ein system fwyd. Mae ei hangen arnom i rwyfo drwy’r dyfroedd tymhestlog y tu hwnt i gylchoedd gwleidyddol; mae ei hangen arnom i sicrhau atebolrwydd ar draws pob agwedd ar y system fwyd; mae ei hangen arnom i sicrhau bod gennym sefyllfa gadarn yng nghyd-destun dadreoleiddio cynyddol yn y DU; ac yn bwysicaf oll, mae ei hangen arnom i ysgogi a sianelu’r holl arbenigedd, argyhoeddiad ac angerdd sy’n bresennol yn y system fwyd yng Nghymru i greu newid cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ynglŷn â Katie Palmer

Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru yw Katie Palmer.  Mae gan Katie radd Meistr mewn Maetheg o Goleg y Brenin Llundain a gradd mewn Polisi Bwyd o Brifysgol y Ddinas, Llundain. Wedi gweithio ym myd bwyd ers dros 20 mlynedd, mae ganddi brofiad yn y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus (gan gynnwys chwe blynedd ar Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd).  Mae Katie yn un o sylfaenwyr y Bwrdd Nerth Llysiau yn ogystal â bod yn un o sylfaenwyr Cynghrair Polisi Bwyd Cymru.  Mae hefyd yn aelod o Grŵp Cynghori Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf  CLlLC ac roedd yn un o’r tîm o bedwar a greodd y rhaglen Bwyd a Hwyl a enillodd sawl gwobr yng Nghaerdydd yn 2015.  Yn ddiweddar, cafodd Katie ei hethol yn aeold o Gyngor Mewnol Cynghrair Systemau Bwyd Ymwybodol (CoFSA), sef mudiad bwyd, amaethyddiaeth ac ymarferwyr ymwybodol, a gynlluniwyd gan Raglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig (UNDP) sydd â nod cyffredin: cefnogi pobl ar draws systemau bwyd ac amaethyddiaeth i feithrin eu gallu mewnol er mwyn ysgogi newid yn y systematig a’i hadfywio.