Pearl Costello

Pearl Costello yw Rheolwr Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ar ran Synnwyr Bwyd Cymru.

Rhwng 2019 a 2025, cydlynodd Pearl bartneriaeth Bwyd Caerdydd ac arweiniodd ar gais llwyddiannus Caerdydd i fod y Lle Bwyd Cynaliadwy Aur cyntaf yng Nghymru. Oherwydd profiad a llwyddiant Pearl wrth feithrin partneriaeth fwyd, mae hi bellach yn arwain y gwaith o gefnogi datblygiad rhwydwaith Partneriaeth Bwyd Lleol ledled Cymru ac yn eistedd ar Fwrdd Rheoli Rhaglenni’r DU ar gyfer Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.

Cyn ymuno â Synnwyr Bwyd Cymru, arweiniodd Pearl raglen gynaliadwyedd uchelgeisiol a thrawsnewidiol yn y Brifysgol Amaethyddol Frenhinol a datblygodd raglenni ymgysylltu cynaliadwyedd a newid ymddygiad arloesol gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

Y tu allan i’r gwaith, fel arfer, gellir dod o hyd i Pearl yn y môr ac yn yr adaloedd cyfagos: yn cerdded yr arfordir, nofio a phadlfyrddio; neu yn tynnu gormod o luniau o’i chi.