Blas ar Wydnwch yn y Senedd
Mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi curadu arddangosfa sy’n canolbwyntio ar y bobl a’r prosiectau ysbrydoledig sy’n creu dyfodol bwyd gwell i Gymru. Bydd yr arddangosfa, sy’n dwyn y teitl Blas ar Wydnwch yn agor yn Oriel y Senedd ar 24 Hydref a bydd yn parhau tan 22 Ionawr.
Ledled Cymru, mae chwyldro tawel yn digwydd ac mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod yn arwain ac yn dogfennu llawer o’r trawsnewidiad hwn. Mae ffermwyr, pysgotwyr, cynhyrchwyr, cogyddion, y rhai sy’n cadw siopau a grwpiau cymunedol i gyd yn gweithio i gynhyrchu a rhannu bwyd da sy’n gwneud mwy na dim ond ein bwydo ni. Maen nhw’n cynhyrchu bwyd blasus gyda balchder – bwyd sydd â’i wreiddiau yn ein tir, ein hieithoedd a’n diwylliannau, gan roi maeth a phleser i ni. Ni ddylai bwyd da fod yn fraint. Mae’n rhywbeth y dylai pawb yng Nghymru allu cael mynediad ato a’i fforddio.
Mae’r arddangosfa yn crynhoi’r gwaith ac yn dathlu’r bobl a’r lleoedd sy’n rhan o stori fwyd esblygol Cymru.
“Mae pobl ledled Cymru yn dod at ei gilydd i greu system fwyd well,” meddai Pearl Costello, Pennaeth Synnwyr Bwyd Cymru. “Maen nhw’n gweithio gyda natur, yn parchu treftadaeth ein bwyd ac yn meithrin gwydnwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
“Mae’r arddangosfa hon yn helpu i adrodd stori’r mudiad bwyd da sy’n tyfu o’n cwmpas ni ym mhob rhan o Gymru – o Fôn i Fynwy. Mae’n rhoi darlun o waith Partneriaethau Bwyd Lleol; yn dangos effaith dulliau arloesol fel y cynllun Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion ac yn amlygu’r ffyrdd cydweithredol a hyderus yr ydym yn helpu i greu gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd yng Nghymru.”
Cafodd yr arddangosfa Blas ar Wydnwch ei churadu gan Synnwyr Bwyd Cymru, sy’n sefydliad elusennol sy’n ceisio dylanwadu ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru. Noddir yr arddangosfa hon gan Peter Fox AS.
“Mae llawer mwy i fwyd na’r hyn sydd ar ein platiau,” meddai Peter Fox AS. “Mae’n cysylltu ein ffermwyr, ein cynhyrchwyr, ein manwerthwyr, ein cymunedau a’r amgylchedd, ac mae’n chwarae rhan hanfodol yn iechyd a ffyniant Cymru.
“Mae’r bobl a’r prosiectau sy’n rhan o Blas ar Wydnwch yn dangos yr arloesedd, yr ymrwymiad a’r ysbryd cymunedol sy’n helpu i greu system fwyd gryfach a mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ychwanega Peter Fox: “Mae’n bleser gennyf gefnogi’r arddangosfa hon, sy’n rhoi sylw i’r rhai sy’n gweithio bob dydd i hyrwyddo cynnyrch Cymru, i gryfhau diogelwch bwyd a sicrhau bod bwyd da yn cael ei werthfawrogi fel rhan hanfodol o’n bywyd cenedlaethol.”
Mae’r bobl a’r prosiectau sydd i’w gweld yn yr arddangosfa hon yn helpu i greu diwylliant bwyd cadarnhaol yng Nghymru – maent yn buddsoddi mewn cymunedau, yn cofleidio ein treftadaeth, yn dathlu ac yn gwerthfawrogi ein cynnyrch ac yn rhoi bwyd wrth wraidd popeth a wnânt.
“Mae’r mudiad llawr gwlad sy’n anelu at greu systemau bwyd iach a chynaliadwy yn un sydd wedi bod yn tyfu ers dros ddegawd ac mae bellach yn aeddfedu i fod yn seilwaith cenedlaethol anhepgor” ychwanegodd Pearl Costello. “Gyda’r sylfeini hyn, mae camau gweithredu cydlynol ar fwyd yn digwydd yn gyflym. Mae’r arddangosfa’n amlygu’r gwaith anhygoel hwn ac yn gwneud i mi deimlo’n gyffrous iawn am y dyfodol.”
Mae Blas ar Wydnwch yn agor yn yr Oriel yn y Senedd ddydd Sadwrn, 24 Hydref a bydd yn parhau tan ddydd Gwener, 21 Ionawr.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach ynglyn ag Arddangosfeydd yn y Senedd.
DIWEDD