Syniadau Mawr rhaglen Pontio’r Bwlch i’w treialu yng Nghaerdydd

Mae creu system fwyd decach a mwy cynaliadwy yn golygu mynd i’r afael â materion sy’n aml yn cyflwyno heriau cysylltiedig. Ar hyn o bryd mae bwyd sydd o les i bobl ac i’r blaned, sydd o fudd i gymunedau ac sy’n cynnig bywoliaeth ddigonol, yn ddrytach na bwyd sy’n ddrwg i iechyd ac wedi’i gynhyrchu mewn ffyrdd sy’n niweidio’r blaned. Ar yr un pryd, mae llawer o gymunedau’n dioddef canlyniadau iechyd yn sgil y ffaith nad ydynt yn gallu bwyta bwyd ffres a maethlon.

Lansiwyd y rhaglen Pontio’r Bwlch i fynd i’r afael â’r her hon a chreu ffyrdd newydd o alluogi cymunedau sydd ag incwm isel a chymunedau ymylol i gael gwell cyfle i fwyta bwyd sy’n fforddiadwy, yn iach, ac yn llesol i’r blaned.

Mewn dau weithdy hanner diwrnod a gynhaliwyd gan Watch-Africa CIC ar 5-6 Gorffennaf ar ran Sustain, Synnwyr Bwyd Cymru a Bwyd Caerdydd, bu grŵp o aelodau o’r gymuned, ffermwyr, rheolwyr marchnadoedd a deietegwyr wrthi’n gweithio ar greu ‘syniadau mawr’ ar gyfer un neu ddau brosiect peilot i’w cynnal yng Nghaerdydd.

Nod y prosiectau yw galluogi teuluoedd ar gyllideb, sy’n dod o gymunedau ethnig amrywiol, ac o Gaerdydd, i brynu llysiau organig sy’n ddiwylliannol briodol ac sydd wedi’u tyfu’n lleol ac yn gynaliadwy.

Mae’r Gweithdy Syniadau Mawr wedi’i gynllunio fel ffordd gyflym ac effeithiol o ganfod atebion i heriau mawr, ac i helpu grŵp o wahanol bobl i ddatblygu a phrofi’r syniadau.

Dros y ddau ddiwrnod, datblygodd y grŵp ‘syniadau mawr’ ar gyfer prosiectau peilot, a fydd nawr yn cael eu datblygu ymhellach ar y cyd â’r bobl a fydd yn elwa ohonynt. Mae Bwyd Caerdydd wedi sicrhau cyllid i brofi’r syniadau ar lefel ymarferol dros y 18 mis nesaf.

Dywedodd Sharifah, sy’n byw yng Nghaerdydd:

“Dydw i ddim yn prynu llawer o bethau organig, ond dw i eisiau gwneud mwy ac roeddwn i’n meddwl y byddai hwn yn gyfle i mi ddeall yn well yr heriau sy’n ymwneud â chynnyrch organig a phwysigrwydd ei gael yn ein bywydau bob dydd.”

Ymhlith y ffermwyr sy’n cymryd rhan roedd Bonvilston Edge, Earth to Earth Organics a Gardd Salad Caerdydd. Esboniodd Sophie o Ardd Salad Caerdydd:

“Mae wedi bod yn ddiddorol iawn bod gyda grŵp mor amrywiol o bobl. A chlywed llawer am wahanol lysiau y mae pobl yn eu bwyta – llysiau dwi’n gwybod y gallwn ni eu tyfu yma, ond wnes i ddim sylweddoli bod galw amdanyn nhw. Mae hynny’n ddiddorol iawn.”

Y Syniadau Mawr

Syniad Mawr 1: Cerdyn y Blaned

System bwyntiau ddigidol drwy gerdyn neu ap sy’n darparu gwybodaeth am fwydydd tymhorol, lleol, sydd o les i’r hinsawdd ac sy’n gwobrwyo’r defnyddiwr am brynu’r bwydydd hynny. Gallai hyn gyd-fynd â strwythurau, gostyngiadau a gwobrau presennol. Gallai gynnwys elfen prawf modd a fyddai’n cynyddu’r pwyntiau neu’n rhoi credyd i bobl ar incwm is, fodd bynnag byddai’r cerdyn/ap yn agored i bawb a byddai ei ddefnyddio’n golygu bod pobl yn ymddwyn yn bositif, yn hytrach na bod stigma neu gywilydd o ddefnyddio’r cerdyn/ap.

Syniad Mawr 2: Bocs Tymhorol Cymunedol

Bocs llysiau lleol fforddiadwy sy’n amlygu’r prif gnydau tymhorol, gan werthu’r bocs am bris gostyngol mewn lleoliadau cymunedol, marchnadoedd a/neu siopau lleol ac a gefnogir gan raglen o weithgareddau a gweithdai i bobl ddysgu sut i ddefnyddio’r cynnyrc

Yn ogystal â datblygu’r Syniadau Mawr, mae’r sesiwn wedi arwain at fwy o gysylltiadau a rhwydweithiau o ran bwyd i’r sawl a gymerodd ran. Ers hynny mae’r ffermwyr wedi ymweld â’i gilydd ac mae ymweliad grŵp â Marchnad Ffermwyr Glan-yr-afon wrthi’n cael ei gynllunio. Mae aelodau’r grŵp wedi ymuno â chyfarfodydd rhwydwaith Bwyd Caerdydd ac mae cynlluniau ar y gweill i gynnal gweithdai ar y cyd i arddangos a dathlu bwydydd diwylliannol amrywiol.

Dywedodd Carol, rheolwr Marchnad Ffermwyr Caerdydd:

“Pan ydych chi mewn ystafell gyda grŵp o bobl sy’n teimlo mor angerddol am fwyd a chyfiawnder bwyd, a phan ydych chi’n clywed yr amrywiaeth o syniadau a’r brwdfrydedd – a bod pobl eraill yn meddwl am y pethau hyn – mae’n wirioneddol galonogol ac yn rhoi hwb i chi. Mae’r syniadau a ddeilliodd o heddiw yn mynd i ddod â ffermwyr, manwerthwyr, defnyddwyr, a chymunedau ynghyd – mae hynny’n rhywbeth cyffrous iawn.”

Mae’r rhaglen Pontio’r Bwlch yn cael ei chyflwyno gan bartneriaeth o sefydliadau yn y DU, dan arweiniad Sustain a chyda chefnogaeth gan Synnwyr Bwyd Cymru yng Nghymru, gyda chynlluniau peilot yng Nghaerdydd yn cael eu datblygu drwy rwydwaith Bwyd Caerdydd. Bydd y partneriaid yn cynnal prosiectau peilot mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y DU, ac yn defnyddio’r canlyniadau i ddangos beth sy’n gweithio a helpu wrth greu rhaglenni cynaliadwy, hirdymor.