Tendai Tandi

Newydd ddechrau gweithio gyda systemau bwyd mae Tendai Tandi.  Credai Tendai, sy’n byw yng Nghaerdydd, ei bod wedi llwyddo i wyrdroi diabetes math 2 yn naturiol gan ddefnyddio planhigion fel meddyginiaeth. Mae Tendai yn credu bod bwyta mwy o ffrwythau a llysiau o fudd i iechyd pobl a hefyd yn atal clefydau sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw megis diabetes. Mae hi hefyd yn credu ei bod yn hynod bwysig i gymunedau gael mynediad at ffrwythau a llysiau, a dysgu iddynt sut i’w coginio a’u storio er mwyn lleihau gwastraff a gofalu am yr amgylchedd.

Mae Tendai yn credu ei bod yn bwysig iawn cael grŵp amrywiol o bobl yn Hyrwyddwyr Llysiau, ac fel aelod o’r gymuned Du Affricanaidd yng Nghaerdydd, dywedodd fod modd iddi gyrraedd y gymuned Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME). Mae Tendai yn awyddus i weld pobl yn bwyta mwy o lysiau a ffrwythau er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles.