Lucinda Jones
Lucinda yw Cydlynydd Bwyd Caerdydd o fewn tîm Synnwyr Bwyd Cymru. Mae ganddi dros 8 mlynedd o brofiad o weithio ar ystod o raglenni cynaliadwyedd a chadwyn gyflenwi yn y sector preifat, yn fwyaf diweddar yn y tîm Cyrchu Cynaliadwy yn Unilever lle bu’n arweinydd y rhaglen Bywoliaeth Ffermwyr Bychain fyd-eang, gan weithio gyda rhwydwaith eang o bartneriaid i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i ffermwyr a chadwyni cyflenwi mwy gwydn. Fel rhan o’i gwaith, treuliodd Lucinda dros flwyddyn yn Indonesia, gan weithio fel rhan o’r tîm cynaliadwyedd lleol ar gynhwysion allweddol fel te a chnau coco. Y tu allan i’r gwaith, mae gan Lucinda gysylltiad cryf â ffermio oherwydd ei magwraeth ar fferm fach ger y Gelli Gandryll. Mae Lucinda yn heicwraig angerddol, ac yn mwynhau archwilio lleoedd newydd a threulio amser ‘nôl ar y fferm – yn fwyaf diweddar yn casglu afalau a’u gwasgu i wneud sudd. Mae Lucinda’n gyffrous i fod yn gweithio ar systemau bwyd cynaliadwy ar lefel leol yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid perthnasol yn y maes hwn.