Penodi Pearl Costello yn Bennaeth Synnwyr Bwyd Cymru
Mae Pearl Costello wedi ei phenodi’n Bennaeth newydd Synnwyr Bwyd Cymru gan gymryd yr awenau yn ystod cyfnod cyffrous o ddatblygiad a thwf.
Gyda dros 13 mlynedd o brofiad o weithio ar draws systemau bwyd, cynaliadwyedd amgylcheddol ac iechyd, mae Pearl mewn sefyllfa dda i arwain y sefydliad i’w gam nesaf.
Wedi gweithio i Synnwyr Bwyd Cymru am y saith mlynedd diwethaf, dechreuodd Pearl ei thaith gyda’r sefydliad yn arwain partneriaeth Bwyd Caerdydd, gan gydlynu cais lwyddiannus Caerdydd i fod y Lle Bwyd Cynaliadwy Aur cyntaf yng Nghymru. Yn fwyaf diweddar, Pearl oedd Rheolwr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Cymru gan helpu i arloesi datblygiad mudiad bwyd da Cymru trwy Bartneriaethau Bwyd Lleol tra hefyd yn darparu arweinyddiaeth ledled y DU trwy raglen Leoedd Bwyd Cynaliadwy.
“Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i arwain sefydliad mor bwysig ac effeithiol. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn wirioneddol yn trawsnewid systemau bwyd yng Nghymru gan sicrhau bod yr amgylchedd; iechyd a lles; cyfiawnder cymdeithasol, a’r economi i gyd wedi’u hintegreiddio er mwyn dod o hyd i’r atebion priodol. Rwy’n gyffrous i adeiladu ar y llwyddiant hwn, mewn partneriaeth â’r nifer o bobl a sefydliadau angerddol yng Nghymru a’r DU.”
Mae Pearl yn dechrau ei rôl newydd ar adeg hollbwysig i bolisi bwyd yng Nghymru. Dros yr Haf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau i ddatblygu Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru a fydd yn cwmpasu’r system fwyd gyfan o’r fferm i’r fforc.
“Mae’n gyfnod mor gyffrous i ddechrau yn y rôl newydd hon. Fel sefydliad sy’n cynnull ac yn dwyn rhanddeiliaid ynghyd ar draws y system fwyd gyfan – o lawr gwlad i lefel strategol – mae Synnwyr Bwyd Cymru yn edrych ymlaen at fod yn rhan weithredol o ddatblygu’r strategaeth hon,” meddai Pearl Costello.
“Yn y cyfamser, bydd tîm Synnwyr Bwyd Cymru yn parhau i hyrwyddo gwaith Partneriaethau Bwyd Lleol; yn amlygu effaith Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion; yn dangos enghreifftiau bywyd go iawn o arfer gorau mewn bwyd cymunedol, a helpu i nodi’r amryw gyfleoedd a fydd yn helpu i wella’r system fwyd yng Nghymru.”
Yn dilyn proses ddethol drylwyr, mae Pearl yn ymgymryd â’r rôl wedi i sylfaenydd Synnwyr Bwyd Cymru, Katie Palmer, gamu lawr fel Pennaeth yn gynharach eleni. Wedi’i sefydlu yn 2018, sefydlwyd Synnwyr Bwyd Cymru i hyrwyddo dull traws-sector o ymdrin â’r system fwyd yng Nghymru.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda chymunedau, sefydliadau, llunwyr polisi a’r Llywodraeth ledled Cymru i greu system fwyd a ffermio sy’n dda i bobl ac yn dda i’r blaned. Ei nod yw dylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus.
“Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i arwain sefydliad mor bwysig ac effeithiol. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn wirioneddol yn trawsnewid systemau bwyd yng Nghymru gan sicrhau bod yr amgylchedd; iechyd a lles; cyfiawnder cymdeithasol, a’r economi i gyd wedi’u hintegreiddio er mwyn dod o hyd i’r atebion priodol. Rwy’n gyffrous i adeiladu ar y llwyddiant hwn, mewn partneriaeth â’r nifer o bobl a sefydliadau angerddol yng Nghymru a’r DU.”