Busnesau Bwyd y DU wedi dosbarthu 162 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau mewn 3 mlynedd o ganlyniad i fenter arloesol Pys Plîs

Gallai faint o lysiau sy’n cael eu bwyta yn y DU ostwng, gyda phapur briffio newydd yn canfod y gallai Brexit Heb Gytundeb gynyddu pris ffrwythau a llysiau 4%

Uchafbwyntiau:

  • Mae Pys Plîs yn brosiect sy’n cynnwys nifer o randdeiliaid yn gweithio gyda busnesau, cymdeithas sifil a llunwyr polisïau ledled y DU i’w gwneud yn haws i bobl gael gafael ar lysiau, drwy gael sefydliadau i wneud adduned i dyfu, gweini neu werthu mwy o lysiau.
  • Mae Pys Plîs yn cael ei weithredu yng Nghymru gan Synnwyr Bwyd Cymru, sefydliad sy’n gweithio i greu system fwyd a ffermio sydd o les i bobl ac i’r blaned.
  • Mae’r trydydd Adroddiad Cynnydd blynyddol yn dangos bod busnesau bwyd y DU wedi gweini neu werthu 162 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau dros y tair blynedd diwethaf fel rhan o’r fenter Pys Plîs.
  • Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at sut mae Covid-19 wedi amharu’n sylweddol ar fusnesau bwyd o ran cynyddu eu targedau bwyta llysiau.
  • Er gwaethaf hyn, parhaodd y fenter Pys Plîs i gyfrannu’n uniongyrchol at 72.1 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau yn cael eu gwerthu neu eu gweini eleni.
  • Er bod y pandemig yn parhau i effeithio ar nifer o sectorau, mae cyfle gwirioneddol i ailadeiladu’r economi fwyd i sicrhau ei bod yn canolbwyntio mwy ar lysiau.
  • Mae Brexit yn risg arall o ran bwyta llysiau yn y DU. Er gwaethaf dibyniaeth y DU ar fewnforio ffrwythau a llysiau o’r UE, bydd y tebygolrwydd cynyddol o Brexit Heb Gytundeb yn cynyddu prisiau ffrwythau a llysiau, yn ôl data newydd a ryddhawyd gan SHEFS.
  • Mae papur briffio newydd wedi canfod y bydd prisiau ffrwythau a llysiau yn cynyddu 4% ar gyfartaledd o ganlyniad i senario Dim Cytundeb, a fyddai’n golygu y byddai tariffau cyffredinol uwch newydd y DU yn cael eu codi’n awtomatig ar fewnforion o’r UE.

Datganiad i’r Wasg:

Mae adroddiad cynnydd 2019-20 a ryddhawyd heddiw (Dydd Llun 7 Rhagfyr) gan Pys Plîs – prosiect sy’n gweithio i wneud llysiau’n fwy deniadol, hygyrch a fforddiadwy – yn dadansoddi’r ‘Addunedau Llysiau’ a wnaed gan 25 o Ddinasoedd Llysiau a 70 o arlwywr contract, siopau cadwyn y stryd fawr, manwerthwyr, cyfanwerthwyr, gweithgynhyrchwyr, caffaelwyr bwyd cyhoeddus a darlledwyr.

Mae’r adroddiad wedi canfod bod 162 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau wedi’u gweini neu eu gwerthu gan y busnesau hyn o ganlyniad uniongyrchol i’r rhaglen, sy’n swm trawiadol. Fodd bynnag, mae’r niferoedd yn yr adroddiad yn creu darlun o system fwyd sydd wedi cael ergyd fawr yn sgil y pandemig Covid-19, gyda 27% o sefydliadau sy’n rhan o’r cynllun yn methu ag adrodd yn ôl eleni oherwydd materion yn ymwneud â chapasiti (daw’r mwyafrif ohonynt o’r sector Oddi Allan i’r Cartref, sy’n tynnu sylw at yr heriau parhaus sy’n wynebu’r sector hwn).

Er bod Covid-19 yn amharu ar y sector bwyd cyfan, parhaodd y fenter Pys Plîs i gyflawni ei chenhadaeth, gyda 72.1 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau yn cael eu gwerthu neu eu gweini eleni. Mae hyn yn dangos cynnydd rhyfeddol i’r cyfeiriad cywir, er gwaethaf y ffaith bod y cynnydd wedi arafu ychydig o ganlyniad i’r pandemig (cofnodwyd tua 13 miliwn yn llai o ddognau ychwanegol o gymharu â’r llynedd.)

Mae data gwerthiannau nwyddau groser yn y maes manwerthu a ddarperir gan Kantar yn dangos bod cyfran y llysiau ym masgedi siopa defnyddiwr yn parhau i fod yn isel (7%), er gwaethaf y ffaith bod gwerthiannau bwyd cyffredinol wedi cynyddu 13.7% yn y 12 wythnos yn arwain at ganol mis Mehefin. Gwyddom, fodd bynnag, er mwyn cyd-fynd â Chanllaw Bwyta’n Dda y llywodraeth, y dylai 20% o’r fasged siopa fod yn llysiau. Mae’r diffyg cynnydd mewn gwerthiannau llysiau yn y maes manwerthu eleni, er gwaethaf y ffaith bod y sector Oddi Allan i’r Cartref wedi cau, yn arwydd pryderus o’r sefyllfa bresennol yn y DU. Yn syml, nid ydym yn gwerthu, yn gweini nac yn bwyta digon o lysiau.

Mae dadansoddiad newydd gan SHEFS wedi canfod y byddai Brexit Heb Gytundeb yn gwaethygu’r her o gynyddu faint o lysiau y mae pobl yn eu bwyta. Mae 68% o gyfanswm ein cyflenwad ffrwythau a llysiau yn y DU yn cael ei fewnforio, a byddai senario dim cytundeb yn golygu y byddai mewnforion o’r UE (yn ogystal â gwledydd y tu allan i’r UE lle mae cytundebau masnach wedi’u negodi drwy’r UE) yn destun tariffau newydd ‘gwlad a ffefrir fwyaf’ y DU yn awtomatig.

Gallai hyn olygu y bydd y teulu cyffredin ym Mhrydain yn talu 4% yn fwy am ei ffrwythau a’i lysiau dros gyfnod o flwyddyn. Gallai prisiau rhai cynhyrchion gynyddu hyd yn oed yn fwy: er enghraifft, byddai tomatos 9% yn ddrytach. Y grwpiau mwy difreintiedig mewn cymdeithas fyddai’n dioddef fwyaf yn sgil y cynnydd mewn prisiau bwyd.

Un o’r addunedwyr Pys Plîs yng Nghymru yw Lantra, ar ran Tyfu Cymru, sydd wedi addunedu i lunio Cynllun Gweithredu ar gyfer Garddwriaeth Fasnachol i Lywodraeth Cymru.  Bydd hwn yn edrych ar sut y gallwn amddiffyn y diwydiant garddwriaeth yng Nghymru mewn modd arloesol a chynaliadwy, ond hefyd ei ddatblygu a’i ehangu.

O dan arweiniad Tyfu Cymru, prosiect a reolir gan Lantra, a chyda chyllid gan gynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio Llywodraeth Cymru, mae’r Cynllun Gweithredu hwn i Gymru yn amlinellu dull aml-randdeiliaid sy’n cwmpasu’r gadwyn gyflenwi gyfan o ddatblygu a chynnal y broses o gynhyrchu cynnyrch garddwriaeth bwytadwy ac addurnol masnachol yng Nghymru yn yr hirdymor.

“Mae hybu ffermio garddwriaethol yn allweddol i gynlluniau Llywodraeth Cymru i adfer yn dilyn y pandemig COVID-19 ac fe’i nodwyd gan ei Thasglu Adferiad Gwyrdd fel llwybr i gyflymu proses Cymru o drosglwyddo i economi carbon isel a chenedl iachach sy’n fwy cyfartal,” meddai Sarah Gould, Rheolwr Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio Garddwriaeth Tyfu Cymru.

“Mae’r Cynllun Gweithredu hwn ar gyfer y Diwydiant Garddwriaeth Fasnachol yng Nghymru yn darparu cynllun ac yn argymell camau i’w datblygu yn unol ag amcanion strategol Llywodraeth Cymru.”

Mae’r adduned Pys Plîs penodol hwn yn tynnu ar brofiad Lantra o feithrin y sgiliau sy’n angenrheidiol i wella capasiti a gallu’r diwydiant. Ei nod yw ehangu cyflawniadau llwyddiannus a fydd yn parhau i fod o fudd i fusnesau garddwriaeth Cymru. Mae’n ymateb hefyd i anghenion uniongyrchol ac yn darparu arweinyddiaeth i roi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i fusnesau ar gyfer twf gwyrdd a chynhwysol, sydd wedi’u cefnogi gan ymchwil gymhwysol a’r defnydd priodol o dechnoleg.

