Synnwyr Bwyd Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru 2025
Mae tîm Synnwyr Bwyd Cymru yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r Pentref Garddwriaeth yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, gan arddangos eu prosiectau blaenllaw a thynnu sylw at eu gwaith i adeiladu system fwyd iachach a mwy cynaliadwy ledled Cymru.
Wedi’i lleoli yn y Pentref Garddwriaeth, mae ardal Synnwyr Bwyd Cymru yn gwahodd ymwelwyr i ddygsu mwy am Bartneriaethau Bwyd Lleol a chwrdd â’r cydlynwyr ysbrydoledig sy’n trawsnewid systemau bwyd yn eu cymunedau. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael blas ar brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, sy’n helpu i gynnwys mwy o lysiau organig a dyfir yn lleol i brydau ysgol ledled y wlad.
Bydd dwy ardd fach, wedi’u plannu gan y tîm yn Fferm Bremenda Isaf yn Sir Gaerfyrddin, gan arddangos y mathau o lysiau sy’n cael eu tyfu fel rhan o’r fenter gyffrous hon.
Drwy gydol yr wythnos, bydd Synnwyr Bwyd Cymru hefyd yn cynnal cyfres o sesiynau diddorol yn y Dysgubor:
Sesiynau Dysgubor
O’r Plot i’r Plât – Dathlu Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion
- Dydd Llun a Dydd Mawrth am 3pm: Ymunwch â’r cogydd Nerys Howell am arddangodfa goginio byw gan ddefnyddio llysiau lleol, organig a thymhorol. Bydd y sesiwn yn cynnwys sgyrsiau gyda thyfwyr, addysgwyr, a phartneriaid sy’n rhan o’r prosiect.
- Dydd Mercher am 2pm a Dydd Iau am 3pm: Bydd Stewart Williams, Cogydd Datblygu Castell Howell, yn cymryd y llwyfan ar gyfer sesiwn ryngweithiol debyg, gan goginio gan ddefnyddio llysiau lleol, organig, a thymhorol.
Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion – Tyfu Cysylltiadau
- Dydd Mawrth am 11am: Dam ofal Castell Howell, bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno gan blant Ysgol y Dderi, Ceredigion. Wedi ymuno â’r fenter yn 2024, mae’r plant yn esbonio sut y gwnaethon nhw ddod i gymryd rhan ac yn siarad ag aelodau allweddol y prosiect am eu gwaith fel rhan o’r cynllun. Gwrandewch are u podlediad diweddaraf yma.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru hefyd yn falch o gynnal digwyddiad arbennig yn Nhŵr Brycheiniog brynhawn dydd Mawrth.
- Partneriaethau Bwyd Lleol – Tyfu Mudiad Bwyd Da yng Nghymru
Dydd Mawrth am 2.30pm: Ers 2022, mae Partneriaethau Bwyd Lleol wedi ehangu i gwmpasu pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru ac wed’u cydnabod yn Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru.
Ymunwch â Synnwyr Bwyd Cymru a chydlynwyr ac aelodau Partneriaethau Bwyd Lleol, i ddarganfod mwy am y mudiad cyffrous hwn. Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer y digwyddiad hwn felly os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, anfonwch e-bost at foodsensewales@wales.nhs.uk
“Rydym wrth ein bodd yn cael rhannu egni ac arloesedd ein gwaith yn Sioe Frenhinol Cymru eleni,” meddai Katie Palmer, Pennaeth Synnwyr Bwyd Cymru. “Dyma gyfle gwych i ddathlu’r mentrau, y bobl a’r partneriaethau sy’n helpu i lunio dyfodol bwyd gwell i Gymru.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i ardal Synnwyr Bwyd Cymru yn y Pentref Garddwriaeth neu anfonwch e-bost.
Gallwch hefyd ddilyn Synnwyr Bwyd Cymru ar Facebook, Instagram, LinkedIn a Bluesky. Defnyddiwch #SynnwyrBwydCymru i ddod o hyd i ni.
DIWEDD
- Am fanylion pellach neu i drefnu cyfweliadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg, cysylltwch â Siân-Elin Davies, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn Synnwyr Bwyd Cymru – sian-elin.davies@wales.nhs.uk