Pwy sy’n cymryd rhan
Pwy sy’n rhan o’r fenter?
Mae nifer o randdeiliaid yn rhan o Lysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion gan gynnwys partneriaid; ariannwyr; tyfwyr a ffermwyr; cyfanwerthwyr; Awdurdodau Lleol a Phartneriaethau Bwyd Lleol.
Mae nifer o randdeiliaid yn rhan o Lysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion gan gynnwys partneriaid; ariannwyr; tyfwyr a ffermwyr; cyfanwerthwyr; Awdurdodau Lleol a Phartneriaethau Bwyd Lleol.
Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn bartneriaeth sy’n cael ei harwain gan Synnwyr Bwyd Cymru a Lantra sy’n gweithio gyda thyfwyr, awdurdodau lleol a chyfanwerthwyr ledled Cymru. Mae cam nesaf Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn cael ei ariannu gan Gronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur 2025/27, sy’n cael ei gweinyddu gan CGGC.
Bellach, mae 20 o dyfwyr yn cymryd rhan yn Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Gallwch weld ble mae’n tyfwyr wedi’u lleoli ar y map hwn. Os hoffech chi ddysgu mwy am y tyfwyr sy’n rhan o’r cynllun, gallwch hefyd ddod o hyd i’w manylion cyswllt, eu gwefannau a’u sianeli cymdeithasol drwy edrych ar ein map.
Ar y map hwn fe hefyd welwch chi ble mae Cylchoedd Periannau Cymru wedi’u lleoli. Mae Cylch Peiriannau yn rhwydwaith cydweithredol lle mae ffermwyr neu dyfwyr yn rhannu mynediad at beiriannau amaethyddol, llafur a gwasanaethau. Gall aelodau logi offer neu sgiliau gan ei gilydd drwy’r cylch, gan leihau costau, gwella effeithlonrwydd ac osgoi’r angen i fod yn berchen ar beiriannau drud yn unigol. Gallwch ddefnyddio’r map i ddod o hyd i’ch cylch peiriannau agosaf yn ogystal ag unrhyw fanylion cyswllt perthnasol.
Bwydydd Castell Howell oedd partner-sylfaenydd Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion a’r cyfanwerthwr cyntaf i ni weithio ag ef. Bu Castell Howell Foods yn hanfodol i lwyddiant a datblygiad y fenter hon ac mae’n parhau i helpu i lywio cam nesaf y gwaith.
Wrth i’r cynllun Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion dyfu, mae’n wych gweld mwy o gyfanwerthwyr ar draws Cymru’n dymuno cymryd rhan.
Dechreuodd y cynllun Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn gweithio gydag un Awdurdod Lleol. Bellach, rydym yn gweithio gydag 16 o blith 22 o ardaloedd Awdurdod Lleol Cymru.