Bwyd a Thai: cryfhau cymunedau drwy fwyd da

‘Nôl ym mis Mai 2025, cynhaliodd Synnwyr Bwyd Cymru ac Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd, ddigwyddiad ym mis Mai 2025 i ymchwilio i sut y gall ymyriadau hollbwysig mewn cymunedau yn y maes tai cymdeithasol gysylltu â strategaethau cenedlaethol uchelgeisiol a gwaith lleol sy’n newid sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ei fwyta a’i ddosbarthu. Dyma ddarn gan Pearl Costello, Rheolwr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Synnwyr Bwyd Cymru, yn myfyrio ar y digwyddiad a’r adroddiad cysylltiedig. 

Mae bwyd yn rhan annatod o’n bywydau ni i gyd – ac mae yr un mor bwysig i’n lles â chael lle i’w alw’n gartref. Mae llawer o gymdeithasau tai eisoes yn gwneud gwaith gwych o amgylch bwyd – o greu mannau lle gall pobl dyfu eu bwyd eu hunain, i newid sut mae bwyd yn cael ei gaffael, ac i helpu tenantiaid i deimlo’n fwy hyderus yn y gegin. Mae gan Gymru hefyd hanes cryf ac uchelgeisiau mawr o ran helpu pobl i fwyta’n dda. Drwy dynnu ar y profiad hwn, gellir cefnogi ac ysbrydoli cymdeithasau tai i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy fwyd. 

Gyda hwn mewn cof, fe ddaethon ni â thair carfan o arbenigwyr ynghyd: ymarferwyr yn y maes tai cymdeithasol, Partneriaethau Bwyd Lleol, ac ymchwilwyr arbenigol mewn trawsnewid systemau bwyd a thai. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i gyfnewid syniadau a gwneud cysylltiadau, gan weithio tuag at gyd-uchelgais o roi bwyd wrth wraidd tai cymdeithasol iach – ac yn ddiweddar, fe wnaethon ni gyhoeddi adroddiad yn dwyn ynghyd yr holl ganfyddiadau ac argymhellion a ddaeth allan o’r gweithdy. 

Yn ystod y digwyddiad, clywodd y cyfranogwyr gan gyfres o siaradwyr a roddodd ysbrydoliaeth iddynt a darlun o arferion gorau cyfredol. Roedd y rhain yn cynnwys fframwaith Ysgolion Bwyd (Food Ladders) Dr Megan Blake; cymdeithasau tai yn cydweithio fel rhan o Rwydwaith Diffyg Diogeledd Bwyd Llundain; y dull strategol o ymdrin â bwyd a fabwysiadwyd gan Tai Calon (sy’n gyfrifol am Bartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent); a’r prosiect Down to Zero, a gefnogir gan Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf a Phartneriaeth Bwyd RhCT.  

Yna bu’r cyfranogwyr yn cydweithio drwy gydol y dydd, gan ddilyn proses a oedd yn adlewyrchu un a ddefnyddiwyd gan y prosiect Seeds of a Good Anthropocene. Arweiniodd y broses hon at gyfranogwyr yn nodi tri “Hedyn” – syniadau ymarferol a chanddynt botensial trawsnewidiol: 

  1. Cartrefi ar gyfer Garddwriaeth: mynd i’r afael â’r diffyg cartrefi i gynhyrchwyr bwyd drwy gynnwys mannau tyfu masnachol mewn datblygiadau a datblygu tai fforddiadwy ger ardaloedd tyfu bwyd gwledig.  
  2. Cydweithfeydd Bwyd Lleol: cymdeithasau tai yn gweithio mewn partneriaeth â thenantiaid a thimau iechyd i greu modelau bwyd cydweithredol sy’n defnyddio pŵer prynu Cymdeithasau Tai a thenantiaid, yn lleihau diffyg diogeledd bwyd, ac yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol. 
  3. Hawl Tenantiaid i Dyfu Bwyd: cymdeithasau tai yn cynnwys “Hawl i Dyfu Bwyd” yng nghontractau eu tenantiaid, gan sicrhau y gall pawb gael mynediad at le i dyfu bwyd, gan weithio gyda’u hystâd dai eu hunain a chyda darparwyr allanol. 

Er mwyn i’r hadau hyn dyfu, mae angen i gymdeithasau tai flaenoriaethu bwyd yn strategol, rhannu tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio, a chynnwys tenantiaid yn ystyrlon. Mae angen cyd-destun polisi cefnogol hefyd, lle mae bwyd wedi’i integreiddio i bolisi tai a lle mae’r dirwedd statudol yn annog ac yn galluogi cymdeithasau tai i ymgysylltu’n strategol â bwyd. 

Mae cydweithio hefyd yn hanfodol. Roedd y grŵp yn cytuno nad yw hyn yn rhywbeth y gall cymdeithasau tai ei wneud ar eu pen eu hunain. Yn hytrach, mae cyfleoedd i gydweithio â Phartneriaethau Bwyd Lleol, Llywodraeth Cymru, a chyda’i gilydd, gan rannu arfer da ar draws cyd-destunau gwledig a threfol, a chreu cysylltiadau newydd sy’n cynnal momentwm. 

Darllenwch yr adroddiad llawn yma