Cynghrair Polisi Bwyd Cymru yn canmol y Senedd am gefnogi cyflwyno Bil Bwyd (Cymru)

Ddoe (dydd Mercher 17 Tachwedd), enillodd cynnig a gyflwynwyd gan Peter Fox AS i gyflwyno Bil Bwyd (Cymru) newydd gefnogaeth y Senedd.

Yn ystod y sesiwn lawn ddoe, gofynnodd Peter Fox AS i aelodau’r Senedd gefnogi egwyddorion y Bil a’i ddiben i sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru i wella diogelwch bwyd, gwella lles economaidd-gymdeithasol Cymru a chynnig rhagor o ddewis i ddefnyddwyr.

Dewiswyd y Bil yn y Balot Bil Aelodau cynta’r Chweched Senedd ym mis Medi, proses sy’n rhoi cyfle i Aelod o’r Senedd (ac eithrio Gweinidogion y Llywodraeth) gyflwyno cynnig ar gyfer deddfwriaeth newydd maen nhw’n dymuno ei gweld.

“Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru yn falch iawn bod y cynnig a gyflwynwyd ar gyfer Bil Bwyd (Cymru) wedi derbyn cefnogaeth drawsbleidiol yn ystod sesiwn lawn ddoe,” meddai llefarydd ar ran y Gynghrair.

“Mae bwyd yn un o hanfodion sylfaenol bywyd, ac yn hollbwysig o ran cael bywyd da, fodd bynnag, mae’r ffyrdd cyfredol o gynhyrchu a defnyddio llawer o’n bwyd yn cyfrannu at y dirywiad mewn bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd; mae’n achosi problemau iechyd sy’n gysylltiedig â’n diet ac wedi arwain at ddibyniaeth ar fanciau bwyd a chaledi ariannol i lawer o ffermwyr.

“Dylai pawb yng Nghymru gael mynediad ag urddas, i ddigon o fwyd maethlon, a gynhyrchir mewn ffordd gynaliadwy, trwy’r amser. Mae gan y system fwyd rôl hollbwysig wrth i ni fynd i’r afael â’r argyfyngiadau natur a hinsawdd. Hefyd, dylem fod yn gallu sicrhau incwm teg ar gyfer ffermwyr a holl weithwyr y sector bwyd.

“Gall ein system fwyd gyfrannu’n sylweddol at ffyniant cyfunol Cymru a chredwn fod y Bil hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir wrth gydnabod ei heffaith a’i dylanwad amhrisiadwy.

“Mae’ Cynghrair Polisi Bwyd Cymru hefyd yn cymeradwyo’r ffordd y mae’r cynnig yn ceisio datblygu fframwaith ar gyfer polisi bwyd yn y dyfodol. Credwn fod dull integredig yn allweddol er mwyn creu system fwyd gydnerth a chynaliadwy i Gymru. Gall cymhwyso dull sy’n seiliedig ar systemau i bolisïau sy’n gysylltiedig â bwyd greu synergedd ar draws adrannau’r llywodraeth er mwyn cyrraedd targedau polisi sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant, cynaliadwyedd amgylcheddol, cyfiawnder cymdeithasol a gwytnwch cymunedol.

“Mae llu o weithgaredd yn ymwneud â bwyd yn digwydd ar lawr gwlad, mewn cymunedau ledled Cymru a gwelwn ddiddordeb a gweithgaredd cynyddol o ran gweithredu ar sail lle. Fel y crybwyllodd y Gweinidog Materion Gwledig yn ystod y ddadl, mae angen i ni nawr weld dull gweithredu o’r gwaelod i fyny wrth i ni symud ymlaen, gan gasglu gwybodaeth, deallusrwydd lleol a phrofiad byw pobl sy’n gweithio mewn busnesau, ac ar brosiectau a mentrau sy’n gysylltiedig â bwyd ar draws Cymru i helpu i lunio a llywio datblygiadau yn y dyfodol.

“Yn ogystal â bod yn ddiwrnod positif i’r rhai ohonom sy’n gweithio o fewn y system fwyd yng Nghymru, roedd hefyd yn galonogol gweld ystod o gyfraniadau cefnogol gan bob plaid, ar draws y siambr gyfan, yn ystod dadl mor bwysig ac amserol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Peter Fox AS a’i gydweithwyr yn y Senedd, ac yn Llywodraeth Cymru, i helpu i greu Bil Bwyd i Gymru a all helpu i ailystyried ein system fwyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Ychwanegodd Dr Angelina Sanderson Bellamy, Athro Cysylltiol Systemau Bwyd yn UWE ac aelod o Gynghrair Polisi Bwyd Cymru: “Mae’n bosibl bod hon yn foment enfawr i fwyd yng Nghymru. Mae gwir angen strategaeth fwyd drosfwaol ar gyfer y genedl os ydym yn mynd i oresgyn yr heriau enfawr sy’n ein hwynebu o ran clefyd sy’n gysylltiedig â diet, anghydraddoldeb bwyd, newid yn yr hinsawdd, colli natur a sofraniaeth bwyd. Os na fyddwn yn dod at ein gilydd i gynllunio nawr, bydd digwyddiadau yn ein goddiweddyd ac ni fydd gennym y gwytnwch i ddelio â siociau yn y dyfodol i’r gadwyn gyflenwi fyd-eang. Y dasg nawr yw defnyddio’r Bil i ddod at ein gilydd a dychmygu system fwyd decach, gynaliadwy ac economaidd hyfyw i’r genedl.”

Mae gan Peter Fox AS nawr 13 mis er mwyn paratoi’r manylion a chyflwyno’r Bil yn ffurfiol i’r Senedd.

DIWEDD

  • Am wybodaeth bellach ac i drefnu llefarwyr posib, cysylltwch â Sian-Elin Davies, CRheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Synnwyr Bwyd Cymru.

Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru, cynghrair o sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n adeiladu ac yn hyrwyddo gweledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd Cymru.

Trwy gydweithredu, ymgysylltu ac ymchwil, nod y Gynghrair yw:

  • Cydgynhyrchu gweledigaeth ar gyfer system fwyd yng Nghymru sy’n cysylltu cynhyrchu, cyflenwi a defnyddio ac yn rhoi ystyriaeth gyfartal i iechyd a lles pobl a natur.
  • Eirioli dros newid polisi i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, argyfwng iechyd y cyhoedd a’r cynnydd mewn ansicrwydd bwyd.
  • Sicrhau bod Cymru wedi’i chysylltu â pholisi’r DU, cyfleoedd ymchwil a’r system fyd-eang ehangach.