Gary Mahoney

Mae Gary Mahoney o Abertawe wedi bod yn gweithio ar y Cynllun cyn-ysgol iach ers sawl blwyddyn ac mae ei angerdd tuag at y maes gwaith hwn wedi cynyddu. Mae’n credu bod angen i blant ifanc gael mynediad at lysiau, ond yn aml mae’r cyfle i rieni ddarparu hynny yn lleihau. Mae Gary hefyd yn meddwl bod gwybodaeth ynglŷn â sut i goginio llysiau yn broblem mewn rhai cymunedau a dywed y bydd y genhedlaeth nesaf yn dioddef oni bai ein bod yn gweithredu nawr.

Hoffai Gary weld ysgolion, lleoliadau cyn-ysgol, gweithwyr rhianta, a rhieni eu hunain, yn darparu bwyd o ansawdd gwell i’r plant dan eu gofal. Dywed fod y neges bwyta’n iach yn cael ei cholli’n llawer rhy aml ymysg y sŵn o fewn y sector bwyd.