Elizabeth Westaway

Mae Elizabeth Westaway yn byw yn Abertawe ac mae’n gweithio fel maethegydd iechyd y cyhoedd rhyngwladol.  Hoffai Elizabeth gyfrannu at newid y system fwyd a ffermio i fod yn system amaethyddol agroecolegol/paramaethu/atgynhyrchiol sy’n cynhyrchu bwyd llawn maethynnau a all leihau pa mor gyffredin yw clefydau anhrosglwyddadwy sy’n gysylltiedig â deiet.

Elizabeth yw cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Growing Real Food For Nutrition (Grffn) CIC sy’n treialu gwahanol arferion tyfu bwyd er mwyn tyfu, mesur a hyrwyddo ffrwythau a llysiau sy’n llawn maeth i wella iechyd pobl a’r blaned. Mae’n credu bod ei rôl fel Hyrwyddwr Llysiau yn cyd-fynd â nodau Grffn i hyrwyddo pwysigrwydd tyfu a bwyta bwyd llawn maeth er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion yn iach a’n planed yn iach.