Yr argyfwng costau byw yn arwain at brynu’r nifer lleiaf o lysiau yn y DU ers 50 mlynedd

Gwelodd Pys Plis, sef menter mewn partneriaeth gyda Synnwyr Bwyd Cymru, The Food Foundation, Nourish Scotland,  Nourish NI a Food NI, fod swm y llysiau sy’n cael eu prynu gan gartrefi yn y DU wedi gostwng i’r lefel isaf ers 50 mlynedd. Drwy ddadansoddi data Defra ar gyfer Adroddiad Cynnydd Pys Plîs 2023, gwelir fod yr argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar ddeiet pobl ac mae’r cartrefi incwm isaf yn ei chael hi’n anodd fforddio’r opsiynau iachach.

Mae Arolwg Bwyd Teuluoedd Defra yn cofnodi pryniannau bwyd gan gartrefi’r DU o’r sector manwerthu a’r sector Oddi Allan i’r Gartref, ac mae’n cynnwys llysiau mewn bwydydd cyfansawdd yn ogystal â’r rhai a brynir yn gyfan. Er bod pryniant llysiau wedi bod yn weddol gyson dros y deg mlynedd ar hugain diwethaf, gostyngodd y pryniant llysiau i’w lefel isaf ers hanner can mlynedd yn ystod 2021-2022 (o 182g y person y dydd yn 2020-21 i 154g yn 2021-22), sy’n awgrymu bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ddifrifol ar arferion prynu ac iechyd dietegol aelwydydd.

Ffynhonnell: Data Arolwg Bwyd Cenedlaethol wedi’u haddasu 1974-2000, Arolwg Gwariant a Bwyd 2001-2002 i 2007 ac Arolwg Costau Byw a Bwyd 2008 ymlaen, Arolwg Bwyd Teuluoedd 2022  Caiff oddeutu 5,000 o aelwydydd eu holi yn y DU yn flynyddol. 

Er mwyn cadw at y Canllaw Bwyta’n Dda, sef y canllaw a argymhellir gan y Llywodraeth i gael deiet iach, dylai llysiau gynrychioli 20% o’n deiet. Hefyd, mae dadansoddiad The Food Foundation o ddata Kantar, a ddarperir i’r rhaglen yn flynyddol, yn dangos bod swm y llysiau sy’n cael eu prynu gan fanwerthwyr yn llawer is na hyn, ac mae’r ffigur yn symud i’r cyfeiriad anghywir hefyd. Mae cyfran y llysiau yn y fasged siopa gyfartalog wedi gostwng o 7.2% i 6.8% dros y chwe blynedd diwethaf.

Cyfran y basgedi siopa sy’n cynnwys llysiau dros gyfnod rhaglen Pys Plis (data Kantar a ddarparwyd i’r fenter Pys Plis)

Mae’r anghydraddoldeb o ran bwyta llysiau yn parhau i beri pryder difrifol, a gwelwyd bod cysylltiad agos rhwng bwyta llysiau ac incwm hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw. Mae data basged siopa Kantar ar gyfer y flwyddyn 2022-23 yn dangos, ar gyfartaledd, ymysg y rhai sy’n ennill llai na £10,000 y flwyddyn, mai dim ond 5.9% o’u basged siopa oedd yn cynnwys llysiau o gymharu ag 8.2% ar gyfer y rhai sy’n ennill dros £70,000 y flwyddyn.

Llysiau yw’r llinyn arian sy’n cysylltu deiet iachach a deiet sy’n fwy cynaliadwy, a phe bai pob un ohonom yn gallu cyflawni’r argymhellion sy’n ymwneud â bwyta llysiau, byddai hynny’n arwain at fanteision sylweddol i’n hiechyd, yr amgylchedd ac i economi’r DU.

Dylai’r broses o newid deiet pobl y DU i batrymau deietegol mwy cynaliadwy ac iach fod yn amlwg ar yr agenda gwleidyddol a chorfforaethol wrth i ni agosáu at Nodau Datblygu Cynaliadwy 2030 y Cenhedloedd Unedig, ac mae llysiau yn rhan bwysig o gefnogi iechyd pobl ac iechyd y blaned.

Lansiwyd y prosiect Pys Plîs gyda chenhadaeth glir i’w gwneud yn haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Ers hynny, mae 110 o sefydliadau, yn cynnwys cadwyni bwytai, arlwywyr, gweithgynhyrchwyr neu dyfwyr llysiau a manwerthwyr, wedi ymrwymo i’r addunedau llysiau sy’n cefnogi’r cyhoedd i gael mynediad i fwy o lysiau. Ymysg yr addunedau ceir rhai sy’n hyrwyddo faint o lysiau sy’n cael eu cynnwys mewn prydau parod ac eraill sy’n rhoi mwy o opsiynau llysiau ar fwydlenni plant. Mae’r prosiect wedi arwain at werthu neu weini 1.1 biliwn o ddognau llysiau ychwanegol.

Meddai Rebecca Tobi, Uwch Reolwr Busnes a Buddsoddi, The Food Foundation, “Mae’r rhaglen Pys Plîs wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy ddod â chymuned amrywiol o gefnogwyr at ei gilydd i gydweithio ac i hyrwyddo newidiadau i’r system fwyd – ac yn yr achos hwn i’w gwneud yn haws i bawb fwyta mwy o lysiau. Er bod ein hadroddiad yn dangos bod y busnesau hynny a fu’n cefnogi’r rhaglen wedi cyflawni cymaint – drwy werthu 1.1 biliwn o ddognau llysiau ychwanegol – mae angen gwneud cymaint mwy i sicrhau bod y DU yn genedl sy’n bwyta llysiau. Gyda thua 17 miliwn o aelwydydd yn byw gyda diffyg diogeled bwyd mae llawer yn debygol o gwtogi ar fwydydd iachach fel ffrwythau a llysiau o ystyried bod y rhain yn ffynhonnell ddrutach o galorïau o gymharu â grwpiau bwyd eraill. Mae’n rhaid i ni allu gweld busnesau yn camu i’r adwy ar unwaith er mwyn sicrhau bod bwyta llysiau yn opsiwn hawdd a fforddiadwy, a bod mwy o gymorth ar gael gan y Llywodraeth i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at ddiet iach a fforddiadwy.”

Darllenwch yr adroddiad llawn yma a gwyliwch fideo sy’n cynnig crynodeb o’r darganfyddiadau isod: