Cynghrair Systemau Bwyd Ymwybodol yn COP27

Yn ystod COP27, fel rhan o ddigwyddiad byd-eang a drefnwyd gan Raglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig (UNDP), ymunodd Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru, â phanel o arbenigwyr i drafod ‘Bwyd ar gyfer Hinsawdd: Ysgogi Trawsnewidiad o’r Tu Mewn Allan.

Bu Katie yn rhan o’r broses o sefydlu’r Gynghrair Systemau Bwyd Ymwybodol (CoFSA) sef mudiad bwyd, amaethyddiaeth ac ymarferwyr ymwybodol, a gynlluniwyd gan yr UNDP ac sydd â nod cyffredin: cefnogi pobl ar draws systemau bwyd ac amaethyddiaeth i feithrin eu gallu mewnol er mwyn ysgogi newid yn y systematig a’i hadfywio.  Mae CoFSA yn mynd ati i drawsnewid systemau bwyd drwy weithio gyda phob grŵp perthnasol o randdeiliaid ar draws systemau bwyd, gan gynnwys defnyddwyr, cwmnïau, llywodraethau, asiantaethau datblygu, academia, cyrff anllywodraethol byd-eang a lleol, cymunedau lleol, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd.  Er mwyn gallu trawsnewid systemau bwyd mae CoFSA o’r farn bod yn rhaid i ni weithio nid yn unig ar weithredu polisïau, ymchwil a phrosiectau, ond hefyd ar sbardunau mewnol ymddygiad unigol, cyfunol a sefydliadol. Mae’n rhaid i ni allu ailgysylltu â ni ein hunain, â’n gilydd ac â natur i sbarduno’r rhinweddau a’r sgiliau trawsnewidiol sydd eu hangen i gefnogi’r broses o drawsnewid i systemau bwyd atgynhyrchiol.

Ym mis Tachwedd 2022, etholwyd Katie yn aelod o Gyngor Mewnol CoFSA, grŵp sy’n cael ei gadeirio gan Andrew Bovarnick, Pennaeth Systemau Bwyd a Nwyddau Amaethyddol Byd-eang UNDP, a fydd yn diffinio ac yn llywio’r broses o weithredu strategaeth CoFSA yn ogystal â bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar brif agweddau’r Gynghrair.  Mae Katie yn un o ddim ond 12 o ymarferwyr systemau bwyd ar draws y byd sydd ar y Cyngor Mewnol a bydd ei phresenoldeb yn helpu i greu trawsnewidiad positif yng Nghymru ac yn fyd-eang.  Llwyddodd hefyd i gyfrannu at ddatblygu Maniffesto CoFSA.

Yn ystod ei chyflwyniad yn COP27, rhannodd Katie ei myfyrdodau â chydweithwyr o bob cwr o’r byd ynglŷn â bod yn rhan o’r gymuned ymarfer byd-eang hwn, a sut y llwyddodd ei amharodrwydd cychwynnol i’w helpu i groesawu dull gweithredu newydd. Gallwch ddarllen mwy yma:

Rwy’n ymarferydd systemau bwyd ond nid wyf yn arbenigwr ar godi ymwybyddiaeth o bell ffordd, felly bu fy nhaith wrth sefydlu CoFSA yn agoriad llygaid ac mae wedi cyfoethogi fy ngwybodaeth. Ond cyn i mi sôn am hynny hoffwn roi tipyn o gyd-destun i chi drwy ddweud tipyn wrthoch chi am Gymru.

Gwlad fach a hardd yw Cymru sydd â chalon fawr a’i hiaith ei hun. Hoffwn rannu 2 air Cymraeg â chi rwy’n eu cysylltu â’n gallu mewnol:

Hiraeth – nid oes cyfieithiad uniongyrchol o’r gair ond yr ymadrodd gorau i’w ddisgrifio yn Saesneg yw ‘a nostalgic longig for a place’. Gair arall nad oes cyfieithiad uniongyrchol ar ei gyfer yw Cwtsh sy’n golygu “cofleidio rhywun”, ond os byddwch yn rhoi cwtsh i rywun, rydych hefyd yn cynnig ‘man diogel’ iddynt. Gall meddylgarwch greu man diogel.

Yn ôl i sôn am Gymru – rydym yn rhan o’r DU ond mae gennym ein Senedd ein hunain ac mae gennym nifer o bwerau datganoledig, er enghraifft Amaethyddiaeth, Addysg a’r GIG. Efallai mai’r un sydd fwyaf perthnasol heddiw yw’r ddeddfwriaeth gyntaf o’i bath yn y byd, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r ddeddfwriaeth datblygu cynaliadwy hon yn rhoi dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i ystyried cenedlaethau’r dyfodol wrth wneud pob penderfyniad. Roedd y Comisiynydd, Sophie Howe, yn bresennol yn COP yr wythnos hon.

 Mae’r Ddeddf yn gweithredu ar draws 7 nod llesiant ac yn amlinellu’r pum ffordd o weithio y dylai cyrff cyhoeddus eu mabwysiadu i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau’n well. Mae’r pum ffordd o weithio yn berthnasol i ddull gweithredu CoFSA; ystyried yr hirdymor, cydweithio, integreiddio, atal a chynnwys pobl o bob oedran ac amrywiaeth.

Mae hyn yn fy arwain i sôn am ddechrau fy nhaith gyda CoFSA. Un o sylfeini ein gwaith yw helpu i greu system Fwyd gadarn drwy greu rhwydwaith o bartneriaethau bwyd lleol.

Mae’r partneriaethau hyn yn gweithio ar draws y system leol, ac yn cynnwys partneriaid o bob rhan o’r system fwyd, i greu gweledigaeth a chynllun bwyd iach a chynaliadwy yn yr ardal. Mae 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru a’n gweledigaeth yw gweld partneriaeth ym mhob un o’r ardaloedd hyn.

Cefais fy nghyflwyno i’r Rheolwr Newid mewn Datblygu Cynaliadwy wrth i mi drafod hyn gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn ystod cyfarfod y llynedd. Ar ôl y cyfarfod awgrymodd y gallwn fod yn rhywun da i gyfrannu i’r ‘Ystafell Anadlu’.  Rwy’n cyfaddef nad oeddwn yn or-frwdfrydig ar y pryd! Beth oedd yr ystafell anadlu ‘ma? Roeddwn yn ei gael yn anodd ei ddirnad ond wrth i mi benderfynu a oeddwn am ymrwymo ai peidi, penderfynais ddilyn fy ngreddf a chyn pen dim roeddwn yn cynnal ymarferion meddylgarwch ar-lein!  Ac fe fyddwch yn falch o glywed fy mod i’n deall erbyn hyn.

Bu’r broses o greu Ystafell Anadlu a chyfrannu i’r grŵp wrth ddatblygu’r Maniffesto yn benodol o gymorth mawr i mi allu deall pwysigrwydd dulliau codi ymwybyddiaeth, gan wneud i mi sylweddoli bod y dulliau a’r gwerthoedd rydym eisoes yn eu mabwysiadu yn ystyried dulliau CoFSA, yn arbennig pwysigrwydd creu cysylltiadau â’r system fwyd.

12 mis yn ddiweddarach ac mae cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhwydwaith o bartneriaethau bwyd.

Rwyf wedi cyflwyno dulliau meddylgarwch i’r tîm hefyd. Fe wnaethom dreulio tri phrynhawn gyda Vishvapani Blomfield – Cyfarwyddwr ‘Mindfullness in Action’ – i wella ein dealltwriaeth o roi meddylgarwch ar waith yn ein gwaith a’n bywydau. Rydym wedi cyflwyno ambell beth bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr megis cysylltu bob bore Mawrth – pan fyddwn yn cyfarfod fel tîm ond heb unrhyw agenda – dim ond creu lle i rannu’r baich, dathlu neu i gael cefnogaeth. Rydym yn cynnal ein cyfarfod tîm misol yn y Ganolfan Bwdhaidd leol ble rydym yn cynnal rhai ymarferion meddylgarwch gydag ymarferydd preswyl. Mae’r dull hwn yn dod â ni’n agosach fel tîm ac yn creu mwy o hyder ac ymddiriedaeth ymysg aelodau’r staff.

Yn fwy eang, o ganlyniad i fy nhaith gyda CoFSA, rwy’n gweithio gyda Rheolwr Newid mewn Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i ddatblygu cymuned sy’n cefnogi’r rhwydwaith cynyddol o bartneriaethau bwyd yng Nghymru.

Rhan o’r cynnig fydd hyfforddi i greu galluoedd mewnol sy’n gysylltiedig â ffyrdd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o weithio a thrwy ddefnyddio’r dulliau hyn gyda chydweithwyr o Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â meysydd o wrthdaro a cheisio dod o hyd i ffyrdd o’u datrys.  Cawsom ein cyfarfod cyntaf yn ddiweddar ac wrth i bartneriaethau ddatblygu ar hyd a lled Cymru rydym yn gobeithio y bydd ein Cymuned o ymarferwyr yn y system fwyd leol yn ehangu ac yn datblygu. Yn eu tro gall yr ymarferwyr hyn helpu i ymestyn y rhwydwaith o’r rhai sy’n gweithio yn y system fwyd

Mae’r rhai ohonom sy’n gweithio ar wella’r system fwyd yn gweld yn gyson y dinistr a ddaw yn sgil tlodi, newid yn yr hinsawdd a cholli byd natur. Mae’n anodd dianc rhag hyn ac aros yn bositif er mwyn ceisio dod o hyd i atebion. Dyma un rheswm pam mae CoFSA mor bwysig – i helpu ymarferwyr i allu ymdrin â’r heriau hyn a pharhau i fod yn bositif wrth geisio datrys problemau.

I gloi – Rwy’n ddiolchgar am y cysylltiadau rwyf wedi’u creu gyda Llywodraeth Cymru a CoFSA. Rwy’n trysori’r profiadau hyd yma ac rwy’n gobeithio fy mod wedi llwyddo i allu cyfrannu fy mhrofiadau i’r grŵp fel ymarferydd systemau bwyd a oedd braidd yn betrusgar i ddechrau. Edrychaf ymlaen at y rhan nesaf o’r daith.

Ynglŷn â Katie Palmer

Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru yw Katie Palmer.  Mae Katie yn meddu ar MSc mewn Maetheg o Kings College Llundain ac mewn Polisi Bwyd o Brifysgol Dinas Llundain. Mae’n gweithio ym maes bwyd ers dros 20 mlynedd ac mae ganddi brofiad yn y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus (gan gynnwys chwe blynedd o brofiad ar Bwyllgor Cynghori ar Fwyd, Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru).  Katie yw un o sylfaenwyr y Bwrdd Nerth Llysiau ac un o sylfaenwyr Cynghrair Polisi Bwyd Cymru.  Mae hefyd yn aelod o’r Grŵp Cynghori ar Raglen Gwella Gwyliau’r Haf  CLlLC ac yn un o’r pedwar a greodd y rhaglen Bwyd a Hwyl, a enillodd nifer o wobrau, yng Nghaerdydd yn 2015.