Cyfle i rannu’ch barn ynglŷn â datblygiad Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol ac am glywed gan y rhai sydd eisoes yn ymwneud â phrosiectau / mentrau bwyd cymunedol yng Nghymru.  Mae’r tîm sy’n arwain ar y gwaith yn awyddus i ddeall beth mae bwyd cymunedol yn ei olygu i chi, ac i ddysgu am eich profiad o fod yn rhan o brosiectau / mentrau bwyd cymunedol.

Nid ymgynghoriad ffurfiol mo hwn a bydd cyfleoedd pellach i ymgysylltu ond wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau datblygu’r strategaeth, byddai’r tîm yn yr Adran Fwyd yn ddiolchgar am eich mewnbwn trwy’r arolwg byr hwn. Ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i’w gwblhau   ⬇️

Arolwg Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru 2022 (Welsh Community Food Survey 2022) (smartsurvey.co.uk)

Pam ei bod yn bwysig i rannu’ch barn:

Ar ddechrau’r tymor hwn yn y Senedd, ymrwymodd Llywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu (2021-2026) ddiweddaraf ei bod yn mynd i ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i annog y broses o gynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru.

Credai Synnwyr Bwyd Cymru fod gan y Strategaeth Bwyd Cymunedol y potensial i greu system fwyd sy’n fwy gwydn, amrywiol a chysylltiedig ar gyfer cymunedau ledled Cymru. Mae ganddi’r gallu i gefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn ogystal â datblygu cadwyni cyflenwi agroecolegol; cynyddu’r defnydd o fwyd lleol ar y plât cyhoeddus ac annog dinasyddiaeth bwyd a chyfranogiad o fewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Rydym eisoes yn ymwybodol iawn o’r llu o weithgarwch ‘ar lawr gwlad’ sy’n ymwneud â bwyd sy’n digwydd mewn cymunedau, a gwyddwn fod yna gryn dipyn o gefnogaeth ar gyfer gweithredu seiliedig ar le trwy ein gwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Mae gennym nawr gyfle i gasglu’r wybodaeth hon ynghyd; y ddealltwriaeth leol, a phrofiad byw pobl sy’n gweithio fel rhan o fusnesau, prosiectau a mentrau sy’n ymwneud â bwyd ledled Cymru, i helpu i siapio datblygiadau’r dyfodol. Gallai’r Strategaeth Bwyd Cymunedol helpu i ddod â’r gwaith hwn ynghyd, gan rannu arfer gorau ac annog mwy o ardaloedd i ddod at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrosiectau sy’n ymwneud â bwyd mewn ffordd gyd-gysylltiedig.

Gallai’r strategaeth hon hefyd roi’r cyfle delfrydol i Gymru integreiddio polisi bwyd ar draws holl feysydd y llywodraeth gan gynnwys iechyd, addysg, newid hinsawdd a’r economi ar lefel leol. Rydym ni, yn Synnwyr Bwyd Cymru, yn gyffrous iawn i weld sut mae’r strategaeth hon yn datblygu ac edrychwn ymlaen at dynnu sylw at gamau gweithredu, gwybodaeth a phrofiad y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y maes i helpu i lywio a datblygu dull ystyrlon.  Byddwn wir yn annog partneriaid a rhanddeiliaid i wneud yr un peth.