Addunedydd Pys Plîs arall yng Nghymru yw Castell Howell, cyfanwerthwr gwasanaeth bwyd annibynnol mwyaf Cymru.  Yn ogystal ag addunedu i gynyddu faint o lysiau sydd ym mhrydau parod brand Authentic y cwmni, mae Castell Howell hefyd yn hyrwyddo manteision bwyta mwy o lysiau i’w gwsmeriaid ac yn hyfforddi ei weithlu i hyrwyddo diwylliant sy’n cefnogi cynyddu faint o lysiau sy’n cael eu bwyta.  Yn wir, cymaint yw ymrwymiad Castell Howell i brosiect Pys Plîs, nes y cyflwynwyd y Wobr Hyrwyddwr Unigol Gorau i Edward Morgan, Rheolwr Grŵp Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Hyfforddiant y cwmni, yn ddiweddar yng ngwobrau cyntaf Pys Plîs.

“Mae Castell Howell yn falch iawn o fod yn rhan o’r fenter Pys Plîs ac yn ymfalchio yn y ffaith bod ein hymrwymiad i’r prosiect wedi’i gydnabod ar lefel y DU,” meddai Edward Morgan.

“Rydym hefyd yn falch iawn o weithio gyda Nerth Llysiau, ymgyrch i gael mwy o blant i fwyta llysiau a dyfodd o waith Pys Plîs. Ar hyn o bryd rydym yn cyflenwi dros 1,800 o ysgolion ac mae’r ddwy fenter yn ategu’n gwaith a’n hymrwymiad i gefnogi’r cymunedau ry’n ni’n gweithredu ynddynt,” atega Edward. “Credwn yn gryf y dylai pawb o fewn y gadwyn gyflenwi weithio gyda’i gilydd i ysgogi newid a hyrwyddo gweithredu cynaliadwy, gan ddarparu buddion cymdeithasol ac economaidd i’n cwsmeriaid yn ogystal â’n cyflenwyr.”

Mae Katie Palmer, sy’n Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru ac yn Aelod o Fwrdd Pys Plîs, yn falch o’r ymrwymiad y mae cynhyrchwyr, cyfanwerthwyr, manwerthwyr a siopau arlwyo ledled Cymru wedi’i ddangos i’r fenter.

“Mewn blwyddyn a fu’n un hynod heriol ac anodd i’r Sector Bwyd ledled y DU, rydym yn falch iawn bod 72.1 miliwn o ddognau ychwanegol o lysiau wedi cael eu gwerthu neu eu gweini yn y DU eleni.  Mae Pys Plîs yn dangos,  os yw pob unigolyn ac asiant ar draws y Sector Bwyd yn cydweithio, y gallwn newid arferion pobl, drwy’r holl system fwyd, a chael effaith gadarnhaol ar iechyd pobl.

“Mae ein deietau’n arwain at lefelau uchel o ordewdra, diabetes math 2 a chlefydau eraill sy’n gysylltiedig â deiet – ac mae angen i ni i gyd fwyta mwy o lysiau.  Mae Pys Plîs yn edrych ar yr ysgogiadau ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan sydd â’r potensial i gynyddu’r llysiau a fwyteir mewn modd cynaliadwy.  Er mwyn cefnogi defnyddwyr i wneud dewisiadau iachach, rydym yn cydnabod bod angen i ni weld newidiadau ar draws ein system fwyd.

“Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn edrych ymlaen at ymgysylltu â’r sector bwyd ehangach yng Nghymru i hyrwyddo gwaith y fenter Pys Plîs er mwyn ysgogi’r newid hwnnw,” ychwanega Katie.  “Drwy recriwtio mwy o addunedwyr, gan adeiladu ar gysylltiadau sydd eisoes wedi’u sefydlu a thrwy ddarparu prosiectau cyffrous fel y Grantiau Bach ar gyfer Garddwriaeth Fwytadwy a ariennir gan Pys Plîs, gall Synnwyr Bwyd Cymru ddod â budd nid yn unig i iechyd pobl ond i’r amgylchedd hefyd.”

DIWEDD