Zoe Jewell

Myfyriwr yw Zoe Jewell sy’n gobeithio parhau i ddysgu ac mae’n bwriadu astudio deieteg. Er nad yw wedi gweithio yn y diwydiant bwyd o’r blaen, mae ganddi angerdd mawr tuag ato.

Pan ddaeth Zoe yn fam, atgyfnerthwyd ei hangerdd tuag at fwyd hyd yn oed yn fwy gan ei bod am i’w mab gael dechrau mor iach â phosibl mewn bywyd. Gyda’i gilydd mae gan Zoe a’i phartner bump o blant ac yn gweld y gall bwyta’n iach fod yn ddrud iawn, ac felly’n deall pam mae rhai teuluoedd yn dewis bwyd rhatach nad yw mor iach. Fel rhan o’i rôl fel Hyrwyddwr Llysiau, mae Zoe yn edrych ymlaen at gynghori teuluoedd mawr a phlant am sut i fwyta’n iach.

Mae Zoe, sy’n byw yng Nghaergybi, yn awyddus i addysgu’r genhedlaeth iau ynglŷn â llesiant ac mae’n awyddus iawn i’w hannog i flasu llysiau newydd. Drwy dargedu plant yn ifanc, mae’n credu ei bod yn bosibl eu helpu i ddatblygu arferion bwyta da a’u rhannu â’u rhieni. Hoffai Zoe hefyd weithio gyda theuluoedd mawr i’w haddysgu am sut i siopa’n ddoethach ac yn iachach.